Cymru yw’r lle perffaith i fod i fynd i ysbryd y Nadolig y mis Rhagfyr hwn. Gyda digwyddiadau Nadolig wedi eu trefnu, profiadau siopa gwych a gwledd o fwyd i’w fwynhau, mae digon i’r teulu cyfan ei wneud i ddathlu.
Gallwch osgoi’r traffig wrth deithio ar y trên neu’r bws gyda TrC y Nadolig hwn. Gallwch ymlacio drwy brynu eich tocynnau trên yn gynnar ac yn uniongyrchol gan TC heb dalu ffi weinyddol.
Digwyddiadau Nadolig Gogledd Cymru
Dyma rai o’r digwyddiadau Nadolig gorau yn y Gogledd.
- Sioe Nadolig Fawr Llandudno - 19 i 22 Tachwedd 2026 - pedwar diwrnod o fwyd, diod, adloniant byw a reidiau ffair yn Llandudno
- Ffair Nadolig Portmeirion - 4 i 6 Rhagfyr 2026 - gŵyl yn arddangos cynnyrch, anrhegion ac adloniant lleol i fynd i ysbryd arbennig y Nadolig ym mhentref Portmeirion ger Minffordd
- Y Dyn Eira a’r Ci Eira - 21 Rhagfyr - dangosiad unigryw o’r ffilm nodwedd hon gyda cherddoriaeth hyfryd gan gerddorfa fyw yn William Aston Hall yn Wrecsam
- Nadolig yng Nghastell Penrhyn - 27 Tachwedd tan 21 Rhagfyr - profwch hud a lledrith y Nadolig drwy ymweld â Chastell Penrhyn a’i addurniadau hardd, i gynnwys gwneud torchau, straeon Nadolig a mwy, ar gyrion dinas Bangor
Digwyddiadau Nadolig De Cymru
Dyma rai o’n hoff ddigwyddiadau Nadolig yn Ne Cymru:
- Nadolig ym Mharc Bute - 19 Tachwedd tan 23 Rhagfyr - y llwybr golau mwyaf yng Nghymru, arddangosfa anhygoel a bwyd a diod Nadoligaidd ger gorsaf Cathays Caerdydd
- Gwaith Teganau Siôn Corn yn Amgueddfa Parc Treftadaeth y Rhondda - 22 Tachwedd i 24 Rhagfyr - perffaith i deuluoedd, ewch ar antur i gwrdd â Siôn Corn yn ddwfn yn y gwaith wrth ymyl gorsaf Trehafod
- Parêd Nadolig Abertawe - diwedd Tachwedd - dathliad Nadolig gwych yn cynnwys troi’r goleuadau Nadolig ymlaen, tân gwyllt, adloniant byw a mwy yn Abertawe
- Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol - 30 Tachwedd tan 1 Rhagfyr - un o’r sioeau stoc mwyaf yn Ewrop gyda siopa, bwyd a diod Nadolig a llawer mwy yn Llanelwedd gerllaw Builth Road
- Pantomeim Nadolig Aladdin - 6 Rhagfyr i 4 Ionawr - dewch i fwynhau panto Nadolig gyda Joe Pasquale a Kev Johns yn Theatr y Grand Abertawe
Diwrnodau Nadolig allan o gwmpas Cymru
Dyma rai o’r pethau gorau i’w gwneud o gwmpas Cymru ym mis Rhagfyr i gofleidio ysbryd yr ŵyl.
Siopa Nadolig Cymru
Os ydych awydd mynd i siopa cyn y diwrnod mawr, mae gan Gymru lefydd gwych i siopa. Am y casgliad mwyaf o siopau stryd fawr ac annibynnol, nid oes raid mynd dim pellach na’r brifddinas, Caerdydd.
Mae gan Ganolfan Nwyddau Dylunwyr McArthurGlen Pen-y-bont ar Ogwr fargeinion lu. Mae’n llawn o siopau’n cynnig gwerth am arian gwych. Opsiwn tebyg arall yw Canolfan Cwmbrân gyda dros gant o siopau a digonedd o gaffis a bwytai.
Am anrhegion fymryn yn fwy unigryw, beth am y Fenni neu’r Gelli Gandryll. Mae’r ddwy dref yn enwog am eu casgliad o siopau annibynnol a lleol.
Marchnadoedd Nadolig yng Nghymru
Mae gan Gymru farchnadoedd Nadolig ardderchog, yn llawn o fwyd a diod Nadoligaidd, stondinau difyr gydag anrhegion Nadoligaidd o safon, cerddoriaeth a mwy. Rhai o’n ffefrynnau yw marchnad Nadolig Caerdydd, marchnad Nadolig Caerffili a marchnad Nadolig Portmeirion.
Am fwy o fanylion, darllenwch ein canllaw Marchnadoedd Nadolig yng Nghymru.
Bwyd a diod Nadoligaidd
Un o’r pethau mwyaf hudolus am y Nadolig yw bwyd a diod yr ŵyl. P’un ai’n mynd allan gyda ffrindiau neu deulu am bryd cyn y Nadolig, yn chwilio am rywle i gynnal parti Nadolig, neu’n chwilio am damaid i’w fwyta ar ddiwrnod allan, mae gan Gymru ddigon o ddewis.
Mae rhai o’r llefydd gorau’n cynnwys Porth Eirias ym Mae Colwyn, Gwen ym Machynlleth a’r Bunch of Grapes ym Mhontypridd.
Dowch i wybod mwy am rai o drysorau bwyd cudd Cymru a llwyth o ddewis o brydau Nadoligaidd.
Cynlluniwch eich siŵrne drên i fwynhau diwrnod allan Nadoligaidd yng Nghymru, tocynnau hyblyg a dim ffi archebu.