Gwasanaethau

Llanarmon

fflecsi

Crynodeb

Gan gysylltu â Rhuthun a'r Wyddgrug, mae Llanarmon yn barth fflecsi sy'n eich galluogi i archwilio mwy o gefn gwlad Cymru.

Teithiwch unrhyw le o fewn parth Llanarmon a chysylltwch yn hawdd â bysiau eraill i deithio i gyrchfannau ymhellach i ffwrdd. Mae gan ardaloedd cyfagos Rhuthun* a'r Wyddgrug* lawer iawn i'w gynnig, gan gynnwys teithiau cerdded hardd, siopau a bwytai annibynnol, yn ogystal ag adeiladau rhestredig Gradd II.

Yn dechrau 23 Chwefror. Archebwch eich taith nawr.

 

Pethau i’w gwneud

  • Mwynhewch ddiwrnod allan yn nhrefi hanesyddol Rhuthun neu'r Wyddgrug*
  • Darganfyddwch hanes canoloesol a chwedlau’r Brenin Arthur yng Ngharreg Carn March Arthur.
  • Siopwch am nwyddau bob dydd a phorwch am damaid i'w fwyta yn Siop Gymunedol Llanarmon, sy'n cynnig danteithion melys wedi'u pobi, pasteiod, coffi a mwy. Mae hwn yn lle gwych i stopio os ydych chi'n cerdded ar hyd Clawdd Offa.
  • Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn cysylltu Parc Carafanau Eryrys ac Arbennig Lodges â'r gymuned leol

*Nid oes modd teithio rhwng trefi Rhuthun a'r Wyddgrug gan mai pwyntiau cysylltu â Llanarmon yn unig yw'r arosfannau hyn. Er mwyn teithio rhwng y ddwy ardal hyn, bwriwch olwg ar wasanaeth T8 TrawsCymru.

 

Cysylltiadau ymlaen

Cysylltwch â pharth fflecsi Rhuthun ac archwiliwch fwy o'r ardal leol.

Cysylltwch yn hawdd â gwasanaethau TrawsCymru yn Rhuthun (T8 a T51) a'r Wyddgrug (T8), gyda chyfleoedd i deithio ymlaen i drefi mawr a chyrchfannau rhanbarthol:

  • Caer ar y T8 - crwydrwch o amgylch Muriau’r Ddinas, galwch heibio i Gadeirlan eiconig Caer a mwynhewch ginio ym Marchnad Caer.
  • Llanelwy ar y T51 - ewch i weld eglwys gadeiriol leiaf Prydain, crwydrwch ganolfan siopa Tweedmill ac archwiliwch yr ardaloedd cyfagos a darganfyddwch deithiau cerdded drwy natur.
  • Dinbych ar y T51 - dewch o hyd i hanes canoloesol yng Nghastell Dinbych, crwydrwch o gwmpas y siopau annibynnol a mwynhewch ginio mewn tafarn leol.

 

Prisiau tocynnau

Gallwch dalu am eich taith ymlaen llaw ar ap fflecsi neu ar y bws gyda thaliad digyswllt neu arian parod.

  • Tocyn unffordd oedolyn - yn dechrau o £1.50.
  • Plant (5 - 15) a phobl ifanc (16 - 21 gyda fyngherdynteithio) -
    • Taith Sengl (Unffordd) - £1.00.
    • Tocyn Cymru (Tocyn Diwrnod) - £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bysiau sy'n cymryd rhan yn y cynllun).
  • Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu o £7.50 (oedolyn) / £5.00 (consesiwn).
  • Mae deiliaid cardiau teithio rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.

 

Tap Ymlaen Tap Ymadael

Mae tap ymlaen tap ymadael (TYTY) yn ddull syml y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i brynu tocyn Oedolyn.

  • Tapiwch eich cerdyn debyd neu ddyfais ddigyswllt ar ddarllenydd y peiriant tocynnau wrth fynd ar y bws.
  • Yna tapiwch yr un cerdyn neu ddyfais ar y Darllenydd Tap Ymadael wrth i chi ddod oddi ar y bws.
  • Cyfrifir y pris tocyn unffordd rhwng y ddau bwynt.
  • Os byddwch chi'n gwneud sawl taith ac mae'r pris yn cyrraedd y cap prisiau, sef pris tocyn Diwrnod 1bws ar hyn o bryd, codir uchafswm o £7.50 arnoch chi ni waeth faint yw cyfanswm pris eich tocynnau. Os ydych chi'n gwneud sawl taith dros 7 diwrnod yn olynol, bydd y system yn cyfrifo a yw'n well i chi dalu am docynnau Diwrnod 1bws lluosog neu docyn Wythnos 1bws.

 

Archebu ymlaen llaw

28 diwrnod.

 

Cŵn ar fysiau

Rydym yn caniatáu i deithwyr deithio gyda’u ci anwes.

 

Map

Oriau gwasanaeth

  • Dydd Llun
    09:15 - 15:00
    16:30 - 18:00
  • Dydd Mawrth
    09:15 - 15:00
    16:30 - 18:00
  • Dydd Mercher
    09:15 - 15:00
    16:30 - 18:00
  • Dydd Iau
    09:15 - 15:00
    16:30 - 18:00
  • Dydd Gwener
    09:15 - 15:00
    16:30 - 18:00
  • Dydd Sadwrn
    09:15 - 18:00

Archebwch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Lawrlwythwch ein ap

Ffoniwch ni ar 03002 340 300

Dydd Llun - Dydd Sadwrn: 06:00 - 13:00
Dydd Sul: 09:00 - 19:00

Lleoliadau fflecsi

Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.