Gellir mwynhau rhai o wyliau gorau Cymru yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gall y bws neu'r trên fod yn ffordd gyfleus a chost effeithiol o deithio sydd hefyd yn fwy cynaliadwy i'r amgylchedd. Darganfyddwch fwy isod a chynlluniwch eich taith heddiw.
Ein canllaw i'r gwyliau gorau yng Nghymru
Gwyliau cerddoriaeth a'r celfyddydau yng Nghymru
FOCUS Wales
Pryd: fel arfer yn cael ei chynnal dros benwythnos hir ddechrau mis Mai.
Mae FOCUS Wales, a gynhelir yn Wrecsam, yn trawsnewid y dref yn arddangosfa aml-leoliad o dalent gerddorol newydd Cymru, yn ogystal â rhai o'r perfformwyr gorau ledled y byd. Fel arfer mae'n denu dros 10,000 o bobl i weld dros 200 o fandiau ar draws 20 llwyfan gwahanol. Mae yna hefyd gomedi stand-yp, digwyddiadau celfyddydol a ffilmiau i’w gwylio.
Sut i gyrraedd yno: Mae Wrecsam yn dref bwysig ar ein rhwydwaith. Gallwch ddal gwasanaethau TrC uniongyrchol i Wrecsam Cyffredinol o Gaerdydd, Amwythig, Caer and Birmingham Rhyngwladol. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau'r ŵyl wedi'u lleoli yng nghanol y ddinas, dim ond 5-15 munud ar droed o'r orsaf.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Pryd: fel arfer yn cael ei chynnal dros bedwar diwrnod rhwng canol a diwedd mis Awst.
Gyda’r Bannau Brycheiniog trawiadol yn gefnlen iddi, mae’r Dyn Gwyrdd yn ŵyl annibynnol chwedlonol sy'n adnabyddus am ei ethos moesegol, ei bandiau indi gwerin a "Gardd Einstein" lle mae gwyddoniaeth yn cwrdd â chelf. Unwaith yn ddigwyddiad gwerin bach a fynychwyd gan ychydig gannoedd o bobl, mae Dyn Gwyrdd wedi tyfu i groesawu mwy na 15,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae'r rhestr o berfformwyr yn cynnwys popeth o gerddoriaeth indi i gerddoriaeth werin draddodiadol i roc garej neu electronica sy'n toddi’r clustiau. Mae'r ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt gyda llosgi'r Dyn Gwyrdd ei hun ar y noson olaf.
Sut i gyrraedd yno: Teithiwch ar linell y Gororau i orsaf y Fenni. Yn ystod yr ŵyl, mae bws gwennol pwrpasol yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf ac Ystâd Glan-wysg. Mae timau ein gorsaf yn aml ar y safle i helpu gydag offer gwersylla trwm a chyfarwyddiadau i'r gwasanaeth bws cysylltu.
Gŵyl In It Together
Pryd: fel arfer yn cael ei chynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc ddiwedd mis Mai.
Yn swyddogol, gŵyl deuluol fwyaf y DU ydyw, sy'n cynnig cyfuniad enfawr o gerddoriaeth indi, pop ac electronig. Mae’r perfformiadau blaenorol yno’n cynnwys Madness, Aitch, Snow Patrol a Rag 'n' Bone Man. Mae'r ŵyl yn ymfalchïo mewn bod yn addas ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnig gweithgareddau i blant, syrcas ac ardal wersylla bwrpasol, tawelach i deuluoedd.
Sut i gyrraedd yno: Cymerwch wasanaeth TrC i Barc Port Talbot. O'r orsaf, mae bysiau gwennol pwrpasol yr ŵyl yn rhedeg yn rheolaidd i'r safle yn Old Park Farm.
Gŵyl Sŵn
Pryd: fel arfer yn cael ei chynnal dros dri diwrnod yng nghanol mis Hydref.
Gŵyl aml-leoliad arobryn sy'n cymryd drosodd lleoliadau cerddoriaeth eiconig Caerdydd (fel Clwb Ifor Bach a Tramshed). Dyma'r penwythnos gorau i ddarganfod eich hoff fand newydd.
Sut i gyrraedd yno: Teithiwch i Gaerdydd Canolog neu Gaerdydd Heol y Frenhines. Fel gŵyl drefol, mae'r holl leoliadau o fewn pellter cerdded hawdd i'r prif ganolfannau hyn.
Cyfres yr Haf yng Nghastell Caerdydd
Pryd: Trwy gydol Mehefin a Gorffennaf.
Sêr byd-eang mawr a gigs awyr agored enfawr wedi'u lleoli o fewn muriau hanesyddol Castell Caerdydd. Bwriwch olwg ar ein tudalen lawn ar Gyfres yr Haf yng Nghastell Caerdydd i ddod o hyd i ddyddiadau gigs penodol a chyngor teithio hwyr y nos.
Sut i gyrraedd yno: Mae Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol y Frenhines 10 munud ar droed o'r castell.
Gwyliau diwylliant a llenyddiaeth yng Nghymru
Gŵyl y Gelli
Pryd: fel arfer yn rhychwantu un diwrnod ar ddeg ar ddiwedd mis Mai a dechrau Mehefin.
Yn aml yn cael ei alw'n "Woodstock y Meddwl," dyma brif ŵyl lenyddol y byd. Wedi'i lleoli yn y Gelli Gandryll, lansiwyd yr ŵyl hon ym 1988 ar ôl i’r teulu Florence feddwl am y syniad wrth fwrdd eu cegin. Heddiw, mae'r ŵyl yn denu dros 100,000 o ymwelwyr i ymgysylltu ag awduron, beirdd, athronwyr, haneswyr, gwyddonwyr, comedïwyr a cherddorion mawr y byd.
Sut i gyrraedd yno: Cymerwch wasanaeth TrC i orsaf Henffordd (ar y llinell rhwng Caerdydd a Manceinion). O Henffordd, mae'r "Bws Gŵyl y Gelli" pwrpasol yn gweithredu gwasanaeth gwennol aml yn uniongyrchol i safle'r ŵyl trwy gydol y digwyddiad.
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Pryd: Fe’i cynhelir yn draddodiadol yn ystod wythnos gyntaf Awst.
Dathliad enfawr, nomadaidd o'r iaith a'r diwylliant Cymreig. Mae pawb yn cael eu gwahodd, felly peidiwch â gadael i’r ffaith nad ydych yn siaradwr Cymraeg eich peri i gadw draw ohoni, er y gallwch gymryd rhan mewn gwers Gymraeg ar y safle! Mae'r ŵyl yn symud rhwng gogledd a de Cymru bob blwyddyn, ac yn cynnwys cerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol a chadeirio'r bardd enwog.
Sut i gyrraedd yno: Oherwydd bod safle'r ŵyl yn symud bob blwyddyn, rydym yn argymell bwrw golwg ar ein gwefan am yr orsaf agosaf. Yn draddodiadol, rydym yn darparu capasiti ychwanegol ac arwyddion arbenigol yn y ganolfan reilffordd agosaf (fel Wrecsam Cyffredinol, Pontypridd, neu Lanelli) i sicrhau llif rhwydd i fynychwyr yr ŵyl.
Gwyliau bwyd a diod
Gŵyl Fwyd y Fenni
Pryd: Fel arfer, y trydydd penwythnos ym mis Medi.
Paradwys i’r rheini sy’n dwlu ar fwyd a'r diweddglo perffaith i dymor yr haf. Mae'r ŵyl hon yn cymryd drosodd tref farchnad gyfan Y Fenni, gan ddathlu'r gorau o gynnyrch Cymreig, o gawsiau artisan i seidr o'r radd flaenaf. Mwynhewch dros ddau gant o arddangoswyr mewn chwe lleoliad, sy’n cynnig dewis heb ei ail o ddanteithion o Sir Fynwy, y Gororau, Cymru a thu hwnt.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf y Fenni wedi’i lleoli’n berffaith ar gyfer y digwyddiad hwn. Dim ond 10 munud ar droed o'r orsaf i ganol y dref, lle mae'r dathliadau'n dechrau. Rydym yn argymell prynu eich tocyn yn gynnar, gan mai hwn yw un o'r penwythnosau prysuraf ar linell y Gororau.
Teithiwch yn ddoeth a darganfyddwch fwy
Mae defnyddio ein rhwydwaith i gyrraedd y gwyliau gorau hyn yng Nghymru nid yn unig yn ddewis sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Mae'n ffordd hawdd o ymlacio a mwynhau'r golygfeydd.
Cynlluniwch ymlaen llaw: Gwiriwch yr amseroedd trenau diweddaraf a'r gwasanaethau bws cysylltu bob tro gan ddefnyddio ein cynllunydd teithiau cyn i chi deithio.
Prynwch yn uniongyrchol: Cofiwch brynu brynu eich tocynnau yn gynnar am y prisiau isaf a dim ffioedd archebu.