Y ffordd hyblyg o deithio

Mae fflecsi yn ffordd wahanol o deithio ar fws ac yn wasanaeth newydd cyffrous gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â’ch gweithredwyr bysiau lleol.

Lawrlwythwch yr ap fflecsi i archebu

Ein ap yw’r ffordd hawsaf o ddefnyddio fflecsi. Mae’r ap yn dangos i chi ble mae’ch gwasanaeth fflecsi, ble bydd yn eich casglu a phryd fydd e’n cyrraedd.

neu archebwch drwy ein ffonio ar 03002 340 300

Dydd Llun - Dydd Sadwrn: 07:00 - 19:00
Dydd Sul: 09:00 - 17:00

Representative image of a train station

Sut mae’n gweithio

Gall bysiau fflecsi eich codi a’ch gollwng mewn ardal wasanaeth ac nid dim ond mewn safle bws. Rhaid i chi archebu eich taith drwy’r ap neu’r ffôn, yna mae bws yn eich codi ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall pob teithiwr gyrraedd lle mae angen iddynt fynd.

Mae eich diogelwch yn hollbwysig, ac rydym wedi cynllunio fflecsi i gludo teithwyr yn ddiogel ac mae gwybod faint o deithwyr rydym yn eu casglu yn golygu y gallwn warantu sedd i chi ac osgoi gorlenwi.
1

Lawrlwythwch ein ap neu ffoniwch ni

Agorwch eich cyfrif neu ffoniwch ni ar 03002 340 300.

2

Archebwch eich taith

Dewiswch eich pwyntiau casglu a gollwng. Byddwch yn derbyn cadarnhad a diweddariadau byw o’ch bws.

3

Teithio

Ewch i’ch man casglu mewn digon o amser a byddwch yn barod i ddechrau’ch taith.

fflecsi locations

Lleoliadau fflecsi

Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol - edrychwch ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal