Os oes gennych chi Docyn Teithio Rhatach gan un o Awdurdodau Lleol Cymru, bydd modd i chi deithio am ddim ar lawer o’n trenau.
Gallwch deithio am ddim rhwng:
- Wrecsam - Pont Penarlâg (Rheilffordd y Gororau)
- Machynlleth - Pwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian) - rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig
- Llandudno - Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
- Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) - rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig
Bydd yn rhaid i chi gael tocyn am ddim o'r swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau yn yr orsaf, neu ei bod hi wedi cau, bydd modd i chi gael eich tocyn gan yr Archwiliwr Tocynnau ar y trên.
Gallwch gael 1/3 oddi ar bris tocynnau ar y llwybrau hyn
Cewch 1/3 oddi ar bris tocynnau ar ôl 09:30 dydd Llun - dydd Gwener ac unrhyw bryd ar benwythnosau a gwyliau banc.
- Caerdydd - Bae Caerdydd
- Caerdydd - Coryton/Radur
- Caerdydd - Ynys y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd - Treherbert
- Caerdydd - Aberdâr
- Caerdydd - Merthyr Tudful
- Caerdydd - Rhymni
- Caerdydd - Maesteg
- Caerdydd - Glyn Ebwy
Gallwch brynu tocynnau am brisiau gostyngol ar ein gwefan a'n ap, o’r swyddfa docynnau yn yr orsaf neu ar y trên. Maen nhw’n ddilys ar wasanaethau TrC yn unig.
Gallwch deithio i’r llefydd hyn:
Wrecsam - Pont Penarlâg (Rheilffordd y Gororau)
Gallwch deithio am ddim rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:
Pont Penarlâg, Lefel Uchel Shotton, Penarlâg, Bwcle, Pen-y-ffordd, Yr Hôb, Caergwrle, Cefn-y-Bedd, Gwersyllt, Wrecsam Cyffredinol a Wrecsam Ganolog ar Reilffordd y Gororau (ddim yn ddilys trwy Gaer).
Machynlleth - Pwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian)
Bob blwyddyn, rhwng 01 Hydref a 31 Mawrth, mae modd i chi deithio rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:
Pwllheli, Abererch, Penychain, Cricieth, Porthmadog, Minffordd, Penrhyndeudraeth, Llandecwyn, Talsarnau, Tygwyn, Harlech, Llandanwg, Pensarn, Llanbedr, Dyffryn Ardudwy, Tal-y-bont, Llanaber, Abermaw, Morfa Mawddach, Fairbourne, Llwyngwril, Tonfannau, Tywyn, Aberdyfi, Penhelig, Cyffordd Dyfi, Machynlleth.
Dydyn ni ddim yn derbyn tocynnau rhatach ar y trenau canlynol yn ystod tymhorau ysgol:
-
06:29 Pwllheli - Machynlleth rhwng Abermaw a Thywyn
-
07:24 Pwllheli - Machynlleth rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech
-
12:51 Machynlleth - Pwllheli rhwng Harlech a Phenrhyndeudraeth
-
14:56 Machynlleth - Pwllheli rhwng Tywyn ac Abermaw
Llandudno - Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
Gallwch deithio am ddim rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:
Llandudno, Deganwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Betws-y-Coed, Pont-y-Pant, Dolwyddelan, Y Bont Rufeinig, Blaenau Ffestiniog.
Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru)
Bob blwyddyn, rhwng 01 Hydref a 31 Mawrth, mae modd i chi deithio rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:
Amwythig, Church Stretton, Craven Arms, Broome, Hopton Heath, Bucknell, Trefyclo, Cnwclas, Llangynllo, Ffordd Llanbister, Dolau, Pen-y-bont, Llandrindod, Ffordd Llanfair-ym-Muallt, Cilmeri, Garth (Powys), Llangamarch, Llanwrtyd, Pen y Fâl, Cynghordy, Llanymddyfri, Llanwrda, Llangadog, Llandeilo, Ffair-fach, Llandybie, Rhydaman, Pantyffynnon, Pontarddulais, Llangennech, Bynea, Llanelli, Tre-gŵyr, Abertawe.
Dydyn ni ddim yn darparu tocynnau am ddim ar gyfer teithiau cyfan rhwng Amwythig a Bucknell a rhwng Llanelli ac Abertawe.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti