Am £7.50* yn unig, cewch fwynhau teithio di-ben-draw ar yr un diwrnod ar drenau yn ardal Caerdydd a Phenarth, yn ystod cyfnodau tawelach, gyda'n tocyn trên diwrnod, Crwydro'r Brifddinas. 

Mae'n fwy hyblyg ac mae'n cynnig gwell gwerth am arian na phrynu tocyn dwyffordd neu wahanol gyfuniadau o docynnau unffordd pan fyddwch chi'n teithio yn ystod cyfnodau tawelach.

 

Prisiau

 OedolynPlentynCerdyn Rheilffordd
Crwydro'r Brifddinas£7.50£3.75£4.95

 

Ble mae prynu tocyn trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas

Mae modd I chi brynu tocyn trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas yn ein swyddfeydd tocynnau neu ar y trên os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau pan fyddwch chi'n cychwyn eich taith.

 

Ble gallaf ei ddefnyddio?

Mae ein tocynnau trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas yn ddilys i'w defnyddio yn ardal Caerdydd a Phenarth rhwng unrhyyw rai o'r gorsafoedd hyn:

LlwynbedwHeol DingleParc Ninian
CoganEastbrookPenarth
CorytonY TyllgoedRadur
Bae CaerdyddGrangetownRhiwbeina
Caerdydd CanologLefel Uchel y Mynydd BychanTŷ Glas
Caerdydd Heol y FrenhinesLefel Isel y Mynydd BychanParc Waun-Gron
CathaysLlandafYr Eglwys Newydd
DanescourtLlanisien 

Map llwybr ar gyfer Rheilffordd Caerdydd a'r Cymoedd

 

Telerau ac amodau

  • Nid yw'n ddilys cyn 09:30 na rhwng 16:00 a 18:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Mae'n ddilys unrhyn dro ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
  • Arbedwch hyd at 1/3 gyda Cherdyn Rheilffordd.
  • Mae plant rhwng pump a phymtheg oed yn cael 50% oddi ar bris tocyn oedolyn safonol.
  • Caiff plant pedair oed ac iau deithio am ddim gyda deiliad tocyn.
  • Pris yn ddilys hyd at 1 Mawrth 2026.