![]()
Mae dinas Caerdydd yn llawn hanes, diwylliant ac amrywiaeth. Mae’n ganolfan wych ar gyfer crwydro De Cymru. Gyda gwasanaethau trên rheolaidd, digon o lefydd i aros a chroeso cynnes lle bynnag yr ewch chi, mae’n lle da i gael seibiant gyda'r teulu, penwythnos i ffwrdd neu daith dawel i chi eich hun.
Mae’r ddinas wedi’i hamgylchynu gan gefn gwlad hardd, trefi diddorol a digon o atyniadau sy’n ddelfrydol ar gyfer teithiau undydd. Dyma rai o’n ffefrynnau, i gyd yn hawdd eu cyrraedd ar y trên. Trefnwch eich taith cyn teithio.
1. Bannau Brycheiniog
Mae Bannau Brycheiniog yn un o’r tri pharc cenedlaethol yng Nghymru, ac mae’n gwbl syfrdanol. Os ydych chi’n gerddwr neu os ydych chi wedi dod â’ch beic ar y trên, mae’r llwybrau sy’n croesi’r parc yn hawdd eu dilyn. Ar hyd y ffordd byddwch yn mynd heibio pentrefi hyfryd, sy’n berffaith ar gyfer stocio cyflenwadau a sgwrsio â’r bobl leol am eu cornel nhw o’r Bannau Brycheiniog.
Os byddai’n well gennych ymuno â grŵp, mae teithiau tywys i grwydro'r mynyddoedd. Mae hyn yn cynnwys y copa talaf, Pen y Fan (886 metr), yr ogofâu oddi tanodd, llwybrau natur a theithiau gwylio’r sêr.
Mae Bannau Brycheiniog yn adnabyddus am y tirweddau newidiol. Mae rhosydd glaswelltog, dyffrynnoedd sydd wedi’u gorchuddio â grug a chreigiau hen dywodfaen coch y mae’r tywydd wedi’u gwisgo yn eistedd ochr yn ochr â mawnogydd llawn maeth sy’n chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mae llawer o’r planhigion a’r anifeiliaid sydd yma mewn perygl ac anaml y’u ceir mewn mannau eraill. Mae tormeini yn glynu wrth wynebau garw’r creigiau, ac mae’r barcud coch yn hedfan uwchben. Yn y cyfnos, cadwch lygad am ystlumod pedol yn plymio am wyfynod. Mae merlod gwyllt y Mynydd Cymreig yn pori ar draws llethrau’r bryniau ac mae ceirw coch yn ymgasglu’n dawel yn y dyffrynnoedd.
Sut i gyrraedd yno: Yr orsaf agosaf at ran ogleddol a chanol y parc yw gorsaf Merthyr Tudful, gyda threnau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog yn cymryd tua 50 munud. Ar gyfer y rhan ddwyreiniol ger Crucywel, gorsaf y Fenni yw eich dewis gorau, tua 45 munud o Gaerdydd.
2. Profi Caerffili
Dim ond saith milltir o Gaerdydd, mae gan Gaerffili hanes hir haenog. Dechreuodd y dref fel cadarnle Rhufeinig yn 75 OC. Mae llawer o greiriau o’r cyfnod hwnnw i’w gweld yn yr amgueddfa leol.
Castell Caerffili yw’r prif atyniad i’r rhan fwyaf o ymwelwyr, un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i dwristiaid yng Nghymru. Y gaer hon o’r 13eg ganrif yw’r castell mwyaf yng Nghymru a’r ail gastell fwyaf ym Mhrydain ar ôl Castell Windsor. Mae’r tyrau a’r waliau enfawr yn dal i sefyll, yn ogystal â’r llynnoedd amddiffynnol enfawr a oedd unwaith yn gwarchod y safle, sy’n ymestyn dros fwy na 30 erw.
Mae Caerffili yn gartref i sawl parc, gan gynnwys Gerddi hardd Caerffili. Os ydych chi’n chwilio am rywle i grwydro, mae cymysgedd da o siopau bwtîc annibynnol ochr yn ochr â siopau'r stryd fawr. Mae’r dref yn enwog mewn sawl ffordd, gan gynnwys bod yn fan geni’r digrifwr Tommy Cooper ac mae wedi ymddangos yn y ddrama Doctor Who gan y BBC fwy nag unwaith.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Caerffili yn cael ei gwasanaethu’n uniongyrchol o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines ar reilffordd Rhymni, gyda’r daith yn cymryd tua 20 munud.
3. Crwydro Dyffryn Gwy
Mae Dyffryn Gwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae’n cynnwys ardaloedd Sir Fynwy, Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw. Mae Afon Gwy yn llifo drwyddi - y bumed afon hiraf yn y DU. Mae’r rhanbarth yn denu dros 2.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn oherwydd ei lwybrau, ei fywyd gwyllt a’i olygfeydd.
Mae sawl rhan o’r dyffryn wedi’u dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n cynnal amrywiaeth eithriadol o gyfoethog o fflora a ffawna. Mae ystlumod pedol lleiaf, hebogiaid tramor, troellwyr mawr a gweilch Marthin i gyd i’w gweld yma. Mae’r afon yn gartref i wangod a herlod, dau fath o bysgod dŵr croyw prin. Mae cerddin gwynion, nad ydynt yn cael eu gweld yn aml mewn mannau eraill, hefyd yn tyfu ledled y dyffryn.
Sut i gyrraedd yno: Er bod trefi Trefynwy, Henffordd a Chas-gwent ychydig y tu allan i ffin yr AHNE, mae Rhosan ar Wy oddi mewn iddi ac mae’n werth ymweld â’r dref. Yr orsaf agosaf yw Cas-gwent, sydd tua 40 munud o Gaerdydd Canolog.
4. Trip glan y môr i Ynys y Barri
Mae Ynys y Barri yn un o hoff gyrchfannau glan môr Cymru, dim ond taith fer ar y trên o Gaerdydd. Bae Whitmore yw seren y sioe - traeth tywod llydan gyda phromenâd yn gefn iddo, sy’n berffaith ar gyfer diwrnod clasurol Prydeinig ar y traeth beth bynnag fo’r tymor. Mae Parc Pleser eiconig Ynys y Barri yn eistedd ochr yn ochr â'r traeth, gyda reidiau ac atyniadau sydd wedi denu teuluoedd yma ers cenedlaethau.
Oddi wrth y traeth, mae’n werth archwilio tref y Barri ei hun. Mae’n braf crwydro i weld y dreftadaeth Fictoraidd ar hyd glan y môr a’r golygfeydd ar draws Môr Hafren. Mae’n hawdd treulio diwrnod cyfan yma heb sylwi.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Ynys y Barri ar lan y môr, gyda threnau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog yn cymryd tua 35 munud.
5. Ymweld â Phenarth
Penarth yw un o drefi bach mwyaf cain de Cymru, tref glan môr Fictoraidd sydd wedi heneiddio’n hyfryd. Y pier yw canolbwynt y dref, sy’n ymestyn allan i Fôr Hafren o bafiliwn Art Deco golygus. Mae’n un o lond llaw o bierau traddodiadol sydd ar ôl yng Nghymru.
Mae’r rhodfa’n rhedeg ar hyd y clogwyn uwchben y traeth, gyda thai tref Fictoraidd mawreddog a golygfeydd eang ar draws y dŵr i Wlad yr Haf a Dyfnaint ar ddiwrnod clir. Mae Oriel Turner House yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae’n werth ymweld â’r oriel os oes gennych chi ddiddordeb mewn celf. O ran bwyd, mae gan y dref gaffis a bwytai annibynnol cryf ar hyd y brif stryd siopa.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Penarth tua 15 munud o orsaf Caerdydd Canolog, gyda gwasanaethau rheolaidd drwy gydol y dydd.
6. Darganfod Casnewydd
Mae gan Gasnewydd gymysgedd gyfoethog o hanes a diwylliant. Mae Castell Casnewydd yn sefyll reit ar lan Afon Wysg yng nghanol y ddinas, adfail canoloesol trawiadol sy’n rhad ac am ddim i ymweld ag ef. Mae’r Bont Gludo, un o ddim ond chwe phont gludo sydd wedi goroesi yn y byd, yn rhyfeddod peirianyddol gwirioneddol ac mae’n werth ei gweld yn agos.
Tref Rufeinig Caerllion, sydd dim ond dwy filltir o ganol y ddinas, yw un o’r safleoedd Rhufeinig mwyaf arwyddocaol ym Mhrydain. Mae’r amffitheatr filwrol a’r baddonau Rhufeinig mewn cyflwr eithriadol o dda ac mae amgueddfa’r safle’n dod â hanes yn fyw. Gallwch ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig am ddim.
Casnewydd hefyd yw’r man cychwyn ar gyfer teithiau cerdded ar hyd Dyffryn Wysg ac i gefn gwlad bryniog Sir Fynwy.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Casnewydd tua 15 munud o Gaerdydd Canolog, gyda gwasanaethau bob deng munud.
7. Treuliwch ddiwrnod yn Abertawe
Mae ymweld ag ail ddinas Cymru yn daith diwrnod ardderchog o Gaerdydd. Mae gan Abertawe egni beiddgar a chreadigol, glannau hardd ac ymdeimlad cryf o’i hunaniaeth ei hun.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy’n rhad ac am ddim, yn adrodd stori Chwyldro Diwydiannol Cymru drwy gasgliad trawiadol o beiriannau, arteffactau ac arddangosfeydd rhyngweithiol. Mae Canolfan Dylan Thomas yn dathlu bywyd a gwaith mab enwocaf y ddinas. Marchnad dan do Abertawe - y fwyaf yng Nghymru - yw’r lle gorau i brynu Cacennau Cri, cawl a chynnyrch lleol.
Abertawe yw’r porth i Benrhyn Gŵyr, y lle cyntaf yn y DU i gael ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae Bae Rhosili, ym mhen pellaf y gorllewin, yn aml ar frig rhestrau o’r traethau gorau ym Mhrydain. Mae gwasanaethau bws lleol yn cysylltu canol dinas Abertawe â Phenrhyn Gŵyr.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Abertawe tuag awr o orsaf Caerdydd Canolog, gyda gwasanaethau uniongyrchol rheolaidd.
8. Crwydro Cas-gwent ac Abaty Tyndyrn
Ym mhen deheuol Dyffryn Gwy, mae Cas-gwent yn dref farchnad fach a adeiladwyd o amgylch un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Mae Castell Cas-gwent yn un o amddiffynfeydd cerrig ôl-Rufeinig hynaf Prydain, sy’n dyddio’n ôl i 1067. Mae’n gorwedd yn ddramatig uwchben tro yn Afon Gwy. Codir tâl mynediad ond mae’n werth pob ceiniog am y golygfeydd yn unig.
O Gas-gwent, mae Abaty Tyndyrn tua phedair milltir i’r gogledd ar hyd y dyffryn - mae modd ei gyrraedd mewn tacsi neu ar droed ar hyd Llwybr Dyffryn Gwy. Mae’r Abaty Sistersaidd adfeiliedig, sydd wedi’i leoli mewn ceunant coediog wrth ymyl yr afon, yn un o adfeilion canoloesol mwyaf prydferth Cymru. Mae wedi ysbrydoli artistiaid a beirdd ers canrifoedd.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Cas-gwent tua 40 munud o Gaerdydd Canolog.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-