Mae Cymru yn wlad sydd â phopeth. Prydferthwch gwyllt a garw, tirweddau trawiadol, traethau godidog a phobl leol gynnes a chyfeillgar. Hefyd, mae gennym ddiwylliant a threftadaeth unigryw, sy'n ein gwneud ni'n wahanol i wledydd eraill yn y DU. Cymerwch ein hiaith, mae'n un o'r hynaf yn y byd!

Mae Cymru hefyd yn enwog am ein cestyll trawiadol. Dywedwyd bod un castell bob 12 milltir sgwâr yn yr oesoedd canol, gan wneud Cymru y wlad fwyaf cyfeillgar i gestyll.

Wrth gynllunio gwyliau yn y DU, dylai Cymru fod yn un o’r prif ddewisiadau ar eich rhestr o gyrchfannau. O fewn cyrraedd hawdd ar y trên, mae’n wlad sy’n werth ei harchwilio, felly darllenwch ymlaen i weld ein deg lle gorau i ymweld â nhw yng Nghymru.

 

Pam ymweld â Chymru?

Nid dim ond y tirweddau delfrydol, y diwylliant a'r hanes sy'n gwneud Cymru yn gyrchfan boblogaidd, er eu bod nhw'n helpu. P'un a ydych chi'n chwilio am antur gyda’r teulu, gwyliau cerdded ar eich pen eich hun neu le i fynd i’r dref gyda'ch ffrindiau, mae Cymru'n berffaith.

Mae'n cyfuno'r dirwedd wledig ac arfordirol â rhai trefi a dinasoedd rhagorol fel Caerdydd ac Abertawe. Ond mae digon o drefi a phentrefi delfrydol hefyd, lle gallwch gael cipolwg ar ffordd o fyw dawelach.

Yn fwy na hynny, mae yna rai lleoedd gwych i fwynhau ychydig o fwyd a diod, o'r tafarndai a'r caffis lleol unigryw i fwytai o'r radd flaenaf sydd â seren Michelin.

Felly pam na wnewch chi archebu eich taith i Gymru heddiw a dod i weld gyda'ch llygaid eich hun?

 

Ein 10 lle gorau i ymweld â nhw yng Nghymru

Darganfyddwch y lleoedd gorau i ymweld â nhw yng Nghymru yn ôl Trafnidiaeth Cymru i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich antur Gymreig.

 

Yr Wyddfa

1. Parc Cenedlaethol Eryri

Gan gwmpasu ardal o tua 825 milltir sgwâr yng nghornel gogledd-orllewin Cymru mae Parc Cenedlaethol Eryri. Yn hawdd ei gyrraedd ar y trên o Fangor neu Fetws-y-Coed, dyma'r cyntaf - a'r mwyaf trawiadol o bosibl - o'r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Mae tua 10 miliwn o bobl yn ymweld ag ef bob blwyddyn.

Dychwelodd Eryri, a elwid gynt yn Snowdonia yn y Saesneg, i'w enw Cymraeg traddodiadol yn swyddogol yn 2024.

Yn y parc mae sawl pentref bach, gan gynnwys Beddgelert a Betws-y-Coed hardd. Mae pob un yn cynnig dewis o westai a thai llety cynnes a chroesawgar sy'n eu gwneud yn ganolbwyntiau perffaith ar gyfer archwilio harddwch gwyllt Eryri.

Y peth cyntaf i'w sylwi am y Parc Cenedlaethol hwn yw'r mynyddoedd, gyda dros hanner ohonynt yn mesur mwy na 300 metr. Mae'r Wyddfa ei hun yn 1,085 metr trawiadol a dyma’r mynydd talaf yng Nghymru.

Mae dŵr yn nodwedd bwysig o'r parc ac mae dros 700 km o afonydd yn llifo i lawr y mynyddoedd a thrwy'r dyffrynnoedd. Llyn Tegid ger pentref y Bala yw'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru.

Drwy gydol y flwyddyn, mae cerddwyr yn cyrraedd i herio eu hunain gyda llethrau serth a dringfeydd anodd Yr Wyddfa. I'r rhai sy'n fwy brwdfrydig i werthfawrogi’r olygfa ar y diwedd, mae Rheilffordd Mynydd Yr Wyddfa yn mynd â chi ar ddringfa hamddenol i'r copa.

 

Caernarfon Castle

2. Castell Caernarfon

  • Lleoliad: Caernarfon
  • Gorsaf agosaf: Bangor
  • Uchafbwynt: Yr olygfa o’r castell

Mae Castell Caernarfon, sy'n hawdd ei gyrraedd o orsaf Bangor, yn un o'r cyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd yng Nghymru. 

Yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, dechreuwyd adeiladu'r castell mwnt a beili trawiadol yn yr 11eg ganrif, yna ar ddiwedd y 1200, fe wnaeth Edward I o Loegr ddisodli'r hen strwythur gyda'r adeilad carreg trawiadol.

Bwriadwyd i'r castell fod yn gaer a phalas i frenin Lloegr, gan wasanaethu felly am flynyddoedd lawer. Gan chwarae rhan arwyddocaol yn hanes Cymru, fe'i defnyddiwyd fel carchar yn ystod Rhyfeloedd Annibyniaeth a Rhyfel Cartref Lloegr. Dyma hefyd fan geni Edward II o Loegr.

Er bod ei ddyluniad wedi'i bennu gan gyflwr y tir, roedd ei dyrau a'i thyredau yn symbol dramatig o reolaeth Lloegr ac mae llawer ohonynt yn dal i fodoli, gan wneud hwn yn lle hanfodol i'w weld ar eich taith i Gymru.

 

Cardiff Castle

3. Caerdydd

  • Lleoliad: Bro Morgannwg
  • Gorsaf agosaf: Caerdydd Canolog
  • Uchafbwynt: Amgueddfa Hanes Genedlaethol

Caerdydd, prifddinas Cymru a'n dinas fwyaf. Mae'n fywiog ac yn amlddiwylliannol ac mae digonedd o bethau i'w gweld a'u gwneud yno. Yn hawdd ei gyrraedd ar drên neu fws, mae gan Gaerdydd sawl un o brif atyniadau Cymru.

Os soniwch chi am Gaerdydd wrth unrhyw un, mae'r rhan fwyaf o'ch meddyliau'n troi at Gastell Caerdydd gogoneddus. Yn sefyll yng nghanol y ddinas, ychwanegwyd at ei adeiladwaith mwnt a beili o'r 11eg ganrif yng nghanol y 1800au gan John, 3ydd Ardalydd Bute. Gan gyflogi'r pensaer William Burges, dechreuodd ailadeiladu'r castell yn arddull yr Adfywiad Gothig yn drawsnewidiol.

Mae wedi'i addurno'n gyfoethog gydag ystafelloedd unigryw fel yr Ystafell Arabaidd â thema Mwraidd. Mae neuadd wledda deulawr ac mae Gardd y To hardd, gyda cherfiadau cymhleth a phaentiadau moethus, ar agor i'r cyhoedd, fel y mae'r gerddi tirlunio cyfagos.

Mae Bae Caerdydd yn un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd yn y ddinas. Mae ganddo awyrgylch cosmopolitaidd gyda dewis o leoedd i gael tamaid i'w fwyta a siopau bwtîc. Dyma'r lle perffaith i stopio a gwylio'r byd yn mynd heibio.

Ychydig y tu allan i Gaerdydd, fe welwch Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Wedi'i lleoli ym mhentref bach Sain Ffagan, mae'r amgueddfa awyr agored yn gartref i lu o adeiladau ac arteffactau o bob cwr o Gymru. Mae'r adeiladau'n cynnwys ffermydd, neuadd tywysog ganoloesol ac ysgol Fictoraidd. Nid yn unig y mae mynediad am ddim, ond mae'r amgueddfa'n croesawu cŵn hefyd.

Gydag orielau, theatrau a phopeth y byddech chi'n ei ddisgwyl mewn prifddinas mor ddiwylliannol a hanesyddol, dylai Caerdydd fod ar eich rhestr o leoedd i ymweld â nhw.

 

Brecon

4. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Lleoliad: Aberhonddu
  • Gorsaf agosaf: Y Fenni
  • Uchafbwynt: Syllu ar y sêr yn y nos

Dewch oddi ar y trên yng ngorsaf reilffordd y Fenni ac rydych chi ar garreg drws un o drysorau naturiol Cymru - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gyda'r copa talaf yn Ne Cymru - Pen y Fan - a'r Copaon Duon, enwir Bannau Brycheiniog ar ôl y weithred o oleuo goleuadau rhybuddio ar draws y bryniau pan oedd goresgynwyr yn bygwth.

Gyda phlanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl, corsydd mawn sy'n hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a thirweddau dramatig, mae digonedd yn digwydd yn y Parc Cenedlaethol hwn bob dydd.

Bydd teithiau o system ogofâu’r parc, anturiaethau syllu ar y sêr a dringfeydd tywys i fyny’r mynyddoedd talaf yn annog hyd yn oed cerddwyr dibrofiad i fynd allan ac archwilio.

 

Hay-on-Wye

5. Y Gelli Gandryll

  • Lleoliad: Powys
  • Gorsaf agosaf: Henffordd
  • Uchafbwynt: Y siopau llyfrau

Ar bwynt gogledd-ddwyreiniol Bannau Brycheiniog, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae tref farchnad ogoneddus Y Gelli Gandryll. Fe'i gelwir yn Y Gelli ac mae'n hafan i’r rheini sy’n dwlu ar lyfrau ym mhobman gan ei bod yn gartref i dros ugain o siopau llyfrau.

Dros ddeng niwrnod ddiwedd mis Mai, mae mwy na 80,000 o ymwelwyr yn mwynhau Gŵyl flynyddol y Gelli. Mae'r Gelli hefyd yn cynnal yr ŵyl gerddoriaeth ac athroniaeth HowTheLightGetsIn ym mis Mai ac mae hon yn gweld wynebau enwog yn rhoi darlithiau'n rheolaidd, gan gynnwys Philip Pullman, Sara Pascoe a Noam Chomsky.

Gyda bron i 150 o adeiladau rhestredig, gwestai moethus a bwytai sy'n gweini bwydlenni cordon bleu, mae'r dref hyfryd hon yn werth ymweld â hi.

 

Aberystwyth

6. Aberystwyth

  • Lleoliad: Ceredigion
  • Gorsaf agosaf: Aberystwyth
  • Uchafbwynt: Y pier

Wedi'i leoli ar arfordir gorllewinol Cymru mae tref glan môr boblogaidd Aberystwyth. Mae'r promenâd ysgubol yn denu twristiaid yn ystod yr haf ac yn ymestyn o'r harbwr yn y de i uchder dramatig Craig Glais.

Mae'r promenâd wedi'i ddominyddu gan y pier trawiadol, yn ymestyn dros donnau'r bae. Ei hyd gwreiddiol oedd 242 metr, ond oherwydd y stormydd gwyllt sydd wedi taro'r arfordir golygfaol, mae wedi'i leihau.

Castell Aberystwyth, gyda'i waliau wedi'u britho â fflint, oedd un o gestyll mwyaf Cymru. Nawr, mae ei adfeilion wedi'u gwasgaru ledled y dref diolch i ddirmyg Oliver Cromwell o adeiladau pwysig yng nghanol y 1600au.

Boed yn wyliau ymlaciol wrth y môr neu'n gyfle i fwynhau'r atyniadau, mae gan Aberystwyth rywbeth at ddant pawb.

 

Aberaeron

7. Aberaeron

  • Lleoliad: Ceredigion
  • Gorsaf agosaf: Aberystwyth
  • Uchafbwynt: Crwydro o gwmpas yr harbwr

Ychydig ar hyd yr arfordir o Aberystwyth mae tref hardd Aberaeron. Yn anarferol, gweledigaeth un dyn oedd y dref - y Parch. Alban Thomas Jones Gwynne, a ddechreuodd y cynlluniau ym 1805.

Gan ddechrau gyda harbwr, tai i'r gweithwyr ac ysgol, fe ymffurfiodd y dref. Gwelodd Gwynne grefftau fel rhan annatod o fywyd yn Aberaeron. Fe wnaeth gynnwys gwneuthurwr esgidiau, gof, pobydd a gwneuthurwr hetiau yn ei ddyluniadau.

Gan ffinio â'r harbwr, mae gan bensaernïaeth o gyfnod y Rhaglywiaeth yr adeiladau geinder clasurol sy'n anarferol yng Nghymru. Mae eu ffasadau sydd wedi'u peintio'n llachar yn gwneud y dref hardd hon yn lle hyfryd i ymweld ag ef.

 

Tenby

8. Dinbych-y-pysgod

  • Lleoliad: Sir Benfro
  • Gorsaf agosaf: Dinbych-y-pysgod
  • Uchafbwynt: Mwynhewch ychydig o bysgota

Mae Dinbych-y-pysgod wedi bod yn un o drefi glan môr mwyaf poblogaidd Cymru ers dechrau'r 1800au. Mae'n cynnwys harbwr hardd lle gallwch chi fynd allan i'r môr ar drip pysgota macrell.

Mae yna hefyd yr opsiwn o ymweld ag Ynys Bŷr. Mae'n fan tawel sy'n eiddo i ac yn cael ei redeg gan gymuned o fynachod Sistersaidd, sy’n daith 20 munud i ffwrdd mewn cwch.

Gyda dau draeth euraidd ysgubol (gan gynnwys Traeth y Castell - traeth gorau'r DU yn ôl y Sunday Times), tai lliw pastel tlws a llawer o siopau bach annibynnol, nid yw'n syndod bod ymwelwyr yn dal i heidio i Ddinbych-y-pysgod.

 

St. David’s Cathedral

9. Eglwys Gadeiriol Tyddewi

  • Lleoliad: Sir Benfro
  • Gorsaf agosaf: Dinbych-y-pysgod
  • Uchafbwynt: Yr eglwys gadeiriol hanesyddol

Tyddewi, ar arfordir Sir Benfro yng Nghymru, yw dinas leiaf y DU a man gorffwys nawddsant Cymru. Wedi derbyn statws dinas yn y 1100au, mae'r gadeirlan helaeth, sydd wedi'i chadw'n drawiadol, yn cysgodi'r anheddiad bach.

Wedi'i sefydlu ym 589, tyfodd y gymuned fynachaidd a pharhaodd i oroesi er gwaethaf llawer o ymosodiadau dros y blynyddoedd. Ym 1115, dechreuodd yr Esgob Bernard weithio ar gadeirlan newydd. Ar ôl i'r Pab Calixtus II roi braint pabaidd i’r safle, daeth yn ganolfan pererindod i'r byd gorllewinol, gan fod angen eglwys gadeiriol fwyfwy trawiadol.

Arfordir Sir Benfro yw trydydd Parc Cenedlaethol mwyaf Cymru. Mae'r dirwedd glan môr syfrdanol hon yn cynnwys clogwyni garw, traethau diarffordd a rhaeadrau mewndirol sy'n arwain at afonydd coediog. Gyda fflora a ffawna prin, dylai'r wlad ryfeddod ecolegol hon fod ar frig rhestr pawb o bethau i’w gwneud.

 

Conwy Castle

10. Conwy

  • Lleoliad: Gogledd Cymru
  • Gorsaf agosaf: Conwy
  • Uchafbwynt: Y castell trawiadol

Mae tref Conwy yng Ngogledd Cymru yn boblogaidd gyda thwristiaid sy'n heidio i'r dref i weld Castell godidog Conwy. Yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, mae'r sefydliad yn ei ystyried yn un o'r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi yn Ewrop o bensaernïaeth y 13eg/14eg ganrif.

Yn sefyll uwchben Conwy, mae muriau amddiffynnol y castell yn amgylchynu'r dref. Gan ddefnyddio'r grisiau troellog yn y tyrau, mae ymwelwyr yn gallu cerdded cylch cyfan o amgylch y muriau - bron i 1.5 km.

Gellir gweld mynydd mawr Yr Wyddfa yn y pellter, gyda strydoedd canoloesol Conwy a'r harbwr ymhell islaw.

Yn croesi'r afon ger y castell mae pont grog Thomas Telford. Wedi'i chwblhau ym 1826, mae ei hadeiladwaith yn adleisio dyluniad tyredau'r castell, gan greu golygfa drawiadol. Bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dim ond cerddwyr sy'n cael croesi'r bont.