Ei gwneud hi’n rhwydd teithio ar y trên

Mae teithio wrth fynd digyswllt dim ond ar gael ar wasanaethau TrC a CrossCountry rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd, Pont-y-clun a gorsafoedd hyd at Lynebwy

Pay as you go animation

Tapiwch i mewn ac allan gan ddefnyddio eich cerdyn banc digyswllt ffisegol, a byddwn yn cyfrifo eich pris gwerth gorau.

Dim mwy o giwio wrth y peiriant tocynnau a dim mwy o chwilio ym mhob poced am y tocynnau papur. Gyda thalu wrth fynd yn ddigyswllt, yr oll sydd angen ei wneud yw tapio i mewn ar ddechrau pob taith a thapio allan ym mhen y daith gan ddefnyddio eich cerdyn banc digyswllt ffisegol.

Mae ein capiau prisiau dyddiol ac wythnosol yn golygu na fyddwch chi byth yn talu mwy nag sydd angen, gan y byddwn ni’n codi’r pris gorau arnoch chi’n awtomatig ar gyfer eich taith. Cliciwch yma i weld ein prisiau talu wrth fynd.

Ebbw Vale stations

Cliciwch ar y ddolen isod i weld eich teithiau Talu wrth fynd blaenorol

PAYG icon Mynnwch olwg ar eich teithiau Talu wrth fynd blaenorol

 

  • Pa ddyfeisiau talu alla i eu defnyddio?
    • Rhaid defnyddio cardiau banc ffisegol i ysgogi’r defnydd tro cyntaf ar gatiau a/neu ddilyswyr TrC. Dim ond wrth ddefnyddio un cerdyn ffisegol neu un ddyfais y mae capio dyddiol ac wythnosol ar gael. Bydd newid dyfeisiau talu yn effeithio ar gapio wythnosol.

    • Ar ôl i chi orffen eich wythnos gyntaf o deithio (dydd Llun i ddydd Sul), gallwch ddewis a ydych chi am barhau i ddefnyddio eich cerdyn banc digyswllt neu symud i ddefnyddio dyfais glyfar (ffôn neu oriawr).

  • Beth os ydw i am ddefnyddio fy nyfais glyfar i dalu?
    • I ysgogi talu wrth fynd yn ddigyswllt, rhaid i chi ddefnyddio eich cerdyn banc digyswllt ffisegol tro cyntaf ar gatiau a/neu ddilyswyr TrC.

    • Bydd newid dyfeisiau talu yn ystod yr wythnos gyntaf yn effeithio ar gapio wythnosol. Daliwch ati i ddefnyddio eich cerdyn banc digyswllt am weddill yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sul).

  • Ble ydw i’n tapio i mewn ac allan?
    • Dilynwch yr arwyddion ar y gatiau talu wrth fynd yng Nghaerdydd Canolog a Chasnewydd er mwyn dod o hyd i'r gatiau cywir i dapio ymlaen a thapio i ffwrdd.

    • Ym Mhont-y-clun a gorsafoedd hyd at Lynebwy, gellir dod o hyd i'r darllenwyr cardiau melyn ar y platfformau ac yng Nghaerdydd Canolog, lleolir y darllenydd cardiau ar Blatfform 0.

 

 

Cofiwch dapio allan

Cofiwch dapio allan ar ddiwedd pob taith er mwyn osgoi talu ffioedd ychwanegol. Drwy dapio i mewn ac allan ar eich taith, mae ein system yn gwybod beth yw pen y daith er mwyn codi’r pris cywir arnoch chi.

  • Faint o amser sydd gennyf i dapio allan cyn bod ffioedd ychwanegol yn cael eu codi?
    • Rydyn ni wedi gosod 2 awr fel yr amser teithio hiraf. Os byddwch chi’n tapio allan ar ôl 2 awr, byddwch chi’n gorfod talu £7 am daith anghyflawn.

 

Cadwch lygad am wrthdaro rhwng cardiau

Wrth ddefnyddio’r system talu wrth fynd, rhaid i chi ddefnyddio’r un cerdyn neu ddyfais i osgoi talu ddwywaith. Cofiwch dynnu eich cerdyn o’ch waled neu bwrs wrth dalu’n ddigyswllt i osgoi talu ar fwy nag un cerdyn.

 

Fe allwch chi gael hyd yn oed mwy o fuddion drwy gofrestru ar ap TrC

Mae’n hawdd cadw golwg ar eich taith ar y trên pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer cyfrif ar ap TrC.

  • Gweld eich hanes teithio a thalu llawn mewn un lle.
  • Llwytho eich derbynebau teithio i lawr mewn ychydig o dapiau.
  • Cael gwybod os ydych chi’n anghofio tapio allan, er mwyn osgoi costau ychwanegol.
  • Galluogi’r cof teithiau rheolaidd ar sail eich patrymau teithio er mwyn i’r ap allu cwblhau eich teithiau’n awtomatig.

App StoreGoogle Play

  • Beth os dydw i ddim yn dymuno cofrestru ar yr ap?
    • Rydyn ni’n argymell eich bod yn cofrestru eich cerdyn ar ap TrC i gael y profiad talu wrth fynd gorau. Ond os yw’n well gennych beidio â chofrestru eich cerdyn, gallwch barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth talu wrth fynd fel ‘gwestai’.

    • Os ydych chi’n westai, gallwch gael gafael ar eich hanes teithio a thalu llawn drwy ein porth gwe.

  • A oes unrhyw eithriadau wrth ddefnyddio talu wrth fynd?
    • Mae’r eithriadau canlynol yn berthnasol wrth ddefnyddio talu wrth fynd, ond mae’n bosib y bydd y rhain yn newid.

      • Nid yw teithiau Talu wrth Fynd ar gael ar wasanaethau GWR ar hyn o bryd.

      • Dim teithiau dwyffordd: mae talu wrth fynd yn gweithio ar gyfer taith unffordd oedolyn yn unig.

      • Dim tocynnau grŵp: bydd angen i chi brynu tocynnau grŵp o swyddfa docynnau.

      • Dim teithio yn y dosbarth cyntaf.

      • Dim cyfnodau prysur a chyfnodau tawelach. 

      • Dim tocynnau i blant, ewch i trc.cymru/plant-i-gael-teithio-am-ddim i gael gwybodaeth am ffyrdd fforddiadwy i’r teulu deithio.

      • Does dim modd defnyddio cardiau rhatach wrth dalu wrth fynd. 

  • Ble galla i lwytho ap TrC i lawr?
    • Fe allwch chi lwytho ap TrC i lawr o’r App Store neu Google Play Store.

      App StoreGoogle Play

  • Sut mae creu cyfrif a dechrau defnyddio Talu wrth Fynd?
    • Llwythwch ap TrC i lawr a chofrestru eich cerdyn talu digyswllt. 

    • Cam 1
      Agorwch Ap TrC.

    • Cam 2
      Ewch i ‘Talu wrth fynd’ yn y troedyn.

    • Cam 3
      Ychwanegwch fanylion eich cerdyn digyswllt.

    • Cam 4
      Lanlwythwch y manylion a chadarnhewch eich manylion cerdyn.

    • Cam 5
      Rydych yn barod i deithio.

  • Beth os ydw i’n teithio mewn grŵp?
    • Os ydych chi’n teithio gyda mwy nag un person, rhaid i bob unigolyn dapio i mewn gan ddefnyddio cerdyn banc neu ddyfais glyfar ar wahân, neu gall pob un ohonynt brynu tocyn digidol neu ffisegol.

I weld rhestr o’n cwestiynau cyffredin cliciwch yma.

 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi broblem gyda thaliad neu os hoffech chi siarad â rhywun am dalu wrth fynd yn ddigyswllt, siaradwch â’n tîm gwasanaeth i gwsmeriaid pwrpasol.

Cysylltwch â ni yma trc.cymru/talu-wrth-fynd/cymorth.

 

Dyw dull talu wrth fynd (PAYG) ond yn berthnasol ar gyfer teithiau rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd, Pont-y-clun a gorsafoedd trên hyd at Lynebwy (o dapio ymlaen a thapio allan). Rhaid defnyddio cerdyn banc yn unig y tro cyntaf i chi dapio, ar gât neu ddilysydd TrC. Dim ond wrth ddefnyddio un cerdyn banc neu daliad drwy ddyfais y gellid cael mynediad at gapiau dyddiol ac wythnosol. Gall newid eich ffordd o dalu effeithio ar eich capiau wythnosol. Codir cyfanswm o £7.00 am deithiau anghyflawn. Gall prisiau tocynnau a chapiau newid. Nid yw teithiau PAYG ar gael ar wasanaethau GWR. Telerau ac Amodau llawn: trc.cymru/talu-wrth-fynd/telerau-ac-amodau.