Cwestiynau Cyffredin ynghylch Trawsnewid Llinell Bae Caerdydd

  • Pa waith ydych chi’n ei wneud?
    • Byddwn yn adeiladu gorsaf newydd â dau blatfform yng ngogledd Butetown, a hynny fel rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf sydd wedi digwydd i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ers cenhedlaeth.

      Bydd yr orsaf bresennol ym Mae Caerdydd yn cael ail blatfform hefyd, yn ogystal ag arwyddion newydd, sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid a gwelliannau eraill.

      Bydd y gwaith o osod cledrau newydd yn golygu y bydd modd cynnal gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio trenau tram newydd, a bydd amserlen newydd ar waith o 2025.

      Wrth i ni barhau i uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o’r gwaith ehangach o gyflawni Metro De Cymru, bydd adegau pan na fydd gwasanaethau rheilffyrdd ar gael ar linell Bae Caerdydd. Pan fydd angen i ni gau’r rheilffordd ar gyfer gwneud gwaith peirianyddol, byddwn yn darparu bysiau yn lle’r trenau, felly cofiwch wirio cyn teithio yn www.journeycheck.com/tfwrail

      Byddwn hefyd yn gosod y cyfarpar llinellau uwchben a fydd yn pweru’r trenau tram cyflymach, llyfnach a gwyrddach. Bydd y cyfarpar llinellau uwchben yn cael ei osod rhwng gorsaf newydd Butetown a gorsaf Bae Caerdydd, ond bydd y trenau newydd yn rhedeg ar fatri rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a gorsaf newydd Butetown.

  • Faint o amser fydd y gwaith gwella yn ei gymryd?
    • O fis Ionawr 2023 ymlaen, byddwn yn uwchraddio gorsaf Bae Caerdydd ac yn adeiladu gorsaf newydd sbon yng ngogledd Butetown. Dechreuwyd ar waith gwella ar linell y Bae yn gynnar yn 2023 a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau tua 2025.

  • Pa waith sydd wedi cael ei wneud hyd yma?
    • Mae’n bosibl eich bod wedi gweld rhai o’n gweithwyr ar y safle’n barod. Mae TrC wedi cynnal arolygon a phrofion yn ystod hydref 2022, yn barod ar gyfer dechrau’r gwaith gwella.

      Er mwyn gallu bwrw 'mlaen i wneud llawer iawn o waith ar y lein,  gwnaethom gau'r llinell trwy gydol mis Ebrill a rhywfaint o fis Mai a mis Mehefin.  Dyma'r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn:

      • Rheoli llystyfiant
      • Adeiladu ffordd cerbydau trwm
      • Ymchwiliadau i’r tir
      • Arolygon a chlirio llwybrau
      • Cau Tanffordd Ffordd Cart er mwyn cynnal gwaith peirianneg sy'n gritigol i ddiogelwch

       

  • A fydd y gwaith yn achosi unrhyw darfu?
    • Os ydych chi’n byw neu’n gweithio ger llinell y Bae, mae’n bosibl y bydd ein gwaith ar y Metro yn effeithio arnoch chi.

      Gall hyn gynnwys...

      • Gweithio yn ystod y nos 
      • Sŵn wrth osod seilbyst 
      • Cau ffyrdd 
      • Newidiadau i amserlenni rheilffyrdd a’r angen i ni redeg gwasanaethau bws yn lle trenau 
      • Meddiannu llinellau fel rhan o’r gwaith o uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd

      Bydd rhagor o fanylion am gau ffyrdd yn cael eu diweddaru yn y Cwestiynau Cyffredin.

  • Fydda i’n dal i allu teithio ar fws neu drên ym Mae Caerdydd tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo?
  • Beth yw compowndiau a pham eu bod nhw’n cael eu gosod ar Rodfa Lloyd George?
    • Mae compowndiau’n cynnig gofod digonol dros dro ac yn caniatáu i’n pobl weithio’n ddiogel wrth ymyl y rheilffordd, storio a chludo deunyddiau i fyny ac i lawr y cledrau a darparu mynediad i wneud y gwaith adeiladu a pheirianneg angenrheidiol.

      Bydd yr offer a’r cyfleusterau lles yn ein compowndiau’n cydymffurfio â’r canllawiau iechyd a diogelwch perthnasol. Bydd y tri chompownd sydd ar ochr y cledrau ar Rodfa Lloyd George yn storio offer ac yn cynnwys swyddfa dros dro, ffreutur, ystafelloedd sychu a thoiledau i staff.

      Fe wnaethom godi'r compownd ym mis Ionawr 2023 a dechrau ar y gwaith ar y trac yn gynnar yn 2023.  Bydd y compownd yn aros ar ei draed nes bydd yr amserlen newydd ar waith.

  • Pryd fydd y gweithwyr ar y safle?
    • Fel arfer, bydd gweithwyr ar y safle 24/7. Ni fydd llefydd parcio ar gael i weithwyr yn y compownd, felly bydd staff yn cyrraedd y safle mewn fan er mwyn osgoi parcio llawer o gerbydau ar y stryd.

  • A oes ystyriaethau diogelwch?
    • Rydym yn defnyddio cyfarpar llinellau uwchben i redeg ein trenau tram trydanol, sy’n llyfnach, yn gyflymach, yn dawelach ac yn fwy ecogyfeillgar na’r trenau disel sy’n gwasanaethu’r cymoedd ar hyn o bryd.

      Dylid bod yn ofalus iawn wrth drin cyfarpar llinellau uwchben. Mae’n cludo 25,000 folt o drydan, sy’n gallu achosi marwolaeth yn ddigon hawdd. Mae hefyd yn hynod bwysig cofio ei bod yn beryglus cario eitemau ger y lein fel gwialen bysgota, ymbarél, balŵn heliwm, pobl ar eich ysgwyddau, a hyd yn oed defnyddio ffon hun-lun. Mae’r trydan yn llifo drwy’r cyfarpar llinellau uwchben drwy’r amser, waeth pa adeg o’r dydd ydyw, ac mae dyletswydd gyfreithiol ar Trafnidiaeth Cymru i gymryd camau i roi mesurau ar waith i atal pobl rhag cael sioc drydanol. Os ydych chi’n defnyddio’r rheilffordd yn gywir, nid oes perygl o linellau uwchben. Ond mae tresmasu ar ffin y rheilffordd - sy’n anghyfreithlon - yn eich rhoi mewn perygl.

      Mae cyfarpar llinellau uwchben yn strwythurau metel dur wedi’u hadeiladu i bara. Maen nhw tua 7 a 10 metr o uchder - ychydig yn uwch na’r trenau tram – a thua 50 metr oddi wrth ei gilydd. Byddant yn gwneud i’n llinellau rheilffordd edrych yn eithaf gwahanol i sut maent yn edrych ar hyn o bryd.

      Gan ddibynnu ar gyflwr y ddaear, gall yr amser mae’n gymryd i osod seilbost gymryd rhwng 20 a 60 munud.  Caiff rhywfaint o waith gosod seilbyst ei gwblhau mewn un ymweliad a’r safle, felly ni ddylai'r sŵn bara'n rhy hir, ond bydd angen cynnal rhagor o ymweliadau er mwyn cwblhau'r gwaith gosod seilbyst.

      Bydd y cyfarpar llinellau uwchben yn cael ei osod rhwng gorsaf newydd Butetown a gorsaf Bae Caerdydd, ond bydd y trenau yn rhedeg ar fatri rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a gorsaf newydd Butetown. Rydym yn disgwyl y bydd y cyfarpar llinellau uwchben yn cael ei osod yn ystod y dydd a’r nos, o hydref 2023.

      Byddwn hefyd yn gosod dwy groesfan o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws y cledrau ar gyfer cerddwyr yng ngorsaf newydd Butetown a rhwng gorsaf Bae Caerdydd a thanffordd Heol Letton. Bydd y trenau tram yn teithio ar gyflymder uchaf o 20-30 mya. Bydd TrC yn cynnal gweithdai diogelwch gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid lleol ynghylch cyfarpar llinellau uwchben a defnyddio croesfannau i gerddwyr yn ddiogel.

      Gallwch ddarllen rhagor am waith gosod seilbyst yma trc.cymru/gosodseilbyst.

  • A fydd offer llinellau uwchben yn cael ei osod yn agos at fy nghartref?
    • Fel rhan o Fetro De Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn trydaneiddio dros 170km o drac ar hyd lein Llinellau Craidd y Cymoedd (Rheilffyrdd Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Rhymni, Coryton y Bae a’r Ddinas).  O osod OLE, bydd modd pweru ein trenau tram newydd Dosbarth 398 Stadler City-link fel y gallan nhw ddechrau gwasanaethu ein cwsmeriaid.

      Rydym wedi ceisio lleihau effaith pyst cyfarpar llinellau uwchben yn ystod y cam dylunio. Fodd bynnag, gan fod angen tua 2,500 o strwythurau ar gyfer y prosiect a gan fod miloedd o gartrefi yn wynebu neu y tu ôl i’n rheilffyrdd, nid yw’n bosibl osgoi gorfod gosod rhai ohonynt yn agos at gartrefi. Mae symud hyd yn oed un postyn ychydig fetrau yn anodd iawn – gall hynny arwain at sgil-effeithiau i fyny ac i lawr y llinell. Yn anffodus, ni allwn ystyried ceisiadau unigol i symud pyst cyfarpar llinellau uwchben.

      Mae angen i’r cyfarpar newydd fod mewn man lle gallwn gael mynediad iddo os bydd angen, gan gynnwys ar gyfer archwiliadau neu waith cynnal a chadw. Mae angen iddo hefyd fod bellter addas oddi wrth fannau cyhoeddus.

      Darllen mwy am OLE: Trydaneiddio llinellau uwchben.

  • Pa sŵn a golau alla i eu disgwyl?
    • Mae gennym lawer o waith ar y gweill ar y rheilffyrdd i’w trydaneiddio’n barod ar gyfer y trenau tram newydd. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud gyda’r nos gan mai dyma pryd nad yw ein trenau’n rhedeg ac mae’n fwy diogel i’n gweithwyr. Gall ein gwaith fod yn swnllyd, ond byddwn yn gwneud ein gorau i geisio sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl drwy ddefnyddio’r mesurau lleihau sŵn mwyaf priodol ar gyfer yr ardal.

      Bydd angen i ni hefyd ddefnyddio goleuadau fel rhan o’n gwaith. Byddwn ni’n defnyddio golau ar lwybrau i sicrhau diogelwch ein staff. Os yw’n bosib, byddwn yn ceisio defnyddio llai o olau drwy ddefnyddio technoleg LED. Byddwn yn cydymffurfio â chanllawiau Cyngor Caerdydd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar ddarlleniadau LUX.

      Mae ein timau safle wedi ymrwymo i fod yn ystyriol o’n cymdogion. Gallwn eich sicrhau y byddwn yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw bryderon a gawn am sŵn neu olau.

  • Pam mae angen i chi dorri coed?
    • Bydd angen i ni hefyd dorri llystyfiant er mwyn clirio parthau trydanol ar gyfer y cyhoedd, y staff a seilwaith cyfarpar llinellau uwchben, fel y nodir mewn deddfwriaeth. Pan fydd ein gwaith rheoli llystyfiant wedi’i gwblhau, bydd angen i ni ddychwelyd o bryd i’w gilydd i gynnal a chadw’r llystyfiant, gan gynnwys cadw’r coed a’r llwyni dan reolaeth. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaeth dibynadwy a diogel i’n teithwyr. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod y nos fel arfer, a gall fod yn swnllyd, ond byddwn yn ceisio sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl.

  • Pa fanteision sydd i Butetown a’r Bae?
    • Bydd y Metro yn helpu i gefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth drwy wella’r cysylltiadau ar draws De Cymru a thu hwnt. Bydd yn golygu teithiau cyflymach, amlach a gwell i deithwyr.

      Mae’r trenau tram newydd sbon a fydd yn gwasanaethu’r Metro yn drydanol ac yn cynhyrchu llai o CO2 na’r trenau sy’n rhedeg ar hyn o bryd. Mae’r trenau newydd hefyd yn dawelach i’r rheini sydd ar y trên ac i’r rheini sy’n byw’n agos at y rheilffordd. Bydd trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy dibynadwy hefyd yn golygu y bydd angen i lai o bobl ddefnyddio’u ceir, gan leihau’r straen ar y ffyrdd prysur o amgylch Caerdydd a’r cyffiniau.

      Bydd ein hamserlen newydd a’n trenau tram yn gwella cysylltedd i drigolion lleol drwy gael:

      • 3 cherbyd, yn lle 1
      • 126 o seddi, gyda’r capasiti ar gyfer 256 o bobl
      • 6 trên bob awr
      • Cledrau dwbl
  • Oes gen i hawl i gael iawndal?
    • Bydd TrC yn gweithio i darfu cyn lleied â phosibl ar gymunedau a busnesau lleol. Fodd bynnag, mae natur rhywfaint o’n gwaith yn golygu nad oes modd peidio â tharfu arnynt o gwbl.

      Mae gennym hawl a dyletswydd i gynnal ac adnewyddu ein hasedau a’n seilwaith ac, fel sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus, ni allwn dalu iawndal, na thaliadau ‘ewyllys da’ oherwydd bod ein gwaith wedi tarfu arnoch chi, ac nid ydym yn gallu gwneud gwelliannau i gartrefi.

      Nid oes rheidrwydd ar Trafnidiaeth Cymru i dalu am lety arall yn ystod y gwaith ar y rheilffyrdd, ond rydym wedi ymrwymo i wneud cyn lleied â phosibl o sŵn. Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn gwneud gwaith arbennig o swnllyd, felly, os bydd angen, gallwch wneud trefniadau.

  • Beth fydd yn digwydd i’r wal rhwng Rhodfa Lloyd George a Stryd Bute?
    • Mae’r prosiect hwn yn cael ei adolygu gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’r gwaith adfywio ehangach ar gyfer Bae Caerdydd. Mae’n bosibl y bydd angen cryfhau’r wal cyn i Gyngor Caerdydd wneud y gwaith gwella hwn.

  • Pam mae gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu yn Butetown pan mae gorsaf ym Mae Caerdydd yn barod?
    • Daeth adolygiad ddechrau 2021 i’r casgliad y byddai cael gorsaf drenau wedi’i lleoli ymhellach i’r gogledd o Sgwâr Loudoun yn darparu gwell mynediad i gymuned ehangach Butetown a byddai’n caniatáu croesfan o’r dwyrain i’r gorllewin yn Sgwâr Loudoun, tra byddai cadw gorsaf Bae Caerdydd yn darparu gwell mynediad i amwynderau lleol.

      Bydd y cynlluniau hyn yn cyd-fynd â’r weledigaeth gydweithredol ehangach, gan gynnwys gorsaf newydd ar Stryd Pierhead a’r opsiwn o ymestyn llinellau ymhellach. Bydd TrC yn ymgysylltu â’r cyhoedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn ynghylch opsiynau ar gyfer ymestyn llinellau.

  • Ble fydd yr orsaf newydd yn Butetown?
    • Bydd yr orsaf newydd yn cael ei hadeiladu gyferbyn â Stryd Maria, ychydig i’r gogledd o danffordd Heol Letton.

  • Beth fydd enw gorsaf newydd Butetown?
    • Mae hyn i’w benderfynu fel rhan o’n gwaith creu lleoedd. Byddwn yn gweithio gyda’r gymuned a’n partneriaid i benderfynu ar enw.

  • Beth fyddwn ni'n ei wneud yng nghyffiniau Doc Y Rhath?
    • Rydym wedi adeiladu compownd ger Dociau’r Rhath fel rhan o’n gwaith i ddiweddaru’r rheilffordd. Bydd y compownd hwn yn ein galluogi i reoli ein gwaith yn strategol i gyflawni eich Metro, storio deunyddiau i’w defnyddio yn y dyfodol a darparu cyfleusterau lles hanfodol i’n cydweithwyr. Ni fydd unrhyw waith corfforol yn digwydd ar y safle. Byddwn yn defnyddio’r compownd i hwyluso gweithgareddau adeiladu ar gyfer gorsafoedd Bae Caerdydd a Butetown.

      Oherwydd gwaith achlysurol 24/7 ar y lein, mae goleuadau wedi’u gosod yn y Compownd Lles, ond wedi’u cyfeirio i ffwrdd o adeiladau preswyl Adventurer’s Quay lle bo’n bosibl, a’r sŵn gan weithwyr yn cael ei liniaru gan systemau baffling sain.

      Bydd y compownd yn ei le rhwng nawr a gwanwyn 2025.

  • A fydd Rheilffordd Bae Caerdydd yn cau?
    • Bydd rhagor o wybodaeth am gau llinellau yn y dyfodol yn cael ei hychwanegu yma maes o law.

  • A effeithir ar y mynediad i orsaf Bae Caerdydd yn ystod y gwaith?
    • Fel rhan o Waith Gwella Bae Caerdydd, mae'n ofynnol cau'r mynediad presennol i Orsaf Bae Caerdydd o Rodfa Lloyd George a chreu mynediad oddi ar Stryd Bute.  Bydd hyn yn caniatáu i'r gwaith paratoi ar gyfer cyngherddau gael ei wneud mewn modd diogel a heb orfod effeithio ar y cyhoedd.  Mae disgwyl i'r gwaith hwn bara am tua 12 wythnos.  Wedi hynny, bydd y mynediad dros-dro oddi ar Stryd Bute yn cael ei gau a bydd y mynediad i'r orsaf o Rodfa Lloyd George yn cael ai agor unwaith yn rhagor.

  • Sut mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu?
    • Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro, sef Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

  • Sut gallaf roi adborth?
    • Rydym am i chi ymuno â ni ar y daith i drawsnewid trafnidiaeth yn Butetown a’r Bae. Wrth i ni weithio i gynllunio a chyflawni uwchraddiadau, bydd cyfleoedd i’ch cymuned gydweithio â ni.

      Byddwn yn cynnal gweithdai a sesiynau galw heibio yn eich ardal, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosiect trawsnewid y Bae. I gael gwybod sut gallwch chi gymryd rhan, ewch i trc.cymru/ymgysylltu.

  • O ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
    • Mae ein tîm ar gael i ateb eich cwestiynau 24/7, felly ffoniwch ni ar 03333 211 202. Neu gallwch gysylltu â ni drwy WhatsApp ar 07790 952507 (0700-2000 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 0800-2000 ar ddydd Sadwrn, a 1100-2000 ar ddydd Sul). 

      Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gael yr wybodaeth mewn fformat arall, ewch i trc.cymru/cysylltu-a-ni. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gweledigaeth ar gyfer Metro De Cymru drwy fynd i trc.cymru/prosiectau/metro. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ein gwaith i adeiladu’r Metro yn trc.cymru/prosiectau/metro/adeiladu-ein-metro.

      I gael gwybod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud yn eich cymuned, ewch i’n tudalen Facebook: facebook.com/TfWCommunities.