Mae rygbi wrth wraidd ein diwylliant ac mae’n rhan enfawr o fywyd beunyddiol ar draws y genedl. O nosweithiau rhyngwladol gorlawn i glybiau lleol gyda dilynwyr lleol, mae’r gêm yn rhan annatod o’n cymunedau. P’un a ydych yn dilyn y tîm cenedlaethol neu’n cefnogi ochr lleol, mae pêl droed a rygbi yn symbol cryf o le a hunaniaeth Cymru.

Mae diwrnodau’r gemau fel arfer yn brysur, yn enwedig os ydych yn mynd i gêm fawr. Mae cynllunio eich taith trên yn hwyluso’r diwrnod yn fawr. Gallwch osgoi traffig a dechrau mwynhau’r awyrgylch cyn y gêm ar y trên neu’r bws gyda chefnogwyr eraill. Rydyn ni yma i wneud teithio’n symlach gan eich cludo chi i galon y digwyddiad heb straen.

 

Calon y gêm: y prif dimau Cymreig

Mae rygbi Cymreig yn enwog am ei gefnogwyr brwdfrydig a’i dalent o’r radd flaenaf. Balchder y genedl yw’r tîm cenedlaethol, ond mae timau rhanbarthol a chlybiau sydd wedi bodoli ers cenedlaethau hefyd yn cadw’r ysbryd yn fyw.

  • Tîm cenedlaethol Cymru: Mae’r tîm cenedlaethol yn chwarae eu gemau cartref yng Nghaerdydd gan ddenu cefnogwyr o bob cwr o’r wlad.
  • Timau rhanbarthol: Y Gweilch, Scarlets, Dreigiau a Rygbi Caerdydd sy’n arwain y timau hyn. Mae’r timau hyn yn cystadlu mewn prif gynghreiriau rhyngwladol gan ddod a rygbi o’r radd flaenaf i stadiymau ledled Cymru.
  • Clybiau cymunedol: Y tu hwnt i’r rhanbarthau, mae timau hanesyddol megis Pontypridd, Llanelli a Chastell-nedd yn cynrychioli gwreiddiau a hanes y gêm.

 

Prif stadiymau a sut i’w cyrraedd

Stadiwm Principality, Caerdydd

Stadiwm Principality yw un o’r lleoliadau chwaraeon mwyaf eiconig y byd. Lleolir yng nghalon y ddinas ac mae’n enwog am ei hawyrgylch anhygoel pan fo’r to ar gau. Mae ond yn ychydig funudau ar droed o orsaf drenau Caerdydd Canolog, sy’n ei gwneud hi’n un o’r stadiymau hawsaf i’w gyrraedd ar drên.

 

Parc yr Arfau Caerdydd

Mae Parc yr Arfau Caerdydd yn gartref i rygbi Caerdydd. Lleolir drws nesaf i Stadiwm Principality yng nghalon y ddinas. Mae’r lleoliad hanesyddol hwn yn enwog am ei awyrgylch bywiog a’i gae artiffisial 3G o ansawdd uchel. Wedi’i amgylchynu gan y tafarndai a’r pyrth ar gyfer cefnogwyr gorau, lleolir yng nghanol y ddinas ar Heol y Porth, sydd dim ond yn bum munud ar droed o orsaf drenau Caerdydd Canolog.

 

Stadiwm Abertawe, Abertawe

Mae Stadiwm Abertawe yn gartref i’r Gweilch. Gyda chapasiti o 21,000, gall gynnal gemau cenedlaethol a rhyngwladol gan ddod a phrofiad cyfoes at ddiwrnod y gêm. Lleolir tua 25 munud ar droed o’r orsaf. Gallwch ei chyrraedd yn hawdd ar wasanaethau bws lleol.

 

Rodney Parade, Casnewydd

Mae Rodney Parade yn gartref i’r Dreigiau. Dyma un o’r caeau rygbi mwyaf traddodiadol, sy’n enwog am ei awyrgylch clos wrth fwynhau yng nghanol bwrlwm y gêm. Mae’r cae yn agos at yr orsaf ar droed sy’n berffaith ar gyfer cefnogwyr sy’n teithio o’r cymoedd a’r gororau.

 

Parc y Scarlets, Llanelli

Parc y Scarlets yw cartref y Scarlets. Mae’n stadiwm rygbi cysegredig sy’n enwog am ei chyfleusterau gwych. Lleolir ar ymyl y dref a gellir ei chyrraedd hi’n hawdd ar fws neu mewn tacsi o’r orsaf.

 

Awgrymiadau am ddiwrnod gêm hwylus

Gall ddiwrnodau gêm fod yn brysur. Y ffordd orau o fwynhau’r gêm felly yw drwy baratoi ymlaen llaw.

  • Gwiriwch ddiweddariadau byw cyn teithio: Defnyddiwch ein teclyn diweddariadau byw i weld y wybodaeth deithio ddiweddaraf cyn ichi ymadael.
  • Prynwch yn gynnar: I gael hyd i’r tocynnau mwyaf fforddiadwy, prynwch docyn Advance unwaith eu bod ar gael.
  • Defnyddiwch Gerdyn Rheilffordd: Gallwch arbed hyd at draean ar bris eich tocyn gyda cherdyn Rheilffordd.
  • Cyrrhaeddwch yn gynnar: Cyrrhaeddwch yr orsaf o leiaf 10 munud cyn i’ch trên gyrraedd. Sicrhewch fod gennych ddigon o amser i gyrraedd y platfform cywir.
  • Sicrhewch fod eich tocynnau’n barod: P’un a ydynt ar eich ffôn neu ar bapur, cadwch eich tocynnau’n barod er mwyn eu harchwilio er mwyn cadw popeth yn symud.
  • Teithiwch heb ormod o fagiau: Peidiwch ddod â gormod o fagiau er mwyn hwyluso’r teithio, yn enwedig ar drenau prysur.

 

Cynlluniwch eich diwrnod gêm heddiw

Mae’n hawdd dod o hyd i’r ffordd orau o gyrraedd y gêm gyda’n cynllunydd teithiau trên. Rydyn ni bob amser yn argymell ichi wirio cyn teithio. Prynwch eich tocynnau’n gynnar ar ein gwefan neu’n ap i ddod o hyd i’r prisiau gorau. Lawrlwythwch ap Trafnidiaeth Cymru i wirio am ddiweddariadau byw a storio’ch tocynnau ar eich ffôn.

 

Cwestiynau cyffredin

A oes angen imi archebu sedd ar ddiwrnodau gêm?

Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnig gwasanaeth archebu seddi ar ein llwybrau heblaw am ar gyfer teithio hygyrch.

Oes yna drenau ychwanegol ar gyfer y gemau rhyngwladol mawr?

Rydyn ni’n gwneud ein gorau i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer prif ddigwyddiadau yn y Stadiwm Principality. Fodd bynnag, mae’r gwasanaethau hyn yn llenwi’n gyflym felly mae cyrraedd yn gynnar bob amser yn syniad doeth.

Gaf i ddefnyddio fy ngherdyn Rheilffordd ar gyfer teithio ar ddiwrnod gêm?

Gallwch, gallwch ddefnyddio’ch cerdyn Rheilffordd i arbed tua thraean ar bris eich tocyn.

Beth sy’n digwydd os ydy fy nghynlluniau’n newid?

Os ydych chi wedi prynu tocyn Advance gydag ap TrC, gallwch newid y dyddiad ac amser yr ydych yn dymuno teithio tan 18:00 y diwrnod cyn teithio. Yn wahanol i apiau eraill, nid ydym yn codi pris am wneud y newidiadau hyn.