Teithio ar y trên i Gasnewydd

Darganfyddwch ddinas fywiog Casnewydd yn Ne Cymru. O'i sîn ddiwylliannol fywiog, i hanes a threftadaeth gyfoethog a lleoedd i weld bywyd gwyllt, mae Casnewydd yn cynnig cymysgedd unigryw o brofiadau.

Gallwch gerdded o un pen canol dinas gryno Casnewydd i'r llall mewn ychydig mwy na 10 munud, neu lawer yn hirach os byddwch chi'n stopio yn yr eglwys gadeiriol, yr amgueddfa a'r oriel gelf a'r farchnad dan do draddodiadol.

 

Pethau i'w gweld

Marchnad Casnewydd - Wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar, mae neuadd y farchnad o'r 19eg Ganrif yn cynnal dros 60 o fasnachwyr annibynnol gyda danteithion blasus i'w cael. Dim ond 5 munud o gerdded o'r orsaf drenau.

Baddondy Rhufeinig Caerllion - Gyda chysylltiad bws, gallwch archwilio Baddondy Rhufeinig Caerllion, gweld y pwll nofio awyr agored, y barics, yr amffitheatr a mwy. 2 docyn mynediad am 1 gyda thocyn trên dilys TrC.

 

Teithio i Gasnewydd ar drên

Mae teithio i Gasnewydd ar drên yn hawdd. Mae gwasanaethau’n cyrraedd o bob cwr o Gymru a’r Deyrnas Unedig. Mae rhai o’n llwybrau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:

Manceinion Piccadilly i Gasnewydd

Y Fenni i Gasnewydd

Caerdydd Canolog i Gasnewydd

 

Teithio Dosbarth Cyntaf i Gasnewydd

Rydyn ni’n galw yng Nghasnewydd ar ein Gwasanaeth Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi. Mae tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael rhwng Bangor a rhai lleoliadau. Cliciwch yma i weld a yw’r rhain ar gael ar gyfer eich taith.

Beth am roi gwledd i chi eich hun ar eich taith yng Nghasnewydd? Mae ein gwasanaeth bwyd Dosbarth Cyntaf yn cynnwys prydau clasurol sy’n cael eu gweini gan ein staff cyfeillgar a chroesawgar.

Gallwch brynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar ein ap a’n gwefan, o swyddfa docynnau eich gorsaf neu o beiriannau tocynnau.