Er bod y Nadolig yn amser i ymlacio yng nghwmni ffrindiau a theulu, un o’r prif bethau sy’n achosi straen ar y diwrnod yw’r cinio Nadolig. Ond os am dynnu’r straen allan o’ch diwrnod drwy fwyta allan eleni, dyma rai o’n hoff lefydd i fwynhau eich cinio Nadolig ar draws Cymru.
Y bwytai Nadolig gorau yng Nghymru
Dyma rai o’n hoff fwytai cinio Nadolig yng Nghymru sy’n cynnig cinio Nadolig ar Ddydd Nadolig a phrydau bwyd Nadoligaidd dros gyfnod yr ŵyl.
Y Stackpole Inn
Tafarn a gwesty a enillodd sawl gwobr gyda chinio Nadolig traddodiadol a chynnyrch lleol blasus. Mae’n gŵn-gyfeillgar ac wedi’i addurno’n hyfryd, perffaith i fwynhau eich cinio rhost a phwdin ffigys.
Lleoliad: Stagbwll, Sir Benfro
Gorsaf agosaf: Penfro
Gwesty St George
Lle unigryw ar hyd yr arfordir i fwynhau bwyd danteithiol y Nadolig hwn. Gyda phedwar cwrs a digon o opsiynau blasus i ddewis ohonynt fydd yn eich llenwi ag ysbryd y Nadolig.
Lleoliad: Llandudno, Conwy
Gorsaf agosaf: Llandudno
Yr Ivy
Am ginio Nadolig yn y brifddinas, ni chewch well na bwyty hyfryd yr Ivy. Gallwch samplo’r fwydlen osod flasus mewn amgylchedd moethus a chyfeillgar.
Lleoliad: Caerdydd
Gorsaf agosaf: Caerdydd Heol y Frenhines
Tafarn yr Harbwr
Mae’r dafarn hamddenol hon yn Solfach yn gweini cinio Nadolig traddodiadol. Gallwch ddewis o fwydlen osod o blith pum gwahanol prif gwrs a bwydlen benodol i blant.
Lleoliad: Solfach, Sir Benfro
Gorsaf agosaf: Hwlffordd
Gwesty Llechwen Hall
Tŷ gwledig hardd yw Gwesty Llechwen Hall sy’n gweini cinio Nadolig blasus drwy gydol mis Rhagfyr a the prynhawn Nadoligaidd hefyd. Mae’n drysor cudd gan lawer, gyda digonedd o adolygiadau pum seren.
Lleoliad: Llanfabon, Morgannwg Ganol
Gorsaf agosaf: Abercynon
Tŷ Clwb y Twenty Ten
Dewch i fwynhau gwledd tri chwrs ac adloniant byw gyda chinio Nadolig bythgofiadwy, gan gynnwys ymweliad gan y dyn ei hun, Siôn Corn.
Lleoliad: Heol Cas-gwent, Casnewydd
Gorsaf agosaf: Casnewydd
Bwyty VIEW
Dewch fwynhau pryd Nadolig pum cwrs ym mwyty heddychlon y Marian Resort & Spa. Mae yma hefyd adloniant byw ardderchog i wneud diwrnod hollol hudolus ohoni.
Lleoliad: Allt-y-Graig, Dyserth
Gorsaf agosaf: Prestatyn
Teithio dros gyfnod y Nadolig? Prynwch docynnau trên yn uniongyrchol i osgoi ffi weinyddol.
Cofiwch - Dylech archebu a gwneud ymholiadau’n uniongyrchol drwy’r lle. Gall argaeledd a dyddiadau newid.