Ydych chi’n cynllunio taith i Fanceinion? Cymerwch un o'n trenau yn uniongyrchol o orsaf Crewe a chyrhaeddwch mewn tua 30 munud.

Mae ein ap ffôn symudol am ddim yn eich galluogi i gael mynediad i'n holl fargeinion tocynnau arbed arian yn gyflym.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Crewe i Fanceinion?

Dim ond 30 munud ydyw, gan gynnig ffordd gyflym a di-straen o gyrraedd un o ddinasoedd mwyaf bywiog y DU.

 

Pam teithio o Crewe i Fanceinion?

Mae mynd ar y trên o Crewe i Fanceinion nid yn unig yn gyflym ac yn gyfleus ond hefyd yn gyfle perffaith i ymlacio cyn dechrau eich diwrnod. Gyda mynediad at fargeinion tocynnau arbed arian trwy ein ap ffôn symudol am ddim a Wi-Fi am ddim, gall eich taith fod yn gynhyrchiol, yn ddifyr neu'n heddychlon.

 

Pam ymweld â Manceinion?

Mae Manceinion yn ddinas fywiog a chosmopolitaidd gyda rhywbeth i bawb, o ffans chwaraeon a’r rhai sy’n frwdfrydig dros hanes i’r rheiny sy’n dwlu ar siopa a bwyd.

 

Hwyl i'r teulu

Archwiliwch yr Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant, lle mae arddangosfeydd ymarferol yn dod â gwyddoniaeth, technoleg ac arloesedd yn fyw. Fel arall, ewch i Amgueddfa Manceinion, sy'n gartref i arddangosfeydd hynod ddiddorol, yn amrywio o ddeinosoriaid a mwmïau yr Hen Aifft i drysorau o bob cwr o'r byd.

 

Cewch fodd i fyw yn siopa

Mae Manceinion yn baradwys i siopwyr gan ei bod yn gartref i ddwy ganolfan siopa fawr,: Canolfannau Arndale a Trafford, sy’n llawn brandiau a siopau dylunwyr adnabyddus. Os ydych yn chwilio am rywbeth mwy unigryw, archwiliwch siopau boutique annibynnol y ddinas, sy’n cynnig crefftau lleol, danteithion arbennig a nwyddau wedi'u gwneud â llaw sy'n gwneud cofroddion perffaith.

 

Bodlonwch eich chwant bwyd

Bydd y rhai sy’n dwlu ar fwyd wrth eu bodd â'r Corn Exchange, adeilad Edwardaidd syfrdanol sy'n llawn bwytai a chaffis sy'n cynnig cyfuniad o fwydydd byd-eang. P'un a yw'n damaid cyflym i’w fwyta, pryd o fwyd hamddenol ar ôl diwrnod o grwydro atyniadau twristaidd, neu brofiad bwyta unigryw, mae gan Fanceinion rywbeth at ddant pawb.

P'un a ydych chi'n ymweld â Manceinion ar gyfer busnes neu bleser, dal y trên o Crewe yw'r ffordd fwyaf hamddenol o deithio. Mwynhewch ein Wi-Fi am ddim ar y ffordd adref a dechreuwch gynllunio eich antur nesaf.