Mae'r prosiect Metro yn gwneud teithio'n fwy cynaliadwy ar draws De Cymru

Ers mis Awst 2020, rydym wedi gwneud gwaith peirianneg a seilwaith mawr i uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd fel y gallwn roi trenau newydd sbon ar waith ar rwydwaith De Cymru.

Bydd y buddsoddiad hwn mewn trenau cyflymach, gwyrddach yn gwneud ein gwasanaethau'n fwy effeithlon a chynaliadwy.

Class 231 interior
Class 231 interior
Class 231 interior
Class 231 interior

 

Beth mae prosiect Metro De Cymru wedi'i gyflawni hyd yn hyn?

Trenau

  • Cyflwynwyd trenau newydd sbon ar rai rhannau o rwydwaith De Cymru i wneud teithio ar drên yn fwy cyfforddus a chyfleus.
  • Fe wnaethon ni drydaneiddio llawer o lwybrau yn Ne Cymru, gan gyflwyno’r trenau trydan cyntaf ym mis Tachwedd 2024.
  • Gwell hygyrchedd trwy osod lifftiau, pontydd mynediad i bawb a phlatfformau gwastad i'w gwneud hi'n haws i fynd ar y trên a dod oddi arno.
  • Mannau parcio beiciau i wneud beicio i ddal eich trên yn symlach ac yn fwy deniadol.
  • Wedi gosod mwy o sgriniau gwybodaeth i deithwyr i wneud dod o hyd i amseroedd trenau a gwybodaeth yn haws.
  • Ddiwedd 2025, fe wnaethon ni ago rein depo newydd sbon yn Ffynnon Taf sydd bellach yn gartref i 36 trên tram a thros 400 o staff.

 

Bysiau

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth leol yng Nghymru a gweithredwyr chwmnïau bysiau preifat i ddarparu rhwydwaith cydlynol o lwybrau ar draws De Cymru.

Rydym am i fwy o bobl deithio ar fws ac am i deithio ar fws fod yn opsiwn deniadol.

Bydd ein cynllun ar gyfer tocynnau integredig yn gwneud teithio yng Nghymru yn ddi-dor ac yn llai cymhleth.

 

Teithio llesol

Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sylweddol y mae awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wneud cerdded a beicio yn ôl ac ymlaen i'n canolfannau trafnidiaeth allweddol yn haws.

Bydd llwybrau a chyfleusterau cerdded a beicio mwy diogel a deniadol yn gwneud teithio o amgylch ein trefi, ein dinasoedd a'n pentrefi yn brofiad brafiach i bawb.

Rydym yn gweithio i wella ein gorsafoedd rheilffordd fel ei bod yn haws eu cyrraedd ar droed neu ar feic.

 

Trafnidiaeth integredig

Byddwn yn parhau i wella'r broses o integreiddio trenau, bysiau a theithio llesol i wella cysylltiadau a gwneud eich teithio'n haws.

Bydd gwelliannau'n cynnwys mannau gwell i barcio beiciau mewn gorsafoedd trenau a bysiau, trafnidiaeth gyhoeddus sy'n ymateb i'r galw, a thocynnau integredig y gellir eu defnyddio ar draws gwasanaethau bws a thrên.

Pa welliannau allwch chi eu disgwyl?

Byddwn yn cynnal mwy o wasanaethau yn ystod yr wythnos a dydd Sul nag erioed o'r blaen:

Dyddiau'r wythnos

  • Pedwar trên yr awr rhwng Caerdydd a Blaen pob Cwm (Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert), gyda threnau yn rhedeg pob 15 munud.
  • Bydd dau o'r pedwar gwasanaeth o Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn teithio ymlaen o Gaerdydd i Fae Caerdydd.
  • Cynyddu gwasanaethau rhwng Pontypridd a Chaerdydd i 12 trên yr awr.
  • Chwe thrên yr awr rhwng Caerffili a Chaerdydd, trên bob 10 munud.
  • Mwy o wasanaethau yn rhedeg fin nos.

 

Dydd Sul

  • Dau drên yr awr yn rhedeg ar ddydd Sul rhwng Caerdydd a Blaen pob Cwm (Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert).
  • Ym mis Mehefin 2024, fe wnaethon ni gyflwyno’r gwasanaeth ar y Sul cyntaf erioed ar Lein y Ddinas, ac yna ar lein Coryton yn 2025.
  • Y gwasanaeth Sul cyntaf erioed ar lein Maesteg, gyda threnau yn rhedeg bob dwy awr, ac yn cynyddu i wasanaeth pob awr yn fuan.

 

Prosiectau allweddol

 

Cynllunio

 

A fydd y gwaith ar y Metro yn amharu ar fy nhaith?

Darganfyddwch fwy am y gwaith rydyn ni'n ei wneud i adeiladu'r Metro.

 

Sut beth fydd y Metro?

Edrychwch ar rai o'r newidiadau cyffrous a ddaw yn sgil y Metro.