Gogledd Cymru

Gall llawer o'n gorsafoedd ar draws Gogledd Cymru fod yn borth i lwybrau cerdded allweddol. Gallwch fwynhau teithiau cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru, un o’r ychydig lwybrau troed yn y byd sy’n dilyn arfordir y genedl, a Chlawdd Offa sy’n rhedeg o Brestatyn yr holl ffordd i Glogwyni Sedbury ger Cas-gwent. Rydym wedi nodi rhai llwybrau allweddol isod;

 

Gorsafoedd porth Llwybr Arfordir Cymru

Y Fflint

Man dechrau’r daith gerdded hon yw Castell unigryw y Fflint. I gyrraedd Castell y Fflint o’r orsaf, cerddwch 0.1 milltir / 0.2 cilomedr i lawr Castle Street. O’r fan hon gallwch fwynhau’r llwybr gwastad iawn sy’n rhedeg ar hyd glannau aber Afon Dyfrdwy, sy’n safle gwarchodedig oherwydd ei bwysigrwydd i adar a bywyd gwyllt arall.

Y Rhyl

Cerddwch yn syth o’r orsaf drenau am 0.3 milltir / 0.5 cilomedr i lawr Stryd Elwy, yna Stryd Bodfor, yna Heol y Frenhines i gyrraedd promenâd y Rhyl a Llwybr Arfordir Cymru. Wedi i chi gyrraedd y môr yn y Rhyl, bydd tywod euraidd yn ymestyn yn ddiddiwedd i bob cyfeiriad, p’un ai a ydych yn troi i’r dde tuag at Brestatyn neu i’r chwith tuag at Fae Colwyn.

Caergybi

Wedi’i disgrifio gan lawer fel un o’r rhannau gorau i’w cherdded ar y llwybr, mae’r daith gerdded o Gaergybi i Drearddur yn cynnwys parc gwledig, clogwyni garw, henebion, goleudy eiconig a gwarchodfa natur fel rhai o’i huchafbwyntiau.

Mae’n hawdd iawn cyrraedd y fan hon. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ar bont y Porth Celtaidd sy'n cysylltu'r orsaf â thref Caergybi. 

Pwllheli

Mae tref farchnad ffyniannus Pwllheli’n nodi diwedd rheilffordd y Cambrian, ac yn lle gwych arall i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru, ychydig y tu allan i'r orsaf. Ewch i'r gorllewin am Gei'r Gogledd tuag at Gricieth, neu ewch am y de i lawr Ffordd y Cob, sy’n gwbl syth, i gyrraedd yr arfordir wrth Gylch yr Orsedd, lle allwch chi barhau i fynd tuag at Lanbedrog ac Abersoch.

Prestatyn

Mae'r daith o orsaf reilffordd Prestatyn i'r arfordir yn unigryw gan ei bod yn dilyn un o Lwybrau Cenedlaethol arall Cymru, sef Llwybr Clawdd Offa. O'r orsaf, ewch yn syth i lawr Ffordd Bastion am 0.5 milltir / 0.8 cilomedr i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru wrth Ganolfan Nova, Prestatyn.

Llandudno Junction

I gyrraedd y llwybr, trowch i'r chwith drwy faes parcio'r orsaf ac i'r chwith eto i Heol Conwy wrth y gylchfan fach. Ewch drwy danlwybr byr ac o dan y drosffordd cyn cymryd y grisiau neu'r ramp i ymuno â'r cob dros yr aber i Gonwy neu ar hyd yr aber drwy Ddeganwy i Landudno.

Conwy

Yn un o’r trefi bach mwyaf prydferth yng Nghymru, mae strydoedd cul Conwy a chastell canoloesol (gweler cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW) yn cynnig cychwyn gwych i’ch taith gerdded arfordirol.

O'r orsaf (mae rhai trenau ond yn stopio yma ar gais) croeswch Sgwâr Lancaster ac ewch i lawr y Stryd Fawr am 0.2 milltir / 0.3 cilometr i'r cei tlws sy'n gartref i lynges fechan o gychod pysgota lliwgar a'r tŷ lleiaf ym Mhrydain. Trowch i'r chwith i gyfeiriad Penmaenmawr ac mae gennych ddewis o fynd â'r llwybr gwastad wrth ymyl yr arfordir neu'r llwybr mwy trawiadol - ond hefyd yn fwy heriol – ar hyd y bryniau a'r rhosydd i Lanfairfechan.

Llanfairpwll

Mae arwydd yr orsaf yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn cynnig cyfle i dynnu lluniau eiconig cyn dechrau o’r orsaf reilffordd hon.

Mae'n daith gerdded 0.4 milltir / 0.6 cilometr i gyrraedd y llwybr sy'n cychwyn ar hyd trac glaswelltog yng nghefn yr orsaf reilffordd. Trowch i'r dde ar Ffordd yr Orsaf ac i'r dde eto wrth y gyffordd gyda'r A4080.

Byddwch yn cyrraedd y llwybr ymhen ychydig gannoedd o lathenni a bydd gennych yr opsiwn i barhau yn syth ymlaen am Dde Orllewin Môn neu droi i’r chwith i gyrraedd cerflun Nelson ar lannau’r Fenai a cherdded o dan Bont Britannia a Phont Menai.

Y Bermo

Mae taith gerdded hawdd dros un o nodweddion pensaernïol eiconig Cymru yn eich disgwyl yma. Croesi aber Afon Mawddach dros bont y Bermo, na ellir ond ei chroesi ar droed, ar feic neu yn y trên. Mae Llwybr Arfordir Cymru 0.1 milltir / 0.15 cilometr o’r orsaf - ewch i’r dde i lawr Ffordd y Traeth ar ôl dod oddi ar y trên.

Am ragor o deithlenni a mapiau llwybrau Arfordir Cymru ewch i Llwybr Arfordir Cymru / O'r Cledrau i'r Llwybrau.

 

Cyrraedd llwybrau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae gwasanaethau trên Cambria a Dyffryn Conwy yn teithio i’r Parc Cenedlaethol. Ynghyd â bws Sherpa’r Wyddfa, mae ein gwasanaethau trên yn ffyrdd gwych o deithio o gwmpas y parc.

Sherpa'r Wyddfa

 

Ydych chi’n bwriadu dringo mynydd uchaf Cymru? Dyma rai llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus i’ch helpu i gyrraedd.

Gorsaf Fangor - O’r orsaf, daliwch fws S2 Sherpa i Lanberis.

Gorsaf Borthmadog - O’r orsaf hon, ewch ar fws S4 Sherpa a fydd yn eich cludo i Lwybr Watkin.

Gorsaf Betws y Coed - O’r orsaf hon, daliwch fws S1 Sherpa i Lanberis ar gyfer Llwybr Llanberis neu i Ben y Pass ar gyfer Llwybrau Pyg a Mwynwyr.

Teithiau cerdded yn Eryri

Mae nifer o’n gorsafoedd trenau’n bwyntiau dechreuol ar gyfer sawl llwybr cerdded prydferth o fewn ac o gwmpas ein pentrefi, trefi a dinasoedd. Gyda chymorth Ramblers Cymru, dyma rai o’n gorsafoedd sy’n bwyntiau fan cychwynnol gwych i ddechrau ar eich taith gerdded.

 

Bangor

Blaenau Ffestiniog

Criccieth

Penrhyndeudraeth

Pwllheli

 

Gorsafoedd porth Clawdd Offa

Prestatyn

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd gorsaf Prestatyn, gwnewch eich ffordd i'r traeth sydd tua 0.5 milltir i ffwrdd. I'r rhai sy'n chwilio am daith gerdded fer, o'r fan hon gallwch fwynhau taith gerdded 5km i Fryniau. Mae'r rhai sy'n chwilio am daith gerdded hirach, o'r traeth yn anelu at ochr y bryn uwchben y dref i ymuno â'r llwybr i Gas-gwent.

Rhiwabon a'r Waun

I gael gwibdaith undydd ar Glawdd Offa, cyrhaeddwch naill ai gorsaf Rhiwabon neu’r Waun i fwynhau’r daith 13km rhwng y ddwy orsaf. Ar hyd y llwybr mwynhewch olygfeydd o'r clawdd fel castell y Waun, a safle Treftadaeth y Byd traphont ddŵr Pontycysyllte.

I gael rhagor o wybodaeth am eich ymweliad â Chlawdd Offa, ewch i Llwybr Clawdd Offa - Llwybrau Cenedlaethol