Mehefin 2024 - Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau i’r amserlen

Teithiau enghreifftiol

  • Aberdâr i Caerdydd Canolog
    • O 2 Mehefin, bydd teithio o Aberdâr i Caerdydd Canolog yn cymryd tua 64 munud, yr un faint o amser ag y mae ar hyn o bryd.

  • Aberdâr i Llandaf, Cathays neu Heol y Frenhines Caerdydd
    • Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau Aberdâr yn teithio i Caerdydd Canolog trwy Radyr, Llandaf, Cathays a Heol y Frenhines Caerdydd.

      O 02 Mehefin 2024, bydd y trên yn teithio i Caerdydd Canolog ar hyd Lein y Ddinas, gan alw yn y gorsafoedd canlynol: Radyr, Danescourt, Y Tyllgoed, Parc Waun-Gron a Pharc Ninian.

      Yna bydd y trên yn teithio o Caerdydd Canolog i Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays a Llandaf ac yn parhau i Ferthyr Tudful.

      I'r teithwyr hynny sy'n teithio i Llandaf, Cathays neu Heol y Frenhines Caerdydd, mae dau opsiwn ar gael:

      1. Aros ar y trên ar ôl Caerdydd Canolog, gan y bydd yn parhau i Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays, a Llandaf.
      2. Newid yng ngorsaf Pontypridd ar gyfer y gwasanaeth sy'n teithio i Gaerdydd a fydd yn cyrraedd tua 5 munud yn ddiweddarach. Mae'r gwasanaeth hwn yn dechrau ym Mhontypridd a bydd yn teithio i Gaerdydd trwy Llandaf, Cathays, Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.

      Dyma’r amseroedd teithio ar gyfer y ddau opsiwn:

       

      Amseroedd teithio o fis Mehefin 2024

        Llandaf Cathays Heol y Frenhines
      Caerdydd 
      Aberdâr i Gaerdydd os ydych chi'n aros ar y trên ac yn teithio ar hyd Lein y Ddinas. 77 mun 72 mun 68 mun
      Aberdâr i Gaerdydd os yn newid ym Mhontypridd. 50 mun 54 mun 59 mun
  • Lein Coryton i Lein y Ddinas
    • Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau lein Coryton yn teithio i Heol y Frenhines Caerdydd a Caerdydd Canolog, ac yna'n parhau i deithio ar hyd lein y Ddinas i Radyr.

      O 02 Mehefin, bydd gwasanaethau lein Coryton yn teithio i Heol y Frenhines Caerdydd a Caerdydd Canolog, fodd bynnag, byddant yn parhau i deithio i Benarth ac ni fyddant yn teithio ymlaen ar Lein y Ddinas.

      Bydd gorsafoedd Lein y Ddinas yn cael eu gwasanaethu gan drenau Lein Aberdâr a fydd yn teithio yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd ar hyd Lein y Ddinas.

      Cynghorir y rhai sydd angen teithio rhwng llinellau Coryton a Lein y Ddinas i newid yn Heol y Frenhines Caerdydd neu Caerdydd Canolog.

      Dyma'r amseroedd teithio rhwng llinellau Coryton a Lein y Ddinas:  

      Coryton i Radyr ar hyd Lein y Ddinas:

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio ar ôl Mehefin 2024
      Coryton i Caerdydd Canolog 20 mun 16 mun
      Aros yn Caerdydd Canolog 0 mun 10 mun
      Caerdydd Canolog i Radyr ar Lein y Ddinas  19 mun 21 mun
      Cyfanswm amser teithio  39 munud 47 munud

      Radyr i Coryton ar hyd Lein y ddinas: 

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio ar ôl Mehefin 2024
      Radyr i Caerdydd Canolog ar hyd Lein y Ddinas  18 mun 20 mun
      Caerdydd Canolog   0 mun 23 mun
      Caerdydd Canolog i Coryton 23 mun 21 mun
      Cyfanswm amser teithio 41 munud 64 munud

      Os byddant yn teithio o orsaf ar lein Coryton i orsaf Radur, mae gan deithwyr yr opsiwn o newid trenau yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a newid i wasanaeth sy'n teithio drwy Cathays a Llandaf i Radur. Mae'r daith hon yn 32 munud i gyd, ac mae'r daith yn ôl yn 39 munud. Bydd ein cynllunydd teithiau yn dangos y daith gyflymaf i chi, a gellir dod o hyd iddi yma.

  • Merthyr/Aberdâr i'r Barri/Ynys y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr
    • Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau Aberdâr yn teithio i Caerdydd Canolog ac yna i'r Barri ac Ynys y Barri. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau Merthyr yn teithio i Ben-y-bont ar Ogwr, Y Barri ac Ynys y Barri.

      O 02 Mehefin, bydd gwasanaethau Aberdâr a Merthyr yn teithio i Caerdydd Canolog, ond ni fyddant yn teithio ymlaen i Ben-y-bont ar Ogwr, Y Barri nac i Ynys y Barri.

      Yn hytrach, bydd gwasanaethau Rhymni a Bargoed yn teithio i Caerdydd Canolog ac yna Pen-y-bont ac Ynys y Barri.

      Cynghorir y rhai sy'n teithio o Ferthyr neu Aberdâr i Ben-y-bont ar Ogwr, Y Barri ac Ynys y Barri i newid yn Caerdydd Canolog.

      Mae amseroedd teithio ar gyfer y rhai sy'n teithio o Ferthyr/Aberdâr i Ben-y-bont ar Ogwr/Y Barri/Ynys y Barri i'w gweld isod:

      (D) - Uniongyrchol

      (C) - newid yn Caerdydd Canolog

      * Amser teithio yn ystod yr wythnos ar gyfartaledd

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio o 02 Mehefin
      Merthyr i Ben-y-bont Trwy'r Rhos 120 munud (D) 149 munud* (C)
      Merthyr i'r Barri 87 munud (D) 107 munud (C)
      Merthyr i Ynys y Barri 91 munud (D) 113 munud (C)
      Aberdâr i'r Ben-y-bont Trwy'r Rhos 137 munud (C) 135 munud* (C)
      Aberdâr i'r Barri 87 munud (D) 102 munud* (C)
      Aberdâr i Ynys y Barri 93 munud (D) 114 munud* (C)

       

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio o 02 Mehefin
      Ben-y-bont i Merthyr Trwy'r Rhos 139 munud (C) 139 munud* (C)
      Barri i Merthyr 91 munud (D) 97 munud (C)
      Ynys y Barri i Merthyr 95 munud (D) 100 munud (C)
      Ben-y-bont i Aberdâr Trwy'r Rhos 124 munud (D) 155 munud (C)
      Barri i Aberdâr 91 munud (D) 112 munud (C)
      Ynys y Barri i Aberdâr 95 munud (D) neu 110 munud (C) 116 munud (C)
  • Rhymni/Bargoed i Ben-y-bont ar Ogwr/ Y Barri/ Ynys y Barri
    • Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau Rhymni a Bargoed yn teithio i Benarth.

      O 02 Mehefin, bydd gwasanaethau Rhymni a Bargoed yn teithio i Caerdydd Canolog, ac yna byddant yn parhau i Ben-y-bont ar Ogwr, Y Barri ac Ynys y Barri.

      Gall y rhai sy'n teithio rhwng Penarth a Rhymni/Bargoed naill ai newid yng Nghaerffili ar gyfer gwasanaeth Penarth neu yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd/gorsaf Caerdydd Canolog.

      Dyma’r amseroedd teithio o Rhymni / Bargoed i Ben-y-bont ar Ogwr/ Y Barri / Ynys y Barri:

      (D) - Uniongyrchol

      (C) - newid yn Caerdydd Canolog 

      * Amser teithio yn ystod yr wythnos ar gyfartaledd

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio o 02 Mehefin
      Rhymni i Ben-y-bont ar Ogwr Trwy'r Rhos 131 munud* (C) 112 munud (D)
      Rhymni i'r Barri 98 munud (C) 82 munud* (D)
      Rhymni i Ynys y Barri 108 munud* (C) 94 munud (D)
      Bargoed i Ben-y-bont ar Ogwr Trwy'r Rhos 116 munud (C) 102 munud (D)
      Bargoed i'r Barri 80 munud* (C) 71 munud* (D)
      Bargoed i Ynys y Barri  91 munud (C) 79 munud* (D)

       

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio o 02 Mehefin
      Ben-y-bont ar Ogwr i Rhymni Trwy'r Rhos 143 munud* (C) 122 munud (D)
      Barri i Rhymni 93 munud* (C) 86 munud* (D)
      Ynys y Barri i Rhymni 97 munud* (C) 92 munud (D) or 113 munud (C)
      Ben-y-bont ar Ogwr i Bargoed Trwy'r Rhos 120 munud* (C) 106 munud (D)
      Barri i Bargoed 80 munud* (C) 73 munud* (D)
      Ynys y Barri I Bargoed 84 munud* (C) 80 munud* (D)
  • Rhymni / Bargoed i Benarth
    • Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau Rhymni a Bargoed yn teithio i Benarth.

      O 02 Mehefin, bydd gwasanaethau Rhymni a Bargoed yn teithio i Caerdydd Canolog, ac yna ymlaen i Ben-y-bont ar Ogwr ac Ynys y Barri. Yn hytrach, bydd gwasanaethau Coryton a Chaerffili yn teithio i Benarth.

      Gall y rheini sy'n teithio rhwng Penarth a Rhymni/Bargoed ddod oddi ar y trên yng Nghaerffili, Heol y Frenhines Caerdydd neu orsaf Caerdydd Canolog.

      Dyma’r amseroedd teithio ar gyfer teithio o Rymni/Bargoed i Benarth:

      (D) - Uniongyrchol

      (C) - newid yn Caerdydd Canolog

      * Amser teithio yn ystod yr wythnos ar gyfartaledd

        Amser teithio ar hyn o bryd  Amser teithio o 02 Mehefin
      Rhymni i Benarth 79 munud (D) 82 munud* (C)
      Bargoed i Benarth  64 munud* (D) 66 munud* (C)
      Penarth i Rhymni 75 munud* (D) 80 munud* (C)
      Penarth i Fargoed 61 munud* (D) 65 munud* (C)
       
  • Coryton/ Caerffili i Benarth
    • Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau lein Coryton yn teithio i Heol y Frenhines Caerdydd a Caerdydd Canolog, ac yna'n parhau i Radyr ar hyd Lein y Ddinas.  Mae gwasanaethau Caerffili yn teithio i Benarth ar hyn o bryd.

      O 02 Mehefin, bydd gwasanaethau Caerffili yn parhau i deithio i Benarth. Bydd gwasanaethau Coryton hefyd yn teithio i Benarth ac ni fyddant bellach yn teithio i Radyr ar hyd Lein y Ddinas.

      Gall teithwyr sy'n teithio o Coryton i'r gorsafoedd ar Lein y Ddinas (Parc Ninian, Parc Waun-Gron, Y Tyllgoed, Danescourt a Radyr) naill ai newid trên yn Stryd y Frenhines Caerdydd neu Caerdydd Canolog.

      Dyma’r amseroedd teithio ar gyfer teithio o Gaerffili/Coryton i Benarth:

      (D) - Uniongyrchol

      (C) - newid yn Caerdydd Canolog

      * Amser teithio yn ystod yr wythnos ar gyfartaledd

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio o 02 Mehefin
      Caerffili i Benarth 36 munud (D) 34 munud (D) or 39 munud (C)
      Coryton i Benarth 51 munud* (C) 35 munud (D)
      Penarth i Gaerffili 34 munud (D) 35 munud (D) or 37 munud (C)
      Penarth i Coryton 45 munud* (C) 34 munud (D)
       
  • Pontypridd i Fae Caerdydd
    • Ar hyn o bryd, os ydych am deithio rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd, mae angen i chi ddod oddi ar y trên yn Heol y Frenhines Caerdydd a defnyddio gwasanaeth gwennol rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.

      O 02 Mehefin, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth newydd a fydd yn rhedeg yn uniongyrchol o Bontypridd i Fae Caerdydd, gan alw ym mhob gorsaf ar hyd y daith. Ni fydd angen i deithwyr ar y gwasanaeth hwn newid trên yn Heol y Frenhines Caerdydd.

      Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg pob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae hyn yn ogystal a'r gwasanaeth gwennol rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.

      (D) - Uniongyrchol

      (C) - newid yn Caerdydd Canolog

      * Amser teithio yn ystod yr wythnos ar gyfartaledd

        Amser teithio ar hyn o bryd Amser teithio o 02 Mehefin
      Pontypridd i Fae Caerdydd   40 munud* (C) 30 munud (D)
      Bae Caerdydd i Bontypridd 41 munud* (C) 31 munud (D) or 36 munud (C)
       

 

Cwestiynau Cyffredin

 
  • Pam ydyn ni’n newid yr amserlen?
    • Rydym yn newid yr amserlen nawr i roi rhai o fanteision trawsnewid y Metro i chi cyn gynted â phosibl, ac i'n galluogi i redeg gwasanaethau amlach ar rai llwybrau o fis Mehefin.

      Dyluniwyd ein hamserlen bresennol i gyd-fynd â'n trenau disel traddodiadol ac nid yw'n caniatáu inni gynyddu amlder y gwasanaethau ar hyd linellau’r cymoedd na chyfateb i alw teithwyr am fwy o gapasiti ar lawer o'n gwasanaethau.  Ni allwn ychwanegu mwy o drenau nag ychwanegu mwy o orsafoedd i'r amserlen, felly mae angen i ni ailstrwythuro'r rhwydwaith, gan ganiatáu inni gyflwyno ein trenau trydan lle rydym eisoes wedi pweru’r linellau pŵer uwchben.

      Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd gwneud y penderfyniad, ac rydym yn cydnabod bod newid amserlen pob amser yn cael effaith ar fywydau pobl. Rydym yn ceisio cydbwyso'r manteision yn erbyn yr anghyfleustra i'r bobl hynny sy'n gorfod newid eu trefniadau teithio. Bydd rhai pobl ddim yn croesau’r newidiadau hyn i’r amserlenni ond bydd taith llawer o bobl eraill lawer yn haws.

  • Pam mae trenau rhwng Aberdâr a Caerdydd bellach yn teithio ar hyd Lein y Ddinas?
    • Un o'r problemau sy'n codi wrth ddefnyddio mwy o drenau yw na allant ffitio ar gledrau gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.  Oherwydd hyn, mae'n rhaid i rai deithio ar hyd Lein y Ddinas.

      Mae hyn yn arwain at rai buddion, er enghraifft, teithiau cyflymach yn ôl ac ymlaen o Caerdydd Canolog.  Ond, gwyddom fod hyn yn llai cyfleus os ydych yn teithio yn ôl ac ymlaen o Llandaf, Cathays neu Heol y Frenhines.

      Mae dau opsiwn os ydych yn teithio rhwng Aberdâr a Llandaf, Cathays neu Heol y Frenhines Caerdydd:

      1. Arhoswch ar y trên a theithio ar wasanaeth Lein y Ddinas, trwy Caerdydd Canolog ac ymlaen i Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays a Llandaf.
      2. Newid ym Mhontypridd i’r gwasanaeth newydd rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd, sy'n gadael 5 munud ar ôl y gwasanaeth o Aberdâr ac yn rhedeg trwy Llandaf, Cathays a Heol y Frenhines Caerdydd.  Bydd gwasanaethau o Dreherbert a Merthyr Tudful hefyd yn teithio i Caerdydd Canolog ar hyd y llwybr hwn.
  • A fydd y 5 munud o oedi ym Mhontypridd i’w weld ar ap TrC ac ar gynllunwyr teithiau ar-lein?
    • Bydd. Bydd ap TrC a'n cynllunwyr teithiau ar-lein yn dangos y ddau opsiwn; 5 munud o aros i newid yng ngorsaf Pontypridd neu aros ar y trên a pharhau â’r daith i Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays a Llandaf.

  • O pa blatfform yn Caerdydd Canolog fydd y trenau yn gadael i gyfeiriad Treherbert/Aberdâr/Merthyr?
    • Bydd trenau i gyfeiriad Merthyr Tudful yn gadael o blatfform 6 (fel sy'n digwydd ar hyn o bryd), a bydd trenau i gyfeiriad Treherbert yn gadael o blatfform 7 (fel sy'n digwydd ar hyn o bryd).

      Bydd trenau i gyfeiriad Aberdâr yn gadael o blatfform 7.

      Os ydych yn teithio i unrhyw orsaf rhwng Radyr ac Abercynon, gallwch aros ar blatfform 6/7 a chadw llygad ar y sgriniau gwybodaeth i gael manylion y gwasanaeth cynharaf.

  • Rwy'n ddisgybl yn ysgol Esgob Llandaf, sut alla i gyrraedd yr ysgol?
    • Bydd teithiau i ddisgyblion sy'n teithio o orsafoedd ar hyd Lein Coryton i orsaf y Tyllgoed ar hyd Lein y Ddinas (ac yn ôl) ychydig yn wahanol o fis Mehefin.

      O ddydd Sul 02 Mehefin, ni fydd gwasanaethau lein Coryton yn teithio i Radyr ar hyd Lein y Ddinas. Yn hytrach, bydd gwasanaethau Coryton yn teithio i Caerdydd Canolog, ac ymlaen i Benarth. Ni fyddant bellach yn teithio mewn cylch i Barc Ninian, Parc Waun-Gron, Y Tyllgoed, Danescourt a Radyr ar hyd Lein y Ddinas.

      Yn y bore, gall myfyrwyr ddal y trên yn ôl yr arfer yn unrhyw un o’r gorsafoedd ar hyd lein Coryton. Yna bydd rhaid iddyn nhw newid trên yn Heol y Frenhines Caerdydd neu yn Caerdydd Canolog ac aros ar yr un platfform a theithio ar wasanaeth Aberdâr a fydd yn teithio ar hyd Lein y Ddinas.

      Yn y prynhawn, gall myfyrwyr ddal y trên fel arfer o'r Tyllgoed, gan newid yng Nghaerdydd Canolog neu Heol y Frenhines Caerdydd ac aros ar yr un platfform i ddal gwasanaeth Coryton.

      Mae gwasanaeth lein Coryton yn galw yng ngorsafoedd Lefel Isel y Mynydd Bychan, Tŷ Glas, Birchgrove, Rhiwbeina a Cortyon.

      Hefyd, bydd gwasanaethau bws ychwanegol ar gael yn ystod y tymor arholiadau ym mis Mehefin i sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd yr ysgol mewn pryd, gan ein bod yn gwerthfawrogi y bydd yn cymryd amser i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â'r amserlen newydd. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael rhwng dydd Llun 3 Mehefin 2024 nes ddydd Gwener 21 Mehefin 2024, gan adael yn y boreau am 07:49 o orsaf Coryton (yn cyrraedd gorsaf Tyllgoed am 08:05) ac yn y prynhawn am 15:30 o orsaf Tyllgoed (gan gyrraedd gorsaf Coryton am 15:45).

      Mesur dros dro fydd y gwasanaeth bws yn lle trên hwn, er mwyn helpu disgyblion yn ystod tymor yr arholiadau yn unig.

      Rydym wedi llunio dogfen Cwestiynau Cyffredin ar gyfer myfyrwyr Ysgol Esgob Llandaf sy'n amlinellu'r prif newidiadau i'r amserlen a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer eu teithiau yn ôl ac ymlaen o'r ysgol. Cysylltwch â'r ysgol i gael copi.

  • Ar ba linellau rheilffordd fyddwn i’n gweld cynnydd mewn gwasanaethau?
      • Bargod i Rymni - Amlder cynyddol o 1 trên yr awr i 2 drên yr awr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda phob trên arall yn rhedeg yn ddi-stop rhwng Bargod a Rhymni.
      • Caerdydd i Gaerffili - trenau yn rhedeg bob 10 munud rhwng 06:30 a 18:30 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
      • Pontypridd i Gaerdydd Cynyddu amlder o 6 trên yr awr i 8 trên yr awr, yn rhedeg rhwng 07:00 a 19:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd pob un o'r 8 trên yr awr yn galw yn Ystâd Trefforest.
  • Ar ba linellau rheilffordd fyddwn i’n gweld lleihad mewn gwasanaethau?
    • Bydd gwasanaethau o Heol y Frenhines Caerdydd i Fae Caerdydd yn lleihau dros dro o 5 trên yr awr i 4, gyda threnau bob 18 a 12 munud am yn ail, yn hytrach na phob 12 munud ar hyn o bryd.

      Unwaith y cwblheir y gwaith trawsnewid ar reilffordd Bae Caerdydd, byddwn yn gallu cynyddu amlder y trenau i 6 trên yr awr, gyda trên yn rhedeg pob 10 munud rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.

  • A fydd yna wasanaethau ar ddydd Sul ar linellau Coryton neu Lein y Ddinas?
    • Fel rhan o'r newid i’r amserlen, byddwn yn gallu cyflwyno gwasanaeth ar ddydd Sul i redeg pob awr ar Lein y Ddinas am y tro cyntaf.

      Wrth i'r gwaith trawsnewid barhau ar hyd llinell Coryton wrth i ni baratoi ar gyfer trydaneiddio, bydd gwaith peirianyddol yn parhau ar ddydd Sul.  Oherwydd hyn, ni fyddwn yn gallu rhedeg gwasanaethau ar ddydd Sul ar linell Coryton o fis Mehefin ymlaen, ond rydym yn bwriadu cyflwyno gwasanaethau ar y Sul unwaith y cwblheir y gwaith trawsnewid.

  • Rwy'n byw yn Y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr, fydd y newidiadau i'r amserlen yn effeithio arna i?
    • Rydym yn parhau i wneud gwaith seilwaith ar hyd lein Rhymni, gan gynnwys gosod signalau newydd a thrydaneiddio'r lein sy'n allweddol i allu rhedeg trenau trydan newydd ar y lein a chynyddu amlder gwasanaethau.

      Oherwydd hyn, ni allwn gynyddu amlder y gwasanaethau sy'n teithio rhwng Rhymni, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr/Y Barri.

      O 02 Mehefin 2023, bydd gwasanaethau Rhymni yn teithio yn ôl ac ymlaen o Ben-y-bont ar Ogwr, a bydd 1 trên yn rhedeg pob awr.

      Bydd gwasanaethau Rhymni a Bargoed yn teithio i Ynys y Barri, gydag 1 trên yr awr o Rymni a 2 drên yr awr o Fargoed.

      Bydd y gwasanaeth i'r Barri yn parhau i fod yn 4 trên yr awr, gyda 2 drên yn teithio o Rymni a 2 o Fargoed.

      Er nad ydym yn cynyddu amlder gwasanaethau yn y newid hwn i'r amserlen, bydd angen i deithwyr wirio cyn teithio o hyd gan y bydd amseroedd trenau yn newid.

  • Pryd fyddwn ni'n rhoi'r trenau newydd ar waith ac i ba le fydda nhw'n teithio?
    • Byddwn yn cyflwyno trenau trydan newydd sbon ar rwydwaith De-ddwyrain Cymru yn ddiweddarach eleni. Yn gyntaf, byddwn yn defnyddio ein trenau tri-dull Stadler FLIRT, a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr, gyda'r mwyafrif o wasanaethau yn cael eu darparu gan drenau newydd sbon yn 2025.

  • Pryd fydd y trenau tram yn dechrau gwasanaethu?
    • Bydd y trenau tram yn dechrau gwasanaethu yn 2025, a byddant yn rhedeg ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr, gyda'r trenau Dosbarth 756 yn cael eu symud i reilffyrdd Rhymni a Coryton, gan deithio i'r Barri a Phen-y-bont ar Ogwr.

  • Pryd y gwelwn drenau newydd ar reilffyrdd Y Barri/Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr?
    • Bydd ein trenau Stadler 231 newydd yn dechrau teithio i'r Barri ac Ynys y Barri ym mis Mehefin 2024. Dechreuodd y trenau wasanaethu ar reilffordd Rhymni yn 2023. Mae ganddynt doiled mynediad cyffredinol ynghyd â 4 cerbyd. Gallwch ddarllen mwy am y trenau hyn yma.

      Bydd y trenau Dosbarth 231 yn gweithio ochr yn ochr â'n trenau disel Dosbarth 150, a fydd yn parhau i gael eu defnyddio ar reilffyrdd y Barri ac Ynys y Barri nes bod ein trenau newydd oll yn gwasanaethu ar y rhwydwaith yn 2025.

      Ar ôl cwblhau gwaith seilwaith allweddol ar reilffordd Rhymni, bydd trenau newydd sbon Stadler FLIRT yn dechrau teithio i Ben-y-bont ar Ogwr o 2025. Tan hynny, bydd ein trenau disel Dosbarth 150 yn parhau i wasanaethu ar y lein.

  • A fydd toiledau ar gael ar y trenau newydd?
    • Mae gan ein trenau tri-dull FLIRT newydd doiledau hygyrch. Bydd y trenau hyn yn dechrau gwasanaethu ar reilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr o Haf 2024.

      Nid oes toiledau mynediad cyffredinol ar y trenau tram, a fydd yn dechrau gwasanaethu yn 2025.

      Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall teithwyr gael mynediad i doiledau pan yn teithio ar wasanaeth Metro De Cymru. Byddwn yn cynyddu nifer y toiledau mynediad cyffredinol sydd ar gael yn ein gorsafoedd ar rwydwaith y Metro fel y bydd teithwyr bob amser o fewn 20 munud o gyrraedd toiled pan fydd y trenau tram yn dechrau ar eu gwaith.

      Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys fideo 3D o'n fflyd newydd, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

  • A fydd teithiau'n gyflymach ar ôl newid amserlen mis Mehefin?
    • I ddechrau, byddwn yn parhau i ddefnyddio ein trenau disel Dosbarth 150 wrth i ni gyflwyno ein trenau newydd fesul cam. Mae hyn yn golygu na allwn gyflymu pethau ar unwaith.

      Unwaith bydd y trenau newydd wedi disodli'r olaf o'r hen drenau, byddwn yn newid yr amserlen eto i fanteisio ar gyflymder y trenau trydan newydd.

      Bydd hyn yn arwain at leihau rhywfaint ar amseroedd teithio yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

  • Pa lwybrau fydd yn cael eu trydaneiddio fel rhan o'r Metro?
    • Fel rhan o’r Metro, rydym yn trydaneiddio Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, sy’n cynnwys rheilffyrdd Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert, rheilffyrdd y Ddinas a’r Bae. Rydym eisoes wedi trydaneiddio'n llawn linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert drwodd i Gaerdydd trwy Lein y Ddinas a Llandaf. Bydd y llinellau sy'n weddill yn cael eu trydaneiddio drwy gydol 2025 a 2026.

      Mae llinellau eraill yng Nghymru, gan gynnwys y llinellau i'r de o Gaerdydd canolog sy'n arwain at Ben-y-bont ar Ogwr a'r Barri, yn cael eu rheoli gan ein partneriaid Network Rail ar ran Llywodraeth y DU.

      Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am drydaneiddio rhwydwaith y cymoedd yma.

  • A fydd prisiau tocynnau'n codi?
    • Does dim cynlluniau i gynyddu prisiau tocynnau fel rhan o newid amserlen mis Mehefin.

  • A ddylwn i bryderu am orfod newid trên os bydd y trên byddaf yn teithio arno yn hwyr gan arwain at fethu fy nhrên cysylltiol?
    • Wrth i ni gynyddu amlder gwasanaethau ar draws rhwydwaith De-ddwyrain Cymru o fis Mehefin, mewn sawl rhan o'r rhwydwaith bydd y trenau yn teithio yn amlach. Er enghraifft, bydd trenau pob 10 munud rhwng Caerdydd a Chaerffili, a phob 8 munud rhwng Pontypridd a Chaerdydd.

      Os byddwch chi'n colli'ch trên cysylltiol, yn y rhan fwyaf o achosion dim ond ychydig funudau y bydd yn rhaid i chi aros am y trên nesaf.

  • Pryd fydd pedwar trên yr awr yn teithio i'r cymoedd?
    • Ni allwn gyflwyno 4 trên yr awr i ben pob llinell yn y cymoedd ar hyn o bryd (Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful a Rhymni) nes y cwblheir ein gwaith trawsnewid. Mae hyn oherwydd bod angen i ni osod signalau newydd sbon i'n galluogi i gynyddu amlder y gwasanaethau a thrydaneiddio holl linellau’r cymoedd. Unwaith y cwblheir y gwaith hwn, ac mae'r trenau newydd yn gweithredu'n ddibynadwy, yna, fe allwn gynyddu'r amserlen i 4 trên yr awr.

  • Pam na allwch chi gynyddu amlder gwasanaethau ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr o fis Mehefin?
    • Mae angen gwneud gwaith hanfodol yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd er mwyn wella’r systemau signalau yno a fydd yn ein galluogi i gynyddu amlder y gwasanaethau ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr i 4 trên yr awr. Bwriedir i'r gwaith hwn ddigwydd dros y misoedd nesaf i'n galluogi i gynyddu amlder y gwasanaethau sy'n gallu rhedeg drwy'r orsaf.

  • Pryd fydd gwasanaethau hwyrach yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau yn teithio ar linellau'r cymoedd?
    • Ar hyn o bryd, mae gwaith peirianneg yn parhau ar hyd llinellau’r cymoedd yn cwblhau gwaith seilwaith allweddol sy'n hanfodol i'n galluogi i wella'r gwasanaeth rheilffordd.  Mae angen i'n timau gael mynediad at y llinellau yn y nos i gwblhau'r gwaith hwn pan nad yw ein trenau yn cludo teithwyr.  Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch ein timau ac yn caniatáu iddynt gael mynediad llawn i'r trac ar gyfer eu hoffer.

      Oherwydd hyn, ni allwn redeg gwasanaethau hwyrach gan fod angen i'n timau seilwaith gael mynediad i'r trac. Unwaith y bydd y gwaith trawsnewid wedi'i gwblhau, byddwn yn gallu rhedeg gwasanaethau hwyrach ar hyd linellau Craidd y Cymoedd.

  • Bydd y trenau newydd yn rhoi'r gorau i wasanaethu ar Lein Penarth - beth yw'r rheswm dros hyn?
    • Gan y bydd yr amserlen yn newid ym mis Mehefin, mae strwythur amserlen Llinellau Craidd y Cymoedd wedi newid. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau dwyffordd i Benarth fel rheol yn rhedeg fel rhan o wasanaethau Rhymni. Yn gynnar yn 2023, fe wnaethon ni ddechrau defnyddio trenau Dosbarth 231 newydd ar y lein hon, gan ddisodli'r trenau Dosbarth 769 blaenorol.

      Fodd bynnag, fel rhan o'r newidiadau i'r amserlen, bydd gwasanaethau Rhymni nawr yn rhedeg ymlaen i Ynys y Barri neu Ben-y-bont ar Ogwr drwy Rhws a Llanilltud Fawr. Bydd y trenau dosbarth 231 yn gwasanaethu ddwyffordd i Ynys y Barri. Bydd gwasanaethau Penarth nawr yn teithio ymlaen i Coryton a Chaerffili, a byddant yn cael eu cynnal dros dro gan y trenau 'Sprinter' hŷn.

      Unwaith y bydd y gwaith trawsnewid ar Reilffordd Rhymni wedi'i gwblhau, caiff gwasanaethau Penarth eu trosglwyddo i drenau Dosbarth 756 newydd sbon – y gobaith yw y bydd hyn yn digwydd yn 2025.