Ydych chi'n mynd ar daith o Crewe i Gyffordd Llandudno? Boed hynny ar gyfer gwaith, ymweld â theulu a ffrindiau neu wyliau haeddiannol, mae'r trên yn gyflym ac yn fforddiadwy. Mae hefyd yn fwy gwyrdd. Eisteddwch yn ôl a mwynhewch eich taith.
Manylion allweddol: Trenau o Crewe i Gyffordd Llandudno
Hyd y daith: 1 awr 32 munud ar y trên cyflymaf
A oes trenau uniongyrchol? Nac oes
Trên cyntaf: 06:26
Amlder: Tua 20 o drenau bob dydd.
Prif arosfannau: Caer, Shotton a Deganwy
Gorsaf gyrchfan: Cyffordd Llandudno
Cyfleusterau: Seddi eang, Wi-Fi am ddim ar y trên a mannau gwefru.
Arbedion ar docynnau: Prynwch docynnau Advance, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru
Teithio o Crewe i Landudno
Os ydych chi'n teithio o Crewe i Landudno, beth am fynd ar y trên? Mae'n gyflym, yn gyfleus ac yn hawdd iawn. Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch yn ein seddi cyfforddus a mwynhewch olygfeydd o arfordir godidog Cymru.
Gyda dros 20 o drenau'r dydd o Crewe i Landudno, ni fyddwch byth yn aros yn rhy hir. Prynwch docyn dwyffordd Advance, neu rhowch gynnig ar docyn Dwyffordd Agored am hyblygrwydd ychwanegol i deithio pryd bynnag y mae'n gyfleus i chi.
Mae ein trenau’n rhedeg o tua 06:00 tan ar ôl 00:00, sy’n ddelfrydol os ydych chi’n cynllunio diwrnod allan llawn.
Dewiswch y trên ar gyfer eich taith nesaf o Crewe i Landudno am brofiad heb ei ail.
Pa mor rheolaidd yw trenau o Crewe i Landudno?
Mae tua 20 trên y dydd o Crewe i Landudno, felly ni fyddwch byth yn aros yn rhy hir. Mae trenau'n cychwyn tua 06:00 ac yn rhedeg tan ar ôl 00:00.
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Crewe i Landudno?
Mae'r trên cyflymaf o Crewe i Landudno yn cymryd 1 awr a 32 munud. Mae'r daith gyfartalog yn cymryd llai na dwy awr.
Pam teithio ar y trên o Crewe i Landudno?
Mae'r trên yn un o'r dewisiadau gorau ar gyfer teithio rhwng Crewe a Llandudno. Nid yn unig y mae'n gyfeillgar i'r amgylchedd ond mae hefyd yn gyflym, yn hawdd ac yn fforddiadwy. Hefyd, does dim rhaid i chi drafferthu gyrru - ymlaciwch a mwynhewch olygfeydd prydferth arfordir Cymru a chefn gwlad Lloegr.
- Ewch i ymweld â “phrifddinas rheilffyrdd y byd” - Mae gan Crewe dreftadaeth falch mewn peirianneg a gwyddoniaeth, yn enwedig yn y diwydiant rheilffyrdd. Mae digon i'w weld a'i brofi, yn enwedig yng Nghanolfan Dreftadaeth Crewe.
- Mwynhewch Farchnad Gwneuthurwyr Crewe - gyda dros 60 o stondinau, porwch drwy ddetholiad anhygoel o fwyd, diodydd, celf arbennig a mwy.
- Crwydrwch o amgylch Parc y Frenhines - parc tawel a hanesyddol 44 erw, sy'n barc rhestredig Gradd II.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu tocynnau trên o Crewe i Landudno
Os ydych chi'n teithio o Crewe i Landudno, dyma rai awgrymiadau gwych i gael tocynnau rhatach.
- Archebwch hyd at 12 wythnos yn gynnar.
- Dewiswch docynnau y tu allan i'r oriau brig.
- Bwriwch olwg ar ein tocynnau Tymor os ydych chi'n teithio'n aml (mwy na thair gwaith yr wythnos).
- Edrychwch ar ein Cardiau Rheilffordd
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.
Cwestiynau cyffredin
Oes trên uniongyrchol o Crewe i Landudno?
Nac oes, does dim trenau uniongyrchol o Landudno i Crewe ar hyn o bryd. Fel arfer bydd yn rhaid i chi newid trenau yng Nghaer.
Pa mor gynnar alla i brynu tocynnau?
Fel arfer gallwch brynu tocynnau Advance hyd at 12 wythnos cyn eich taith.
Alla i brynu tocyn dwyffordd?
Gallwch brynu tocyn Unffordd neu docyn Dwyffordd, yn dibynnu ar eich anghenion teithio. Os ydych chi eisiau mwy o hyblygrwydd, prynwch docyn Dwyffordd Agored i deithio'n ôl unrhyw bryd o fewn 30 diwrnod. Gall rhai cyfyngiadau fod yn berthnasol.
A allaf archebu gwasanaeth teithio â chymorth o Crewe i Landudno?
Gallwch, defnyddiwch ein gwasanaeth Teithio â Chymorth os hoffech chi gael help wrth deithio.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-