Gwasanaethau
Machynlleth
Mae parth fflecsi Machynlleth wedi ehangu i gyfuno’r gwasanaethau B36 ym Mhowys a’r FF2 yng Ngwynedd.
Mae’r estyniad yn cysylltu cymunedau sy’n cynnwys Llanwrin, Glantwymyn, Cemaes, Aberangell, Mallwyd, Dinas Mawddwy, Aberhosan, Tal-y-wern, Darowen a Abercegir â’i gilydd a Machynlleth.
Mae fflecsi’n cysylltu tref hanesyddol Machynlleth gyda phentrefi tua gogledd yr A487 gan gynnwys Aberllefenni, Corris Uchaf, Corris, Minffordd a Phantperthog. Mae’r gwasanaeth hwn yn berffaith i’r rheini sy’n cysylltu â chanol tref Machynlleth ar gyfer gwaith, siopa, addysg ac apwyntiadau.
Pethau i’w gwneud
- Wedi’i leoli ym mhrydferthwch Dyffryn Dyfi ac yn agos iawn at ei foryd, mae Machynlleth yn lle hyfryd i dreulio’r prynhawn. Mae marchnad wych yng nghanol y dref sydd ar agor ddydd Mercher a gellir ymweld â chloc enwog y dref, hefyd.
- Dyma oedd leoliad Senedd 1404 Owain Glyndŵr. Beth am ymweld ag amgueddfa Owain Glyndŵr a dysgu mwy am yr arweinydd Cymreig chwedlonol?
- Beth am dipyn o hwyl a sbri? Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth wedi denu llawer o sylw dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n denu niferoedd uchel o bobl i ganol y dref bob blwyddyn sy’n teithio o Gymru gyfan, y DU a thu hwnt.
- Ewch i Warchodfa Natur Ynys-hir sydd ychydig filltiroedd y tu allan i ganol dref Machynlleth ac sy’n cael ei defnyddio’n aml er mwyn ffilmio Springwatch ar y BBC. Gellir crwydro ar hyd llwybrau prydferth â glaswelltiroedd iseldir, gwely cyrs, a chynefinoedd morfeydd heli.
Amwynderau lleol yn y parth hwn
- Gorsaf drên Machynlleth
- Ysbyty Bro Ddyfi
- Ysgol Dyffryn Dulas Corris
Cam nesaf eich taith
Parhewch â’ch taith gyda chysylltiadau bws a thrên o Fachynlleth:
- Gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i Aberystwyth, Pwllheli, Amwythig a Birmingham
Cysylltiadau bws lleol:
- G21 i Ddolgellau heibio Aberdyfi, Tywyn a Fairbourne
- G24 i Dywyn heibio Talyllyn, Abergynolwyn a Bryncrug
- X85 i'r Drenewydd heibio Carno a Caersws
- 36 i Ddinas Mawddwy heibio Penegoes
Cysylltiadau TrawsCymru:
- T2/T28 i Aberystwyth
- T2 i Fangor heibio Dolgellau, Porthmadog a Chaernarfon
Tocynnau
Mae modd talu ymlaen llaw drwy ap fflecsi neu dalu ar y bws gyda cherdyn / dyfais digyswllt neu arian parod.
- Tocyn unffordd i oedolion - yn dechrau o £1.50.
- Plant (5 - 15) a phobl ifanc (16 - 21 gyda cherdyn fyngherdynteithio) -
- Taith Sengl (unffordd) - £1.00.
- Tocyn Cymru (tocyn dydd) - £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bws sy'n rhan o'r cynllun).
- Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu o £7.50 (oedolyn) / £5.00 (consesiwn).
- Mae deiliaid Tocyn Teithio Rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Tap Ymlaen Tap Ymadael
Mae tap ymlaen a thap ymadael (TYTY) yn ddull syml y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i brynu tocyn Oedolyn.
- Yn syml, tapiwch eich cerdyn debyd neu ddyfais ddigyswllt ar y darllenydd tocynnau wrth fynd ar y bws.
- Yna tapiwch yr un cerdyn neu ddyfais ar y darllenydd Tap Ymadael wrth i chi ddod oddi ar y bws.
- Cyfrifir y pris sengl rhwng y ddau leoliad.
- Os byddwch yn gwneud sawl taith mewn diwrnod a bod cyfanswm gwerth eich tocynncau yn cyrraedd y cap, sef pris tocyn dydd 1bws, codir uchafswm o £7.50 arnoch. Os byddwch yn gwneud sawl taith dros gyfnod o 7 diwrnod yn olynol, bydd y system yn cyfrifo beth sy’n rhoi y gwerth am arian orau i chi, sef talu am sawl tocyn dydd 1bws neu am docyn 1bws Wythnos.
Archebu ymlaen llaw
28 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Derbynnir cŵn.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Dydd Llun (ac eithrio Gwyliau Banc)
08:45 - 18:00
-
Dydd Mawrth (ac eithrio Gwyliau Banc)
08:45 - 18:00
-
Dydd Mercher (ac eithrio Gwyliau Banc)
08:45 - 18:00
-
Dydd Iau (ac eithrio Gwyliau Banc)
08:45 - 18:00
-
Dydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc)
08:45 - 18:00
-
Dydd Sadwrn
08:00 - 18:00
-
Dim gwasanaeth ar Wyliau Banc.
⠀
-
Bydd gwasanaeth amser penodol yn gadael Aberllefenni am 08:15 ac yn cyrraedd Machynlleth am 08:40, ac yna bydd y daith ddychwelyd yn gadael Machynlleth am 15:40 ac yn cyrraedd Aberllefenni am 16:05.
⠀
-
Sylwch na fydd fflecsi ar gael i'w harchebu yn ystod y daith amser a roddir.
⠀
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.