Mae gorsaf Garth yn gwasanaethu pentref Garth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae ar Reilffordd Maesteg, gan ddarparu cysylltiadau rheilffordd tuag at Faesteg, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae gan yr orsaf un platfform, ac mae seddi a gwybodaeth fyw am amseroedd gadael ar gael.

Does dim swyddfa docynnau na pheiriant tocynnau yng ngorsaf Garth Pen-y-bont ar Ogwr, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn prynu eich tocynnau trên ar-lein neu drwy’r ap cyn i chi deithio. Dydyn ni ddim yn codi ffioedd archebu.

Cyfleusterau gorsaf

Dyma wybodaeth awtomatig gan www.nationalrail.co.uk (yn agor mewn ffenestr newydd), ac mae’n bosibl y bydd elfennau ohoni ond ar gael yn Saesneg.

Gwybodaeth cyffredinol am wasanaethau
Lefel Staffio
dim staff
Teledu Cylch Cyfyng

Na

Gwybodaeth Ar Gael Gan Staff
If the station is unstaffed, please contact the customer relations team or onboard staff
Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid
  • Sgriniau Gadael
  • Sgriniau Cyrraedd
  • Cyhoeddiadau
Mannau Cymorth i Gwsmeriaid

Na

Prynu a chasglu tocynau
Swyddfa Docynnau

Na

Cyhoeddi Cerdyn Oyster

Na

Defnyddio Cerdyn Oyster

Na

Dangos Meysydd Cerdyn Oyster Bob Tro

Na

Cyhoeddi Cerdyn Clyfar

Na

Dilysu Cerdyn Clyfar

Na

Sylwadau Cerdyn Clyfar

Llwythwch docyn tymor wedi’i brynu ymlaen llaw ar gerdyn clyfar gan ddefnyddio’r dilysydd cerdyn clyfar neu’r peiriant gwerthu tocynnau.

Tocynnau Cosb
AW
Holl gyfleuterau’r orsaf
Ardal gyda Seddi
Ie
Ystafell Aros

Na

Bwffe yn yr Orsaf

Na

Toiledau

Na

Ystafell Newid Babanod

Na

Ffonau

Na

Wi Fi

Na

Hygyrchedd a mynediad symudedd
Llinell Gymorth

03333 211202

https://www.nationalrail.co.uk/
Llun-Sul 08:00 i 20:00
Cymorth ar gael gan Staff

Na

Nid oes staff platfform ar gael yn yr orsaf hon. Mae cymorth ar gael gan y Goruchwyliwr ar y trên.

Dolen Sain

Na

Peiriannau Tocynnau Hygyrch

Na

Cownter Is yn y Swyddfa Docynnau

Na

Ramp i Fynd ar y Trên
Ie
Tacsis Hygyrch

Na

Y Gorsafoedd Agosaf sydd â mwy o Gyfleusterau
BGN
Toiledau’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol

Na

Mynediad Heb Risiau

Categori B1.

Camwch fynediad am ddim i'r platfform trwy lwybr troed o faes parcio'r orsaf


Darllediadau: Gorsaf rannol
Gatiau Tocynnau

Na

Man Gollwng Teithwyr â Nam Symudedd

Na

Cadeiriau Olwyn Ar Gael

Na

Teithio â Chymorth

Rydym eisiau i bawb deithio yn hyderus. Dyna pam, os ydych chi'n bwriadu teithio ar wasanaethau rheilffyrdd cenedlaethol, gallwch ofyn am archebu cymorth ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn i'ch taith ddechrau, unrhyw adeg o'r dydd. I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth i Deithwyr a sut i ofyn am archebu cymorth drwy Passenger Assist, cliciwch yma.

Dolenni trafnidiaeth
Mannau Storio Beiciau
Mannau: 0
Gwarchod: Na
Teledu cylch cyfyng: Na
Gwasanaethau Bws yn lle’r Trenau

Tuag at Maesteg - Safle bws lleol ar Stryd y Felin ger y gyffordd â Pharc Rhosyn

W3W English: venue.faster.mull - W3W Cymraeg: traddodiad.dywediad.clwb

Tuag at Ben-y-bont ar Ogwr - Safle bws lleol ar Stryd y Felin ger y gyffordd â Mill View

W3W English: Form.things.roofs - W3W Cymraeg: /tonfedd.gwenaf.odli

Llogi Beiciau

There are no cycle hire facilities at this station

Gwybodaeth i gwsmeriad
Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn uniongyrchol drwy wefan Trafnidiaeth Cymru.

Cadw Bagiau

Na

https://www.nationalrail.co.uk/
Eiddo Coll
Ie

Enw'r Gweithredwr: Transport for Wales
https://www.nationalrail.co.uk/
Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

 

Sut mae cyrraedd gorsaf Garth

Mae gorsaf Garth ar Mill Street, Garth, Pen-y-bont ar Ogwr, CF34 9HS. Mae modd cael mynediad heb risiau at y platfform o Mill Street ar hyd ramp gweddol serth, gyda llwybr arall heb risiau o Park View.

Os oes gwasanaeth bws yn rhedeg yn lle’r trenau, mae’r safle bws wrth fynedfa’r orsaf.

 

Parcio yng ngorsaf Garth

Mae’n werth cofio nad oes mannau parcio penodol yng ngorsaf Garth. Does dim mannau parcio hygyrch dynodedig na man gollwng teithwyr hygyrch yn yr orsaf chwaith.

 

Beicio i orsaf Garth

Ar hyn o bryd does dim mannau pwrpasol i storio beiciau yng ngorsaf Garth.

 

Hanes gorsaf Garth

Agorodd gorsaf bresennol Garth ym 1992 pan ddychwelodd gwasanaethau i deithwyr i’r rheilffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg. Roedd yn disodli gorsaf flaenorol o’r enw Troedyrhiw Garth, ymhellach i’r de, a oedd wedi cau pan ddaeth gwasanaethau i deithwyr ar y llwybr i ben ym 1970.

Garth (Pen-y-bont ar Ogwr) yw enw’r orsaf er mwyn ei gwahaniaethu rhwng gorsaf Garth ym Mhowys, sydd ar Reilffordd Calon Cymru.

 

Cwestiynau cyffredin am orsaf Garth

Oes swyddfa docynnau yng ngorsaf Garth?

Nac oes. Does dim staff yng ngorsaf Garth a does dim swyddfa docynnau na pheiriant tocynnau yno. Rydyn ni’n argymell prynu eich tocyn ar-lein neu drwy’r ap cyn teithio.

Oes llefydd parcio yng ngorsaf Garth?

Does dim llefydd parcio pwrpasol yng ngorsaf Garth.

Oes lle i storio beiciau yng ngorsaf Garth?

Nac oes. Ar hyn o bryd does dim mannau pwrpasol i storio beiciau yn yr orsaf.

Oes grisiau yng ngorsaf Garth?

Mae gorsaf Garth yn orsaf Categori B1. Mae modd cael mynediad heb risiau at y platfform ar hyd ramp gweddol serth o Mill Street, ac mae llwybr arall heb risiau ar gael o Park View. Gall y goruchwyliwr ar y trên ddarparu ramp i fynd ar y trên.

Oes toiledau yng ngorsaf Garth?

Nac oes. Does dim toiledau na chyfleusterau newid babanod yng ngorsaf Garth.

Oes ystafell aros yng ngorsaf Garth?

Does dim ystafell aros gaeedig, ond mae rhai seddi ar gael ar y platfform.

Sawl platfform sydd yng ngorsaf Garth?

Un platfform sydd yng ngorsaf Garth.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gorsafoedd Garth (Pen-y-bont ar Ogwr) a Garth (Powys)?

Mae gorsaf Garth (Pen-y-bont ar Ogwr) yn gwasanaethu pentref Garth ger Maesteg ar Reilffordd Maesteg. Gorsaf ar wahân ar Reilffordd Calon Cymru yw gorsaf Garth (Powys).

 

Teithiau poblogaidd o orsaf Garth

  • Garth i Ben-y-bont ar Ogwr
  • Garth i Gaerdydd Canolog
  • Garth i Faesteg