Nid yw teithio o Crewe i Gaerdydd erioed wedi bod yn haws. Mae ein trenau'n cynnig taith gyfforddus, ddidrafferth gyda digon o opsiynau i gyd-fynd â'ch amserlen. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd wrth i chi deithio i brifddinas fywiog Cymru. Prynwch eich tocyn heddiw a dechreuwch eich antur o Crewe i Gaerdydd.
Manylion allweddol
- Hyd y daith: 2 awr 40 munud ar gyfartaledd
- Trenau uniongyrchol: Oes
- Amlder: Hyd at 32 o drenau bob dydd
- Trên cyntaf: Tua 05:13 o Crewe (gall amrywio ar ddyddiau Sul)
- Trên olaf: Tua 21:10 o Crewe (gall amrywio ar y penwythnos)
- Gorsafoedd galw allweddol: Stafford, Wolverhampton, Amwythig, Henffordd
- Gorsaf darddiad: Crewe
- Gorsaf gyrchfan: Caerdydd Canolog
- Cyfleusterau: Seddi eang, mannau gwefru a Wi-Fi am ddim ar y trên.
- Arbedion ar docynnau: Prynwch yn gynnar, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru -
Uniongyrchol
Pam teithio ar y trên o Crewe i Gaerdydd?
Mae Caerdydd yn ddinas sy'n llawn hanes, diwylliant a swyn glan yr afon, yn berffaith ar gyfer trip undydd neu wyliau hirach. Mae rhywbeth at ddant pawb, o amgueddfeydd diddorol i barciau golygfaol ac ardaloedd siopa bywiog.
- Castell Caerdydd: Archwiliwch dros 2,000 o flynyddoedd o hanes yng nghanol y ddinas, gan gynnwys muriau Rhufeinig, caer Normanaidd a thu mewn Fictoraidd trawiadol.
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Dewch o hyd i gelfyddyd gain, hanes natur ac arddangosfeydd rhyngweithiol - yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd neu’r rheini sy’n dwlu ar ddiwylliant.
- Parc Bute: Crwydrwch ar hyd Afon Taf yn y parc 56 hectar hwn, sy'n cynnwys gerddi hardd, llwybrau cerdded coetir a digon o le i ymlacio.
- Bae Caerdydd: Mwynhewch bryd o fwyd ar lan y dŵr, atyniadau fel Canolfan Mileniwm Cymru ac adloniant gyda'r nos.
- Siopa: O ffefrynnau’r stryd fawr yng Nghanolfan Dewi Sant i siopau annibynnol, mae Caerdydd yn cynnig digon o ddewis ar gyfer ychydig o therapi manwerthu.
Bwriwch olwg ar ein canllaw i ymweld â Chaerdydd am fwy o ysbrydoliaeth.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu tocynnau trên o Crewe i Gaerdydd
Arbedwch arian ar eich taith gyda'r opsiynau canlynol:
- Tocynnau Advance*: Prynwch docynnau’n gynnar i fachu’r prisiau gorau.
- Cardiau rheilffordd: Arbedwch hyd at draean ar eich taith nesaf.
- Tocynnau Unrhyw Bryd: Teithio hyblyg, unrhyw bryd yn ystod y dydd.
- Tocynnau tymor - Gwerth gwych am arian i deithwyr rheolaidd.
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.
Cwestiynau cyffredin
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Crewe i Gaerdydd?
Mae'r trenau cyflymaf o Crewe i Gaerdydd yn cymryd tua 2 awr a 10 munud, a’r amser teithio cyfartalog yw tua 2 awr a 40 munud. Mae gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg drwy gydol y dydd, gan roi digon o opsiynau i chi.
Oes trenau uniongyrchol o Crewe i Gaerdydd?
Oes, mae gwasanaethau uniongyrchol o Crewe i Gaerdydd bob dydd.
Ym mha orsafoedd mae'r trên o Crewe i Gaerdydd yn galw?
Mae'r gwasanaethau hyn fel arfer yn galw mewn gorsafoedd allweddol fel Caer, Amwythig a Henffordd.
Pa mor aml mae trenau o Crewe i Gaerdydd?
Gall trenau redeg hyd at 3 gwaith yr awr yn ystod oriau brig, gyda thua 32 o wasanaethau'r dydd.
Pryd mae'r trên cyntaf o Crewe i Gaerdydd?
Fel arfer, mae trên cyntaf y dydd yn gadael Crewe am 05:13 yn y bore.
Pryd mae'r trên olaf o Crewe i Gaerdydd?
Fel arfer, mae'r trên olaf yn gadael Crewe am 21:10, gyda rhai gwasanaethau'n amrywio yn dibynnu ar y diwrnod.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-