Mynd ar daith o Lundain i Abertawe? P'un a ydych chi'n teithio ar gyfer gwaith neu bleser, mae'r trên yn gyflym, yn gyfforddus ac yn gyfleus. Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch neu ewch ati i wneud rhywfaint o waith yn hytrach nag eistedd mewn traffig. Mae yna ddewis o drenau uniongyrchol hefyd, sy'n ddelfrydol er mwyn osgoi unrhyw beth yn torri ar eich traws.
Manylion allweddol: Trenau o Lundain i Abertawe
Hyd y daith: 2 awr 42 munud ar y trên cyflymaf.
Trenau uniongyrchol: Oes
Trên cyntaf: 05:23
Amlder: Tua 20 o drenau bob dydd
Prif arosfannau: Casnewydd, Caerdydd Canolog, Parcffordd Port Talbot.
Gorsaf gyrchfan: Abertawe
Cyfleusterau: Seddi eang, mannau gwefru a Wi-Fi am ddim ar y trên.
Arbedion ar docynnau: Prynwch docynnau Advance, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru
Teithio o Lundain i Abertawe
Os ydych chi'n mynd o Lundain i Abertawe, y trên yw un o'r ffyrdd cyflymaf o deithio. Fel arfer, bydd yn cymryd llai na thair awr i chi, a hyd yn oed yn gyflymach ar drenau uniongyrchol. Ymlaciwch a mwynhewch gefn gwlad yn hytrach na syllu ar y draffordd.
Mae tua 20 o drenau'r dydd, gyda digon o opsiynau yn ystod yr awr frys. Mae trenau'n rhedeg yn gynnar tan yn hwyr, felly does dim angen gadael yn gynnar.
Prynwch eich tocyn heddiw i arbed amser ac ymdrech am bris fforddiadwy iawn. Hefyd, mae'n ecogyfeillgar.
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Lundain i Abertawe?
Fel arfer bydd yn cymryd llai na thair awr o Lundain i Abertawe, gyda'r trên cyflymaf yn cymryd 2 awr a 42 munud.
Faint o drenau sydd o Lundain i Abertawe?
Mae tua 20 trên y dydd o Lundain i Abertawe, felly ni fyddwch byth yn aros yn hirach nag awr.
Pam teithio ar y trên o Lundain i Abertawe?
Mae'r trên yn gyflym, yn gyfforddus ac yn wyrdd. Mae hefyd yn gymharol fforddiadwy, gan ei wneud yn un o'r ffyrdd gorau o deithio.
- Mwynhewch ddiwylliant yn ein hamgueddfeydd neu orielau eithriadol, fel Amgueddfa Genedlaethol y Glannau neu Oriel Gelf Glynn Vivian
- Porwch drwy fwy na 100 o stondinau ym Marchnad Abertawe
- Archwiliwch draethau godidog arfordir y de a blaswch hufen iâ lleol
- Crwydrwch o gwmpas Prom Abertawe i ddarganfod y parc dŵr, y llyn cychod a mwy
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu tocynnau trên o Lundain i Abertawe
O brynu tocynnau’n uniongyrchol i brynu cardiau rheilffordd, darganfyddwch sut allwch chi leihau pris eich tocyn trên gyda ni.
- Prynwch docynnau Advance hyd at 12 wythnos yn gynnar
- Teithiwch gyda cherdyn rheilffordd
- Teithiwch gyda thocyn y tu allan i oriau brig
- Prynwch docynnau’n uniongyrchol gyda ni i osgoi ffioedd gweinyddu
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.
Cwestiynau cyffredin
Beth yw'r trên cyflymaf o Lundain i Gaerdydd?
Mae'r trên cyflymaf o Lundain i Abertawe ychydig dros 2 awr a 40 munud. Bydd y trên cyfartalog o dan dair awr.
Oes angen i mi brynu tocyn dwyffordd?
Os ydych chi eisiau'r hyblygrwydd i deithio pryd bynnag y dymunwch, gallwch brynu tocyn dwyffordd Agored* neu brynu’n hwyrach.
*Mae amodau'n berthnasol
Pa mor gynnar alla i brynu tocynnau?
Yn y DU, fel arfer gallwch brynu tocynnau hyd at 12 wythnos cyn i chi deithio.
Pryd mae'r trên cyntaf o Lundain i Abertawe?
Mae trenau'n cychwyn tua 05:23, yn dibynnu ar ddiwrnod y daith.
Pryd mae'r trên olaf o Lundain i Abertawe?
Y trên uniongyrchol olaf o Lundain i Abertawe yw 22:46. Mae amseroedd y trên yn amrywio yn dibynnu ar y diwrnod teithio.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-