Chwe Gwlad 2026

Ym mis Chwefror a Mawrth 2026, bydd Stadiwm Principality yn cynnal gemau rygbi rhyngwladol y Chwe Gwlad dros dri phenwythnos cyffrous. Rydyn ni yma er mwyn eich hebrwng chi i'r gêm - ac adref - yn ddiogel.

 

Gemau

Gêm

CG

Dyddiad

Lleoliad

Cymru v Ffrainc15:10Dydd Sul 15 Chwefror 2026Stadiwm Principality, Caerdydd
Cymru v Yr Alban16:40Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2026Stadiwm Principality, Caerdydd
Cymru v Yr Eidal16:40Dydd Sadwrn 14 Mawrth 2026Stadiwm Principality, Caerdydd

 

Cau meysydd parcio

Oherwydd y gemau rygbi yn Stadiwm Principality, bydd meysydd parcio ar gau yng Nghaerdydd Canol ar y dyddiadau isod.

Cymru v Ffrainc  (Dydd Sul 15 Chwefror 2026)
Maes parcio Glanyrafon ar gau o 20:00 14 Chwefror 2026 tan 04:00 16 Chwefror 2026.
Maes parcio Heol Penarth ar gau o 06:00 11 Chwefror 2026 tan 04:00 16 Chwefror 2026.

Cymru v Yr Alban (Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2026)
Maes parcio Glanyrafon ar gau o 20:00 20 Chwefror 2026 tan 04:00 22 Chwefror 2026.
Maes parcio Heol Penarth ar gau o 06:00 18 Chwefror 2026 tan 04:00 22 Chwefror 2026.

Cymru v Yr Eidal (Dydd Sadwrn 14 Mawrth 2026)
Maes parcio Glanyrafon ar gau o 20:00 13 Mawrth 2026 tan 04:00 15 Mawrth 2026.
Maes parcio Heol Penarth ar gau o 06:00 11 Mawrth 2026 tan 04:00 15 Mawrth 2026.

Cau Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd

Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau yn unol â chau'r ffyrdd. Bydd amseroedd yn cael eu cadarnhau cyn bo hir, yn ogystal â’r safleoedd bws newydd.

System ciwio wedi digwyddiad

Bydd system ciwio ar waith ger Caerdydd Canolog ar ôl y gêm. Ein blaenoriaeth yw i’ch hebrwng chi adref yn ddiogel; os gwelwch yn dda byddwch yn amyneddgar gyda ni - bydd y gwasanaethau’n brysur, a byddwn yn darparu trên i chi cyn gynted ag y gallwn.

Gwelliannau i'r gwasanaeth

Rydym yn gweithio'n galed i gryfhau a darparu gwasanaethau allweddol ychwanegol ar ôl y digwyddiad hebrwng chi adref yn ddiogel.

Newidiadau safle tacsi

Bydd safle tacsi Heol Saunders yn cau a bydd safle tacsi dros dro tu ôl i orsaf Ganolog Caerdydd. Bydd amseroedd yn cael eu cadarnhau yn fuan.

 

Ar ôl y gêm

Tocynnau

Prynwch cyn teithio

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y gêm.

Caiff tocynnau eu gwirio ar ôl gemau'r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd. I'r rhai sy'n defnyddio talu wrth fynd, byddwch yn gallu tapio allan ar ddiwedd y system giwio.

Ciw

Ciw ar ôl y gêm

Bydd system ciwio yn weithredol yng ngorsaf Ganolog Caerdydd. Bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu ar gyfer teithiau dwyffordd, byddwch yn amyneddgar.

Diogelwch y cyhoedd

Diogelwch y cyhoedd

Bydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio.

Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio.

 

Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.