Os ydych chi'n teithio o Llandudno i Gaergybi, mae'r trên yn gyflym, yn effeithlon ac yn ddidrafferth. Eisteddwch yn ôl a mwynhewch arfordir a chefn gwlad prydferth Gogledd Cymru. Byddwch chi'n cyrraedd yno mewn dim o dro gyda threnau sy’n cymryd ychydig dros awr.
Manylion allweddol: Trenau o Landudno i Gaergybi
Hyd y daith: 1 awr 9 munud ar y trên cyflymaf.
Trenau uniongyrchol: Na, fel arfer mae un newid yng Nghyffordd Llandudno
Trên cyntaf: 07:04
Amlder: Tua 20 o drenau bob dydd
Prif arosfannau: Deganwy, Cyffordd Llandudno, Bangor.
Gorsaf gyrchfan: Caergybi
Cyfleusterau: Seddi eang, mannau gwefru a Wi-Fi am ddim ar y trên.
Arbedion ar docynnau: Prynwch docynnau Advance, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru
Teithio o Landudno i Gaergybi
Mae'r trên o Landudno i Gaergybi yn ffordd economaidd ac ecogyfeillgar o deithio. Ewch ar y trên yn Llandudno a newidiwch yn rhwydd yng Nghyffordd Llandudno i fod yno mewn dim o dro.
P'un a ydych chi'n teithio ar gyfer gwaith neu bleser, teithiwch mewn cysur a steil gyda'n seddi cyfforddus, Wi-Fi am ddim a mwy.
Mae tua 20 o drenau i ddewis ohonynt bob dydd. Mae trenau'n cychwyn o tua 07:00 y bore, sy’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd peth cyntaf yn y bore. Mae trenau'n rhedeg tan ychydig cyn 22:00, felly does dim rhaid i chi ruthro i ffwrdd yn gynnar – sy’n berffaith os ydych chi allan gyda ffrindiau a theulu.
Darganfyddwch ragor am y trên o Landudno i Gaergybi heddiw.
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Landudno i Gaergybi?
Mae'r daith gyfartalog o Landudno i Gaergybi fel arfer o dan 1 awr a 30 munud ond bydd yn dibynnu ar y trên penodol a ddewiswch.
Pa mor aml mae trenau o Landudno i Gaergybi?
Mae tua 20 trên y dydd o Landudno i Gaergybi, felly mae'n debyg na fydd yn rhaid i chi aros yn hirach nag awr am eich trên. Mae trenau'n amlach yn ystod cyfnodau brig fel yr awr frys.
Pam teithio ar y trên o Landudno i Gaergybi?
Osgowch y traffig a chymerwch y trên o Landudno i Gaergybi am daith gyflym a chyfforddus. Mae cymaint i'w weld a'i wneud yng Nghaergybi, o'r arfordir trawiadol i fwynhau bywyd gwyllt.
- Ewch i Warchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd - Mae'r arfordir heb ei ail hwn yn gartref i rywogaethau adar trawiadol a phrin.
- Ymweld â Pharc Gwledig Penrhos - Ardal o harddwch naturiol, mae'r warchodfa natur hon yn syfrdanol, yn llawn planhigion ac anifeiliaid prydferth.
- Taith yn ôl mewn amser yn Amgueddfa Forwrol Caergybi - Dysgu ragor am hanes morwrol bywiog yr ardal
- Mwynhewch y traeth - Gyda thywod, pyllau creigiog, llithrfeydd a bwyd a diod, mwynhewch ddiwrnod ar y traeth.
Darganfyddwch ragor yn ein canllaw cynhwysfawr ar bethau i'w gwneud yng Nghaergybi.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu tocynnau trên o Landudno i Gaergygbi
Pan fyddwch chi'n dewis y trên o Landudno i Gaergybi, bydd prynu'n uniongyrchol gyda ni yn arbed arian i chi. Darganfyddwch ragor o awgrymiadau ar gyfer arbed arian isod:
- Defnyddiwch Gerdyn Rheilffordd
- Prynwch docyn tymor - os ydych chi'n teithio'n am
- Prynwch docynnau hyd at 12 wythnos cyn i chi deithio
- Dewiswch daith y tu allan i oriau brig
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.
Cwestiynau cyffredin
Pryd ddylwn i brynu tocyn dwyffordd?
Os ydych chi eisiau hyblygrwydd o ran pryd rydych chi'n teithio'n ôl, gallwch chi brynu tocyn dwyffordd Agored.
Pa mor gynnar alla i brynu tocynnau?
Fel arfer gallwch brynu eich tocyn hyd at 12 wythnos cyn i chi deithio yn y DU.
Oes unrhyw drenau uniongyrchol o Landudno i Gaergybi?
Na, fel arfer bydd yn rhaid i chi newid yng Nghyffordd Llandudno, yr orsaf drenau ganolog ar y llwybr.
Pryd mae'r trên olaf o Landudno i Gaergybi?
Fel arfer, mae'r trên olaf i Gaergybi o Landudno tua 22:00. Dylech wirio ein cynllunydd teithiau am amseroedd cywir.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-