Mae Cymru, sy'n enwog am ei thirweddau trawiadol a'i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, wedi cael ei ffafrio ers tro byd fel cefnlen ar gyfer sawl cynhyrchiad teledu a ffilm eiconig. Mae tirweddau dramatig y genedl wedi cael eu trawsnewid i mewn i bob dim o balasau brenhinol i fydoedd aliwns, sy’n rhoi lleoliadau ffilm Cymru ymhlith yr enwocaf yn y byd.
Rydyn ni wedi llunio rhestr o rai o'r lleoliadau enwog ledled y wlad sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau a chyfresi teledu sy’n werth ymweld â nhw. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys y ffyrdd gorau o’u cyrraedd gan ddefnyddio’n gwasanaethau trên a bws i hwyluso’ch taith.
Lleoliadau teledu ledled Cymru
1. Castell Caernarfon | The Crown (Netflix)
Lleoliad: Caernarfon, Gwynedd
Mae'r gaer ganoloesol fawreddog hon yn un o’r lleoliadau ffilmio enwocaf yng Nghymru. Yn fwyaf nodedig, ymddangosodd yn y gyfres deledu Netflix "The Crown" gan ail-greu’r seremoni arwisgo hanesyddol o 1969. Os ydych chi eisiau archwilio'r lleoliad ffilm hanesyddol hwn, mae’n berffaith ar gyfer taith ddiwrnod â chymysgedd o hanes a theledu.
Sut i gyrraedd: Y ffordd hawsaf o gyrraedd calon Caernarfon yw drwy neidio ar fws Traws T2 neu T22. Os ydych chi’n teithio ar y trên, ewch ar y trên i gorsaf drenau Bangor (Gwynedd), lle mae’n hawdd dal bws sy’n eich cysylltu chi.
2. Ynys y Bari | Gavin & Stacey (BBC)
Location: Barry, South Wales
Lleoliad: Barry, South Wales
Mae Ynys y Bari yn enwog ymhlith y rheini sydd wrth eu boddau â’r comedi sefyllfa boblogaidd, “Gavin and Stacey.” Mae cymeriad unigryw'r dref yn rhan enfawr o swyn y sioe, ac mae o hyd yn denu ymwelwyr sydd am gerdded yn olion traed y gang.
Ers i bennod olaf y sioe ddarlledu ar ddiwedd 2024, mae’r ynys wedi dod yn gyrchfan i ffans y sioe sydd am ddathlu hanes y teuluoedd Shipman a West. Ewch am goffi yn siop goffi ‘Marco’s café’ ar y promenâd, profwch eich lwc yn yr arcêd ddifyrrwch, ‘Island Leisure’ lle'r oedd Nessa’n gweithio, neu gallwch hyd yn oed archebu taith dywys gysegredig i ymweld â’r stryd lle'r oedd Gwen ac Wncwl Bryn yn byw.
Sut i gyrraedd: Gallwch gyrraedd y lleoliad ffilmio eiconig hwn drwy fynd ar y trên o orsaf drenau Ynys y Barri. Mae’r daith o orsaf drenau Caerdydd Canolog yn cymryd 30 munud yn unig ac unwaith ichi gyrraedd, gellir cyrraedd y traeth a’r mannau ffilmio enwog mewn ychydig funudau ar droed.
3. Y Cae Ras | Welcome to Wrexham (Disney+)
Lleoliad: Wrecsam
Dyma'r stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf sydd o hyd yn cael ei ddefnyddio. Daeth yn enwog ar y teledu trwy'r gyfres "Welcome to Wrexham" ar Disney+, sy'n dilyn yr actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney wrth iddynt arwain y tîm lleol. I ffans chwaraeon, mae’n rhaid ymweld ag ef i weld calon cymuned Wrecsam.
Sut i gyrraedd: Mae cyrraedd yno’n hawdd; ewch ar y trên o orsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, sydd wrth ymyl y stadiwm. Fel arall, gallwch ddefnyddio’r bws gan deithio ar lwybrau Traws T3, T3C, T12 i gyrraedd canol y ddinas.
4. Castell Penrhyn | House of Guinness (Netflix)
Lleoliad: Bangor, Gwynedd
Er bod gan y campwaith neo-Normanaidd hwn hanes hir ar y sgrin, yn fwyaf diweddar, daeth yn enwog fel prif leoliad ffilmio yn 2025 i’r ddrama gyfnod House of Guinness ar Netflix. Defnyddiwyd mewndiroedd moethus a ffasâd carreg ddramatig y castell i bortreadu ystâd Wyddelig y teulu Guinness, gan ddod a’r stori 19eg ganrif yn fyw yma yng ngogledd Cymru. Mae’n un o’r lleoliadau ffilm mwyaf addasadwy yng Nghymru, gan gynnig cymysgedd o foethusrwydd Fictoraidd a steil garw’r canol oesoedd.
Sut i gyrraedd: I ymweld â byd y teulu Guinness, ewch ar drên i orsaf drenau Bangor (Gwynedd). O’r orsaf, mae’r castell ond yn daith fer ar y bws Traws T10 sy’n stopio’n agos at fynedfa’r ystâd.
5. Portmeirion | The Prisoner (ITV)
Location: Minffordd, Gwynedd
Mae Portmeirion o hyd yn un o’r lleoliadau teledu cudd mwyaf enwog yng Nghymru. Y pentref Mediteranaidd hwn oedd y lleoliad swreal ar gyfer cyfres deledu cwlt y 1960au "The Prisoner," ac mae o hyd yn denu ffans o ledled y byd ar gyfer ei gonfensiynau blynyddol. Hyd yn oed heddiw yn 2026, mae’i esthetig lliwgar yr un mor ddeniadol ag yr oedd ar y sgriniau blynyddoedd yn ôl.
Sut i gyrraedd: Y ffordd orau o’i gyrraedd yw drwy ddal y trên i orsaf drenau Minffordd. O’r man hwnnw, gellir cerdded rhyw 20 munud ar hyd yr arfordir prydferth i gyrraedd gatiau’r pentref. Os oes yn well gennych deithio ar fws, mae’r bysiau Traws T2 a T22 hefyd yn stopio ym Minffordd, sy’n ei gwneud hi’n gyrchfan perffaith i’w ychwanegu at eich taith yn y gogledd. Mae defnyddio’r trên neu’r bws yn eich helpu chi i osgoi’r straen o barcio gan fod nifer gyfyngedig o fannau parcio yn y man twristaidd hwn yn ystod misoedd prysur yr haf.
6. Chwarel Dinorwig| House of the Dragon (HBO)
Lleoliad: Llanberis, Gwynedd
Wrth i ffans y sioe aros am y drydedd gyfres, sydd newydd ei chyhoeddi, gallant ymweld â’r tirweddau a wnaeth greu Westeros. Defnyddiwyd yr haenau o lechi dramatig sydd yn Chwarel Dinorwig i gynrychioli’r gaer felltigedig, Harrenhal, yn ogystal â chymoedd mynyddog eraill. Mae’n un o’r lleoliadau ffilmio mwyaf atmosfferig yng Nghymru gan gynnig graddfa sy’n edrych yn arallfydol ar y sgrin.
Sut i gyrraedd: I gyrraedd calon yr antur, ewch ar drên i orsaf drenau Bangor (Gwynedd). O Fangor, gallwch deithio ar y bws Traws T10 sy’n mynd yn uniongyrchol i Lanberis. Mae’r chwarel yn daith serth ond gwerth chweil o’r pentref, neu gallwch ymweld â’r Amgueddfa Llechi Cymru ar y gwaelod, sydd hefyd yn lleoliad ffilmio, i fwynhau’r olygfa heb y dringo.
Lleoliadau ffilm ledled Cymru
7. Tŷ Tredegar | Fuze (Sky Cinema / StudioCanal)
Lleoliad: Casnewydd, De-ddwyrain Cymru
Mae’r plasty mawreddog hwn o’r 17eg ganrif wedi bod yn ffefryn ar gyfer ffilmiau cyfnod fel ‘Journey’s End’ ers amser ond ar ddiwedd 2025, daeth i’r sgrin fawr yn y thriller heist llwyddiannus ‘Fuze’. Yn serennu Aaron Taylor-Johnson, defnyddiwyd ystafelloedd moethus a gerddi eang yr ystâd fel cyferbyniad soffistigedig i stori ddramatig y ffilm. Mae o hyd yn un o’r lleoliadau ffilm mwyaf addasadwy yng Nghymru, sy’n ail-greu pob math o bortreadau, o Ffrainc yn ystod y rhyfel, i Lundain y byd modern.
Sut i gyrraedd: Os ydych chi’n cynllunio taith i’r lleoliad hanesyddol hwn, cymrwch y straen oddi wrtho gan fynd ar y trên yn syth i orsaf drenau Casnewydd. O’r orsaf, mae’r tŷ yn daith fer ar fws, sy’n ei gwneud hi’n ddiwrnod allan hygyrch o Gaerdydd, Bryste, neu’n bellach, hyd yn oed.
8. Llyn Gwynant | King Arthur: Legend of the Sword (Warner Bros)
Lleoliad: Eryri, Gogledd Cymru
Er oedd y llyn heddychlon hwn yn lleoliad allweddol yn y ffilm, ‘Lara Croft: Tomb Raider – The Cradle of Life’, mae efallai’n fwyaf enwog fel cartref ysbrydol ffilm Guy Ritchie, ‘King Arthur: Legend of the Sword’. Defnyddiwyd traethlin arw’r llyn a brig y mynyddoedd o’i amgylch i greu byd hudol Camelot. Heddiw yn 2026, mae o hyd yn brif gyrchfan i’r rheini sy’n chwilio am y lleoliadau ffilm mwyaf sinematig sydd gan Gymru i’w cynnig, diolch i’w ddyfroedd clir fel crisial sy’n adlewyrchu tirwedd syfrdanol y gogledd yn berffaith.
Sut i gyrraedd: I’r rheini sy’n dymuno profi prydferthwch Llyn Gwynant, ewch ar y trên o orsaf drenau Porthmadog neu Betws-y-coed. O’r man hwnnw, mae’r gwasanaethau bws Sherpa’r Wyddfa’n rhedeg yn rheolaidd gan eich cludo chi i leoliad ger y llyn. Mae’r bws yn aml yn opsiwn haws yn lle dod i’r afael â llwybrau cul a phrysur y mynyddoedd yn y car.
9. Traeth Marloes | Snow White and the Huntsman (Universal Pictures)
Lleoliad: Sir Benfro, Gorllewin Cymru
Mae’r traeth eang hwn o hyd yn fan poblogaidd ymysg y rheini sydd wrth eu boddau â ffilmiau oherwydd ei rôl fel prif faes y frwydr yn y ffantasi epig dywyll, ‘Snow White and the Huntsman’. Gwnaeth y clogwyni dramatig, garw a’r traethau eang greu’r awyrgylch ffantasi berffaith ar gyfer ymosodiad marchoglu climactig y ffilm a serennodd, Kristen Stewart a Chris Hemsworth. Blynyddoedd yn ddiweddarach, fe’i hystyrir gan lawer yn un o’r lleoliadau ffilm mwyaf prydferth yng Nghymru diolch i’r grym naturiol, garw sydd heb ei sbwylio, ynghyd â’i arfordir dramatig.
Sut i gyrraedd: Os ydych chi’n cynllunio taith i Draeth Marloes, ewch ar y gwasanaeth bws lleol o orsaf drenau Hwlffordd. Bydd y bws yn eich cludo chi o bentref lleol Marloes ac o’r man hwnnw, ceir y traeth sy’n 45 munud ar droed lle’r gallwch fwynhau awyr iach Sir Benfro cyn cyrraedd y clogwyni.
10. Rhaeadr Henrhyd | The Dark Knight Rises (Warner Bros)
Lleoliad: Bannau Brycheiniog, De Cymru
Mae’r rhaeadr 90 troedfedd o hyd hon yn un o leoliadau ffilmio mwyaf eiconig Cymru, sy’n enwog am greu mynediad i’r ‘Batcave’ yn ffilm Christopher Nolan, The Dark Knight Rises. Hyd yn oed heddiw yn 2026, mae’n brif gyrchfan ar gyfer “set-jetters” sy’n dymuno sefyll yn yr union fan a lle gwnaeth Bruce Wayne, a grëwyd gan Christian Bale, pan ddaeth o hyd i’w guddfan gyfrinachol. Mae’r rhaeadrau ar eu mwyaf dramatig ar ôl tywydd Cymreig clasur glawog, sy’n ei gwneud hi’n fan perffaith ar gyfer heic sinematig, atmosfferig sy’n teimlo fel ei bod yn syth allan o Gotham.
Sut i gyrraedd: I gyrraedd y man diarffordd hwn, ewch ar y trên i orsaf drenau Castell-nedd. O Gastell-nedd, ewch ar wasanaeth bws lleol tuag at Goelbren; ceir arwyddion clir er mwyn cyrraedd y rhaeadrau’n hawdd ar droed o’r pentref. Mae dewis y trên a’r bws yn osgoi’r maes parcio wrth ymyl y safle sydd yn aml yn orlawn.
11. Gardd Bodnant | The Secret Garden (StudioCanal)
Lleoliad: Cwm Conwy, Gogledd Cymru
Gwnaeth yr ardd enwog hon greu’r golygfeydd prydferth, hudol ar gyfer addasiad o’r ffilm ‘The Secret Garden’ a serennodd Colin Firth yn 2020. Trawsnewidiwyd yr arch enwog, Laburnum Arch, i mewn i dwnnel o oleuni ar gyfer y ffilm, a gwnaeth llennyrch cudd yr ardd ddal awyrgylch swynol y stori yn berffaith. Gan ddod â phrydferthwch arallfydol, tragwyddol i olygfeydd, mae o hyd yn ffefryn ymhlith y rheini sy’n chwilio am leoliadau ffilmio yng Nghymru.
Sut i gyrraedd: Cynlluniwch eich ymweliad a neidiwch ar y trên i orsaf drenau Gyffordd Llandudno. O’r man hwnnw, mae’r bws rhif 25 yn stopio yn union ar y tu allan i gatiau’r ardd. Mae cyrraedd ar y trên yn ffordd ddidrafferth o fwynhau’r olygfa heb fecso am draffig Cwm Conwy.
12. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog| The Scurry (Comedy-Horror)
Lleoliad: De a Chanolbarth Cymru
Er yn enwog am eu ffilmiau clasur fel ‘Wrath of the Titans’, mae tir garw’r parc yn seren y ffilm comedi-arswyd o 2026, ‘The Scurry’. Yn serennu Rhys Ifans, defnyddiwyd rhostiroedd eang a chymoedd coediog y parc i bortreadu parc eco-gwledig lle mae natur yn dial ar y byd. Mae o hyd yn brif gyrchfan i’r rheini sy’n chwilio am leoliadau ffilmio yng Nghymru a all ddyblu fel byd ffantasi epig neu thriller modern llawn tensiwn.
Sut i gyrraedd: Mae bysiau Traws T4, T6 a T14 yn mynd â chi i galon y parc o Gaerdydd, Merthyr Tudful, neu Fannau Brycheiniog. Gallwch ddod oddi ar y bws yn Storey Arms i ddechrau eich heic yn syth, heb orfod dibynnu ar y car.
13. Rhaeadr Ewynnol| Wonder Woman 1984 (Warner Bros)
Lleoliad: Betws-y-coed, Gogledd Cymru
Daeth y rhaeadr wyllt hon, sy’n agos at Fetws-y-coed, yn enwog ar lefel fyd-eang yn ‘Wonder Woman 1984’, lle defnyddiwyd ei dyfroedd gwyn pwerus mewn golygfeydd gweithredu allweddol. Yn 2026, mae’n parhau i fod yn un o’r lleoliadau ffilmio mwyaf poblogaidd ac mae unigolion yn dod o bedwar ban byd i dynnu llun ohoni oherwydd ei grym pur a’i hygyrchedd. Mae’n rhan hawdd a llawn cyffro o unrhyw daith i ogledd Cymru, sy’n rhoi profiad Hollywood go iawn er iddo fod ond yn ychydig funudau o’r pentref.
Sut i gyrraedd: Ewch ar y trên o orsaf drenau Betws-y-coed. O’r pentref, gallwch naill ai fwynhau taith gerdded olygfaol drwy’r coetir i’r rhaeadrau neu neidio ar fws Traws T10, sy’n stopio’n uniongyrchol wrth y fynedfa.
14. Castell Penfro | Havoc (Netflix)
Lleoliad: Penfro, Gorllewin Cymru
Er i lawer ei adnabod o’r ffilm emosiynol, ‘Me Before You’, mae’r castell hwn bellach yn boblogaidd diolch i’r thriller antur o 2025, ‘Havoc’, gyda Tom Hardy. Defnyddiwyd y gaer a thref Penfro sy’n ei hamgylchynu ar gyfer sawl dilyniant dwys iawn, sy’n dangos bod hanes Cymru’n gallu dod â’r awyrgylch perffaith i ffilmiau enwog, cyfoes. Mae’n un o’r lleoliadau ffilmio mwyaf sylweddol ar lefel hanesyddol yng Nghymru ac mae ganddo olygfeydd rhyfeddol o’r aber o’i gwmpas.
Sut i gyrraedd: Ewch ar y trên yn uniongyrchol i orsaf drenau Penfro. Heb yr angen am gar na heic, mae’r castell yn daith gerdded 10 munud hawdd o’r platfform sy’n ei gwneud hi’n un o’r lleoliadau ffilm mwyaf hygyrch ar ein rhestr.
15. Porthaethwy | Dolittle (Universal Pictures)
Lleoliad: Afon Menai, Mon/Bangor
Mae’r bont grog hanesyddol hon yn boblogaidd tu hwnt yn y byd ffilmio, ac yn fwyaf nodedig, ymddangosodd yn y ffilm ‘Dolittle’ yn 2020, gyda Robert Downey Jr. Gwnaeth y pontydd moethus greu’r cefndir dramatig ar gyfer llong y meddyg wrth iddo adael ar ei daith fawr epig. Ar ddiwedd 2024, gwnaeth y bont a’r Afon Menai cyfagos ysbrydoli diweddglo dramatig y gelf waith ‘Wallace and Gromit: Vengeance Most Fowl’ gan Aardman. P’un a yw’n ail-greu Lloegr yn yr Oes Fictoraidd neu’n ysbrydoli anturiaethau wedi’u hanimeiddio, mae o hyd yn un o’r lleoliadau ffilmio mwyaf poblogaidd sydd gan Gymru i’w cynnig.
Sut i gyrraedd: Os ydych yn cynllunio ymweliad i’r lleoliad eiconig hwn, ewch ar fws Traws T2, sy’n eich cludo chi i sawl safle ym Mangor ac ar draws y bont i dref Porthaethwy. Os ydych yn cyrraedd ar drên, ewch ar drên o orsaf drenau Bangor (Gwynedd) - mae’r bont yn daith fws fer oddi yno neu’n daith gerdded hyfryd o 20 munud.
16. Parc Cenedlaethol Eryri | Macbeth (StudioCanal)
Lleoliad: Gogledd Cymru
Mae brigau garw Eryri wedi bod yn brif leoliad ffilmio ers degawdau, gan greu lleoliad amgylcheddol, atmosfferig ar gyfer addasiad Justin Kurzel yn 2015 o Macbeth. Mae mynyddoedd niwlog y parc hefyd yn enwog am fod wedi dyblu tirwedd garw Azerbaijan yn y ffilm clasur ‘James Bond, The World Is Not Enough’. Yn 2026, mae’n parhau i fod yn drysor ymysg staff sy’n chwilio am leoliadau ffilmio yng Nghymru, gyda’i gymoedd eang a chweryl hynafol yn aml yn blanedau aliwn ac yn deyrnasoedd hynafol.
Sut i gyrraedd: Mae sawl llwybr bws Traws yn pasio’n uniongyrchol drwy galon y parc gan gynnwys y T2, T3, T3C, T10, a'r T22, sy'n gwneud eich taith i'r lleoliad syfrdanol hwn yn haws fyth heb gar. Gallwch hefyd gymryd y trên i orsafoedd fel Betws-y-coed, Blaenau Ffestiniog, neu Borthmadog I ddechrau’ch heic mynydd yn syth o blatfform yr orsaf.
Dyma'r lleoliadau teledu a ffilm gorau ar draws Cymru y mae ymweld â nhw'n rhwydd. Gallwch gyrraedd llawer ohonynt mewn car neu ar droed os ydych yn byw yn yr ardal, ond mae digon o lwybrau trên y gallwch eu defnyddio hefyd i gyrraedd yno gyda Trafnidiaeth Cymru. Prynwch eich tocynnau ar-lein heddiw ac ni fyddwch yn gorfod talu unrhyw ffioedd archebu.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-