Teithiwch yn ddi-dor o dref arfordirol swynol Llandudno i ddinas fywiog Manceinion. Mae trenau o Landudno i Fanceinion yn cynnig ffordd gyfforddus ac esmwyth o deithio rhwng y ddwy gyrchfan gyferbyniol hyn. P'un a ydych chi'n mynd am wyliau byr yn y ddinas, taith fusnes neu, yn syml, yn awyddus i grwydro ac archwilio’r dref, mae'r trên yn ddewis ardderchog.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Landudno i Fanceinion?
Tua 2 i 2.5 awr, sy’n rhoi amser i chi weithio, pori drwy gyfryngau cymdeithasol, darllen neu eistedd yn ôl ac ymlacio.
Pa mor aml mae trenau'n rhedeg o Landudno i Fanceinion?
Mae trenau o Landudno i Fanceinion yn rhedeg yn aml trwy gydol y dydd, hyd at y nos.
Oes trenau uniongyrchol o Landudno i Fanceinion?
Oes, mae yna drenau uniongyrchol yn ogystal â gwasanaethau ble mae angen i chi newid. Gallwch ddefnyddio ein cynllunydd teithiau i ddod o hyd i drenau uniongyrchol.
Pam teithio ar y trên o Landudno i Fanceinion?
Mae teithio ar y trên o Landudno i Fanceinion yn cynnig dewis mwy hamddenol a chyfeillgar i'r amgylchedd na gyrru. Gallwch fwynhau'r daith olygfaol heb y straen o lywio traffig a defnyddio’r cyfleusterau ar y trên fel Wi-Fi a phwyntiau gwefru.
Mae Manceinion yn ddinas ddeinamig sy'n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, ei sîn gerddoriaeth fywiog ac atyniadau o'r radd flaenaf, sy'n cynnig rhywbeth i bawb:
-
Mannau diwylliannol poblogaidd - Darganfyddwch dreftadaeth ddiwydiannol Manceinion yn yr Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant neu edmygwch gelfweithiau clasurol a chyfoes yn Oriel Gelf Manceinion a'r Whitworth. Gall y rhai sy’n dwlu ar y theatr weld sioe yn y Royal Exchange Theatre.
-
Siopa a bwyta - Crwydrwch drwy siopau boutique annibynnol a siopau ail-law y Northern Quarter neu archwiliwch Ganolfan Arndale a byddwch yn darganfod eich ffefrynnau o siopau’r stryd fawr. Mwynhewch bopeth o goffi crefftus i fwyd rhyngwladol, gan gynnwys blasau De Asia ar hyd y ‘Filltir Gyrri’ enwog.
-
Treftadaeth chwaraeon - Gall cefnogwyr pêl-droed fynd ar daith o gwmpas yr Old Trafford neu’r Stadiwm Etihad i brofi etifeddiaeth chwaraeon y ddinas. Gall y rhai sy’n frwd dros griced ymweld â Chlwb Criced Sir Gaerhirfryn i gael blas ar ddiwylliant chwaraeon ehangach Manceinion.
-
Cerddoriaeth a bywyd nos - Mae sîn gerddoriaeth enwog Manceinion yn parhau i ffynnu, gyda lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled y ddinas yn cynnig at ddant pawb. Wrth iddi nosi, mwynhewch bopeth o dafarndai traddodiadol clyd i fariau a chlybiau bywiog.
Gweler ein canllaw i ymweld â Manceinion am fwy o syniadau.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocynnau trên o Landudno i Fanceinion
Arbedwch arian a theithiwch fel y mynnwch gyda'n hopsiynau tocynnau hyblyg:
-
Tocynnau Advance*: Prynwch yn gynnar i sicrhau ein prisiau isaf.
-
Cardiau Rheilffordd: Bachwch hyd at draean oddi ar eich taith gyda cherdyn rheilffordd.
-
Tocynnau Unrhyw Bryd: Teithiwch bryd bynnag sy'n addas i chi gyda'n dewisiadau hyblyg.
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio sy'n gyfeillgar i'r gyllideb mewn un lle hawdd ei gyrraedd.
*Tocynnau Advance yw ein tocynnau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian a gellir defnyddio gostyngiadau cerdyn rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance gan eu bod yn gyfyngedig o ran niferoedd ac maent ond ar werth hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio. Byddwn yn argymell eich bod yn prynu'n gynnar er mwyn osgoi siom.
-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-