Croeso i’r Gymru Nadoligaidd! Yn ystod tymor yr ŵyl, mae Cymru’n gartref i farchnadoedd Nadolig a ffeiriau gaeaf hudolus sy’n sicr o’ch rhoi chi yn ysbryd yr ŵyl. O ddigwyddiadau traddodiadol mewn trefi cestyll hanesyddol yng Ngogledd a Gorllewin Cymru i farchnadoedd bywiog mewn dinasoedd yn y De, mae gennym ni wybodaeth am y marchnadoedd Nadolig gorau yng Nghymru yn 2026 a sut mae mynd yno ar y trên.
Drwy fynd ar y trên cewch osgoi’r traffig ac osgoi trafferthion parcio. Edrychwch ar ein hoff gyrchfannau Nadoligaidd ar gyfer 2026 isod, edrychwch am gyngor teithio byw ar ein ap a phrynu eich tocynnau’n gynnar i arbed arian a chael siwrnai hwylus.
Y marchnadoedd Nadolig gorau yng Nghymru yn 2026
Mae un o farchnadoedd Nadolig mwyaf poblogaidd Cymru, Marchnad Nadolig Caerdydd yn ymestyn ar draws canol y ddinas rhwng 12 Tachwedd a 23 Rhagfyr 2026. Gan ymestyn ar draws Heol Eglwys Ioan, Stryd Working, Heol y Drindod a Stryd Hill, mae dwsinau o stondinau ysblennydd yn dod â bwrlwm i’r brifddinas:
- Cabanau steil y cyfandir yn gwerthu anrhegion, gemwaith a chrefftau lleol a wnaed â llaw.
- Stondinau bwyd gourmet yn cynnwys raclette, bratwurst, gwin cynnes a chawsiau artisan Cymreig.
- Mynediad rhwydd i lawr sglefrio Gŵyl y Gaeaf Caerdydd a’r olwyn fawr gerllaw ar Lawnt Neuadd y Ddinas a Heol y Castell.
- Canu carolau ac adloniant byw gyda’r nos.
Cyrraedd yno ar y trên: O orsaf Caerdydd Canolog, gallwch gerdded i’r farchnad mewn cwta bum munud. Mae gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines yr un mor gyfleus. Mae trenau’n rhedeg yn rheolaidd ar draws Cymru a Lloegr; mae Caerdydd felly yn lle delfrydol am dripiau undydd Nadoligaidd o Fryste, Abertawe a Chasnewydd.
Marchnad Nadolig Abertawe
Mae Marchnad Nadolig Abertawe yn berffaith os ydych chi’n chwilio am swyn Cymreig lleol ar Stryd Rhydychen a Sgwâr y Castell. Mae’r dyddiadau ar gyfer 2026 wrthi’n cael eu cadarnhau. Cofiwch edrych ar eu tudalen Facebook i gael rhagor o wybodaeth. Yn y farchnad fe welwch:
- Stondinau pren traddodiadol yn gwerthu crefftau artisan, gwydr wedi’i chwythu â llaw ac anrhegion unigryw.
- Bwyd stryd gan gynhyrchwyr lleol, gan gynnwys cawl cynnes a theisennau cri ffres.
- Cerddoriaeth fyw, sesiynau adrodd storïau a pherfformiadau Nadoligaidd.
- Goleuadau gyda’r nos sy’n goleuo canol y ddinas a’r marina gerllaw.
Cyrraedd yno ar y trên: Dim ond deg munud ydy gorsaf Abertawe o ganol y ddinas, a cheir gwasanaethau rheolaidd o Gaerdydd, Caerfyrddin a Llundain. I gael y prisiau gorau i’ch grŵp, prynwch eich tocynnau’n gynnar ar ap neu wefan TrC.
Marchnad Nadolig Caerffili
Yn dychwelyd ar 21 Tachwedd 2026, mae Marchnad Nadolig Caerffili yn lle perffaith i fynd i hwyl yr ŵyl, gyda'r olygfa, y sŵn a’r arogl yn y dref a’r castell wrth iddynt baratoi am y Nadolig:
- Bwyd stryd blasus, seidr lleol, a gwin cynnes.
- Theatr stryd ac atyniadau ffair fach i’r teulu cyfan.
- Amrywiaeth eang o stondinau crefftau ac anrhegion ar draws canol y dref, Canolfan Gymunedol Twyn a Llys y Castell.
Cyrraedd yno ar y trên: Nid yw gorsaf Caerffili ond cwta bum munud ar droed o’r farchnad, a cheir gwasanaethau rheolaidd o Gaerdydd a rheilffyrdd cyfagos y Cymoedd, sy’n ei gwneud yn hawdd ichi ymweld ar drip undydd. Cynhelir digwyddiadau Nadoligaidd gerllaw yn y fwrdeistref hefyd, gan gynnwys Ffair Aeaf y Coed Duon a Ffair Aeaf Bargoed.
Ffair Nadolig Portmeirion
Mae Portmeirion yn brofiad hynod ynddo’i hun, ond rhwng 4 a 6 Rhagfyr 2026, fe gewch hefyd fwynhau Ffair Nadolig flynyddol Portmeirion. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
- Amrywiaeth o stondinau bwyd a diod sy’n ddelfrydol i gael blas ar gynnyrch lleol.
- Dros 120 o stondinau crefftau ac anrhegion wedi’u gwasgaru ar draws y pentref Eidalaidd.
- Cerddoriaeth ac adloniant Nadoligaidd drwy’r dydd.
- Cyfle unigryw i grwydro Portmeirion a fydd wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig.
Cyrraedd yno ar y trên: Mae modd cyrraedd Portmeirion o orsaf Minffordd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian. Edrychwch ar wefan swyddogol y digwyddiad am gyfarwyddiadau cerdded ar ôl ichi adael yr orsaf.
Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam
Cynhelir Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam rhwng 27 a 30 Tachwedd 2026, ac mae’n trawsnewid Sgwâr y Frenhines a thir hanesyddol Eglwys St Giles yn ffair wyliau llawn bwrlwm:
- Stondinau Fictoraidd atmosfferig yn arddangos crefftau lleol, teganau ac addurniadau Nadoligaidd.
- Bwyd stryd poeth, mins peis, cnau castan rhost a diodydd cynnes sbeislyd.
- Carolau Nadoligaidd ac adloniant gyda threflun hanesyddol Wrecsam yn gefndir iddynt.
Cyrraedd yno ar y trên: Pum munud yn unig ar droed o orsaf Wrecsam Canolog neu 10 munud o orsaf Wrecsam Cyffredinol yn syth i ganol y farchnad.
Digwyddiadau Nadoligaidd hwyliog eraill yng Nghymru
Llwybr Goleuni Gaeaf Luminate Wales ym Mharc Gwledig Margam
Mwynhewch antur ddisglair ar Lwybr Goleuadau Gaeaf Luminate Wales ym Mharc Gwledig Margam rhwng 24 Tachwedd 2026 a 2 Ionawr 2027. Cewch ymlwybro ar hyd llwybrau hudolus wedi’u goleuo, darganfod arddangosiadau golau trawiadol, tostio malws melys dros dân agored a mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd gyda chastell hanesyddol yn gefndir i’r cyfan.
Cyrraedd yno ar y trên: Daliwch y trên i orsaf Parcffordd Port Talbot, lle mae gwasanaethau bws cysylltiol yn rhedeg yn syth i Barc Gwledig Margam.
Penwythnos Gŵyl y Gelli yng Nghastell y Gelli
Ymunwch â Phenwythnos Gaeaf Gŵyl y Gelli rhwng 26 a 29 Tachwedd 2026 mewn achlysur i ddathlu llenyddiaeth a diwylliant. Cewch fwynhau rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgyrsiau gan awduron, perfformiadau a sesiynau adrodd storïau yng ngolau cannwyll, gyda’r cyfan yn digwydd ar yr un adeg â’r achlysur swyddogol i danio goleuadau Nadolig y dref yn Sgwâr y Farchnad.
Cyrraedd yno ar y trên: Ewch ar y trên i orsaf Henffordd neu orsaf y Fenni a chysylltu’n uniongyrchol â gwasanaethau bws lleol sy’n mynd â chi ar eich union i’r Gelli Gandryll.
Nadolig ym Mharc Bute
Camwch oddi ar y trên a chrwydro drwy Barc Bute Caerdydd rhwng 19 Tachwedd a 31 Rhagfyr 2026, wedi’i weddnewid yn ŵyl hudol Nadoligaidd y gaeaf. Gall ymwelwyr ymlwybro ar hyd y llwybr sy’n filltir o hyd, blasu bwyd a diod Nadoligaidd a mwynhau’r awyrgylch tymhorol a grëir gan oleuadau trawiadol ac addurniadau Nadoligaidd.
Cyrraedd yno ar y trên: Lleolir Parc Bute yng nghanol Caerdydd ac nid yw ond 10 munud ar droed o orsaf Caerdydd Canolog. Cofiwch brynu eich tocynnau’n gynnar i arbed arian a mwynhau siwrnai fwy cyfleus.
Cwestiynau cyffredin
Sut mae cyrraedd marchnadoedd Nadolig Cymru ar y trên?
Mae’r rhan fwyaf o’r marchnadoedd Nadolig yng Nghymru o fewn pellter cerdded i orsafoedd trên. Mewn dinasoedd a threfi fel Caerdydd, Abertawe, Caerffili, Wrecsam a Llandudno lleolir y marchnadoedd yn y canol. Edrychwch am yr amseroedd teithio byw ar ap TrC a phrynu tocynnau’n gynnar i gael y prisiau gorau.
Alla i brynu tocynnau trên ar y diwrnod ar gyfer marchnadoedd Nadolig?
Er eich bod yn gallu prynu tocynnau cyn teithio ar y diwrnod mewn gorsafoedd neu ar eich ffôn, rydyn ni’n eich cynghori i brynu eich tocynnau’n gynharach os gallwch chi. Mae prynu’n gynnar yn eich helpu i gael tocynnau rhad a chynllunio eich siwrnai yn ddi-straen yn ystod penwythnosau gwyliau prysur.
A yw trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg i farchnadoedd Nadolig yng Nghymru ar benwythnosau?
Ydyn, rydym yn rhedeg gwasanaethau dyddiol rheolaidd ar draws Gogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Edrychwch ar ein cynllunydd teithiau trên bob amser cyn cychwyn i weld yr amserlenni diweddaraf ar gyfer y penwythnos ac i weld cyngor am deithio cyn a dros y Nadolig.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Dewch o hyd i'ch Caer Dewch i ddarganfod Find your Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-