Ydych chi’n chwilio am y bwyty perffaith ar gyfer teuluoedd yng Nghymru? Rydyn ni wedi creu rhestr o’r argymhellion gorau er mwyn dod o hyd i’r man perffaith ar gyfer eich teulu.
O bysgod a sglodion ar lan y môr i dafarndai cysurus yn y wlad a bwytai metropolitan, mae Cymru’n llawn mannau gwych i fwyta allan gyda’r plant. P’un a oes gennych fabi newydd, un bach ffyslyd neu blentyn ychydig yn hŷn, rydyn ni yma i’ch helpu gyda’n hargymhellion perffaith ar gyfer y teulu ledled Cymru.
Osgowch eistedd mewn traffig gan glywed, “Ydyn ni ‘di cyrraedd ‘to?” Gadewch y car gartref ac ewch ar antur ar y trên. Mae pob bwyty a siop goffi ar ein rhestr dim ond yn daith gerdded fer o’r orsaf drenau agosaf. Gadewch inni ddelio â’r daith er mwyn ichi ddelio â’r hwyl.
Bwyta allan gyda’r teulu yng Nghymru
Mae Cymru’n dod yn un o’r cyrchfannau bwyd mwyaf cyffrous yn y DU ac mae ganddi fannau perffaith i deuluoedd fwynhau pryd o fwyd blasus, mewn amgylchedd clyd a hamddenol.
Mae yna leoliadau gwych i deuluoedd fwyta allan ynddynt, fel sin fwyd fywiog Caerdydd a hafan ar lan y môr Dinbych y Pysgod.
Gyda'n tocyn trên Teulu gall hyd at ddau blentyn dan 16 oed deithio am ddim gydag oedolyn sy’n talu am docyn, sy’n berffaith ar gyfer arbed arian. Prynwch eich tocyn gyda ni’n uniongyrchol heddiw er mwyn osgoi talu ffioedd archebu.
Y bwytai gorau i’r teulu
Dyma rai o'n hoff fwytai ledled Cymru ar gyfer teuluoedd.
Bwytai i deuluoedd Caerdydd
Mae gan brif ddinas Cymru gymaint o opsiynau addas ar gyfer teuluoedd. Mae canol y ddinas a Bae Caerdydd cyfagos yn cynnig rhywbeth ar gyfer pob blas a chyllid.
- Fat Hippo - Bwyty annibynnol gwych sy’n gweini ystod o fyrgyrs gyda bwydlen i blant.
- The Stable - Os yw’ch teulu yn dwlu ar pizza, ewch yn syth i ‘The Stable’ am fwyd blasus mewn awyrgylch wych.
Gorsafoedd allweddol: Caerdydd Canolog, Caerdydd Heol y Frenhines, a Bae Caerdydd.
Bwytai i’r teulu yn Abertawe
Mae gan Abertawe sin fwyd leol gyffrous, yn enwedig yn y farchnad enwog dan do ac ar lan y môr.
- Swansea Market Café - Gyda sawl man i ddewis ohonynt, mae yna rywbeth i bob aelod o’r teulu yn Siop Goffi Marchnad Abertawe (Swansea Market Café).
- The Secret Beach Bar & Kitchen - Byddwch yn dod o hyd i brydau bwyd blasus yn The Secret Beach Bar & Kitchen gan wylio’r môr ar yr un pryd.
Gorsafoedd allweddo: Abertawe
Bwytai i’r teulu yng Ngogledd Cymru
O ryfeddod Fictoraidd Llandudno i Gwm Conwy syfrdanol, mae’r gogledd yn cynnig prydau bwys swmpus, anffurfiol i’r holl deulu gyda golygfeydd rhyfeddol i’w mwynhau yn y cefndir.
- Teddy’s Bar, Bistro and Restaurant - Yn gweini bwyd ffres, o ansawdd uchel, mae Teddy’s yn fan perffaith ar gyfer teuluoedd ni ddylid ei golli.
- Hickory's Smokehouse Wrexham - Os ydych yn dwlu ar farbeciw, dylai Hickory’s fod ar eich rhestr o fannau i roi cynnig arnynt gyda’r teulu, yn bendant.
Gorsafoedd gorau: Bangor, Rhyl, a Wrecsam Cyffredinol.
Y bwytai gorau yn Ne Cymru
Yn gartref i fannau fel Sir Benfro a’r Bari, mae gan y de rywbeth i bob teulu.
- Simply Seafood, Dinbych y Pysgod - yn gweini bwyd môr ffres, mae’r man anffurfiol hwn yn cyfuno golygfeydd prydferth gyda bwyd gwych.
- Fratelli, Casnewydd - Os ydych chi’n hoffi bwyd Eidalaidd, mae’n anodd dod o hyd i unrhyw le gwell na Fratelli sy’n gweini rhai o’r prydau traddodiadol Eidalaidd gorau yng Nghymru.
Gorsafoedd gorau: Dinbych-y-pysgod a Casnewydd.
Bwytai i’r teulu yng Nghanolbarth Cymru
Mae gwlad Canolbarth Cymru’n arbenigo yn y fath o fwyd cynnes a swmpus sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd ar ôl diwrnod o anturiaethau.
- Caffi Cledrau, Aberystwyth - am brofiad hamddenol yn yr orsaf, rhowch gynnig ar Caffi Cledrau am amrywiaeth o brydau poeth ac oer.
- Dragon Inn, Crickhowell - p’un a ydych yn dymuno pryd o fwyd swmpus neu rydych yn dymuno aros dros nos, mae’r Dragon Inn yn fan perffaith i deuluoedd.
Gorsafoedd gorau: Machynlleth, Aberystwyth, Y Trallwng, a'r Drenewydd.
Argymhellion ar gyfer bwyta allan gyda’r teulu yng Nghymru
Archebwch ymlaen llaw
Gall y bwytai gorau i deuluoedd lenwi’n eithaf cyflym, yn enwedig ar y penwythnos neu yn ystod gwyliau ysgol. Rydyn ni’n argymell ffonio ymlaen llaw neu archebu ar-lein i sicrhau bod bwrdd ar gael ichi.
Cadwch olwg am gynigion
Mae gan rai bwytai a siopau coffi gynigion ar ginio neu swper cynnar. Gallwch hefyd ddod o hyd i rai cynigion lle bod plant yn bwyta am ddim, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol, sy’n berffaith ar gyfer arbed arian.
Gwiriwch y fwydlen
Os oes gennych blentyn sydd ychydig yn ffyslyd gyda bwyd, gwiriwch y fwydlen cyn archebu. Gallai hyn helpu osgoi gwastraffu bwyd.
Ewch ag adloniant gyda chi
Chi sy’n adnabod eich plentyn orau. Ewch â rhywbeth gyda chi i gadw eu sylw. Gall plentyn a chwant bwyd fod yn ddiamynedd felly mae’n rhaid eu cadw’n brysur.
Disgwyliwch aros
Fel arfer, mae’n rhaid aros 20 i 45 munud am eich bwyd. Sicrhewch eich bod yn cynllunio ar gyfer hyn wrth gyrraedd y bwyty er mwyn osgoi cael plentyn sydd â chwant bwyd ac sy’n grac.