• Beth mae’r Metro yn ei olygu i chi
    • Rheilffyrdd

      Rydyn ni’n gwella ein seilwaith rheilffyrdd. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithio ar y rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert, sef Llinellau Craidd y Cymoedd.

      Rydyn ni'n buddsoddi mewn trenau cyflymach a gwyrddach ar gyfer Metro De Cymru a gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau.  Rydyn ni hefyd yn brysur y tu ôl i'r llenni yn adeiladu trenau newydd a mwy cyfforddus i ddarparu gwasanaeth Metro modern ac effeithiol lle gallwch chi gyrraedd a mynd.

       

      Bysiau

      Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol yng Nghymru a gweithredwyr bysiau preifat i ddarparu rhwydwaith cydlynol o lwybrau aml-ddull ar draws De Cymru.

      Rydyn ni eisiau i fwy o bobl deithio ar fysiau ac i deithio ar fws fod yn ddewis deniadol.  Rydyn ni hefyd yn cynllunio tocynnau integredig i wneud teithio yng Nghymru yn ddi-dor ac yn llai cymhleth.

       

      Teithio llesol

      Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sylweddol a gyflawnwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf i’w gwneud yn haws cerdded a beicio yn ôl ac ymlaen o’n prif ganolfannau trafnidiaeth.

      Bydd llwybrau a chyfleusterau cerdded a beicio mwy diogel a mwy deniadol yn ei gwneud yn haws teithio o amgylch ein trefi, ein dinasoedd a’n pentrefi.  I ddechrau, byddwn yn gwella ein gorsafoedd rheilffyrdd er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio yno ac oddi yno.

       

      Trafnidiaeth integredig

      Byddwn yn parhau i wella’r gwaith o integreiddio bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol er mwyn gwella cysylltiadau a gwneud teithio’n haws. Bydd y gwelliannau yn cynnwys gwell cyfleusterau parcio beiciau mewn gorsafoedd trenau a bysiau, trafnidiaeth gyhoeddus ar alw, a thocynnau integredig y gellir eu defnyddio ar draws gwasanaethau bysiau a threnau.

  • Pa welliannau allwch chi ddisgwyl eu gweld?
    • Byddwn ni'n rhedeg mwy o wasanaethau yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sul nag erioed o'r blaen:

       

      Ar ddyddiau’r wythnos

      • pedwar gwasanaeth yr awr rhwng Caerdydd a phob un o Flaenau'r Cymoedd
      • dau o'r pedwar gwasanaeth o Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn mynd ymlaen o Gaerdydd i Fae Caerdydd
      • dau wasanaeth yr awr rhwng Caerdydd ac Amwythig drwy'r Fenni
      • gwasanaeth bob awr rhwng Caerdydd a Cheltenham drwy Gas-gwent.

       

      Dydd Sul

      • dau wasanaeth bob awr ar ddydd Sul rhwng Caerdydd a phob un o flaenau'r Cymoedd
      • o fis Mehefin 2024, bydd gwasanaeth dydd Sul yn dechrau ar Lein y Ddinas am y tro cyntaf. Dilynir hyn gyda lein Coryton yn 2025.
      • y gwasanaeth cyntaf erioed ar ddydd Sul ar reilffordd Maesteg, a chyflwyno un gwasanaeth bob dwy awr, gan gynyddu i wasanaeth bob awr
      • gwasanaeth ychwanegol bob awr rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr drwy Reilffordd Bro Morgannwg 
      • gwasanaeth bob awr rhwng Caerdydd a Cheltenham drwy Gas-gwent.

       

 

Rhaglenni Metro allweddol

Yn sgil Metro De Cymru, bydd pum rhaglen bwysig yn cael eu cyflwyno sydd ar gamau amrywiol o ran dichonoldeb, cynllunio a chyflawni.

Cam cynllunio a chyflawni

 

Cam dichonoldeb

 

A fydd adeiladu'r Metro yn amharu ar fy siwrnai?

Dysgu mwy am rywfaint o'r gwaith rydym yn ei wneud i adeiladu'r Metro.

 

Sut olwg fydd ar y Metro?

Cymerwch gip ar rai o'r newidiadau cyffrous a ddaw yn sgil y Metro.