Mae’r Nadolig yn amser gwych i fynd ar wyliau byr, yn enwedig yng Nghymru. P’un ai’n meddwl mynd i ffwrdd dros y Nadolig ei hun gyda ffrindiau a theulu, neu ar drip bach cyn neu ar ôl y Nadolig, dyma rai o hoff lefydd TrC i ymweld â nhw dros gyfnod yr ŵyl.

 

Y gwyliau Nadolig byr gorau yng Nghymru

P’un ai’n chwilio am wyliau byr Nadoligaidd mewn dinas, ar lan y môr neu am ddihangfa ddirgel, mae gennym syniad i chi. Dyma rai o’n hoff lefydd i ddewis ohonynt yma yng Nghymru.

1. Caerdydd

Dyma’r gwyliau byr perffaith mewn dinas adeg y Nadolig. Gallwch ymweld â Marchnad Nadolig y ddinas, mynd i sglefrio a blasu rhai o fwydydd a diodydd gorau’r wlad. Mae yna hefyd lefydd nodweddiadol i dwristiaid gan gynnwys Castell Caerdydd, detholiad anferth o siopau a mwy, i gyd yn erbyn cefndir Nadoligaidd.

Gorsaf agosaf: Caerdydd Canolog a Caerdydd Heol y Frenhines

2. Llandudno

Tref arfordirol Fictorianaidd yw Llandudno sy’n lle perffaith i fynd ar wyliau Nadolig byr. Mae gan y dref ddewis anferth o westai a fflatiau i aros ynddynt, a digon i’w weld a’i wneud. Gallwch fwynhau popeth o’r pier Fictorianaidd a siopa Nadolig i fynd am dro wrth ymyl y môr.

Gorsaf agosaf: Llandudno a Cyffordd Llandudno

3. Bannau Brycheiniog

Os byddwch yn chwilio am le i enaid gael llonydd, mae Bannau Brycheiniog yn ardal berffaith. Gwnewch y mwyaf o’r nosweithiau tywyll drwy syllu ar y sêr neu fynd i gefn gwlad am dro. Cofiwch hefyd roi cynnig ar y bwyd lleol yn y tafarndai a’r bwytai.

Gorsaf agosaf: Abergavenny a Merthyr Tudful

4. Y Gelli Gandryll

Mae’r Gelli Gandryll yn enwog fel tref y llyfrau ac yn berffaith i rai sy’n caru llyfrau fynd adeg y Nadolig. Tref farchnad ydyw gyda bwyd lleol rhagorol a digonedd o siopau llyfrau i bori ynddynt a mwynhau.

Gorsaf agosaf: Builth Road

5. Ynys y Barri

Lle glân môr gwych arall i fynd ar wyliau byr yw ardal hyfryd Ynys y Barri. Wedi’i phoblogeiddio gan y sioe enwog Gavin a Stacey, mae gan Ynys y Barri gymaint i’w gynnig, o atyniadau teuluol i deithiau cerdded arfordirol, amgueddfeydd gwych a llawer mwy.

Gorsaf agosaf: Ynys y Barri

 

Prynwch eich tocynnau trên am wyliau Nadolig yng Nghymru drwy deithio’n hwylus.